Busnes a hawliau dynol

Mae gan bob busnes drwy'r byd gyfrifoldeb i barchu hawliau dynol. Cyplysir y ddau bwnc yma, busnes a hawliau dynol, gyda'i gilydd mewn dogfen o'r enw Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Mae'r ddogfen hon yn offeryn sy'n cynnwys 31 o egwyddorion ac mae'n gweithredu fframwaith "Amddiffyn, Parch a Gwella", hefyd gan y Cenhedloedd Unedig ar fater hawliau dynol a chorfforaethau trawswladol a mentrau busnes eraill. Diffiniodd yr Egwyddorion Arweiniol hyn y safon fyd-eang gyntaf ar gyfer atal a mynd i'r afael â'r risg o effeithiau andwyol ar hawliau dynol sy'n gysylltiedig â gweithgaredd busnes, ac maent yn parhau i ddarparu'r fframwaith a dderbynnir yn rhyngwladol ar gyfer gwella safonau ac arferion o ran busnes a hawliau dynol.

Busnes a hawliau dynol
Enghraifft o'r canlynolmaes gwaith Edit this on Wikidata
Mathperthynas Edit this on Wikidata

Ar 16 Mehefin 2011, cymeradwyodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yr Egwyddorion Arweiniol hyn yn unfrydol, hwn, felly, yw'r fenter hawliau dynol corfforaethol cyntaf i gael ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig.[1]

Mae siopau chwys yn enghraifft mewn gwledydd sy'n datblygu lle mae llafur plant ac amodau gwaith anniogel yn gyffredin. Mae angen i gwmnïau mawr roi sylw manwl i’w cadwyni cyflenwi ond gall busnesau effeithio ar hawliau dynol pobl mewn ffyrdd mwy cynnil, gartref a thramor. Mae angen i gwmnïau sicrhau eu bod yn parchu hawl pobl i breifatrwydd ac yn cynnal deddfau diogelu data, mae angen i ddarparwyr gofal drin y bobl y maent yn gofalu amdanynt ag urddas a pharch ac mae rhwymedigaeth ar bob busnes i sicrhau amodau gwaith diogel ar gyfer eu staff.

Dyletswydd y wladwriaeth i amddiffyn hawliau dynol golygu

Colofn gyntaf yr Egwyddorion Arweiniol yw dyletswydd y wladwriaeth i amddiffyn rhag cam-drin hawliau dynol trwy reoleiddio, llunio polisi, ymchwilio a gorfodi. Mae'r golofn hon yn ailddatgan rhwymedigaethau presennol gwlad dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol, fel y nodwyd yn Natganiad Cyffredinol Hawliau Dynol 1948 .[2]

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

  

Cyfeiriadau golygu

  1. Surya Deva, "Guiding Principles on Business and Human Rights: Implications for Companies", European Company Law, Vol. 9, No. 2, pp. 101-109, 2012; University of Oslo Faculty of Law Research Paper No. 2012-10, published 26 Mawrth 2012, accessed 3 Gorffennaf 2012
  2. The Kenan Institute for Ethics, "The U.N. Guiding Principles on Business and Human Rights: Analysis and Implementation", Ionawr 2012. "", Retrieved Medi 10, 2020