Hawliau dynol a newid hinsawdd

fframwaith i wynebu problemau newid hinsawdd

Mae Hawliau Dynol a Newid Hinsawdd yn fframwaith cysyniadol a chyfreithiol lle mae hawliau dynol rhyngwladol a'u perthynas â chynhesu byd-eang yn cael eu hastudio, eu dadansoddi a'u trin. Defnyddiwyd y fframwaith gan lywodraethau, sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, sefydliadau rhynglywodraethol ac anllywodraethol, eiriolwyr hawliau dynol ac amgylcheddol, ac academyddion i arwain polisi cenedlaethol a rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd o dan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) a'r offerynnau hawliau dynol rhyngwladol hollbwysig.

Hawliau dynol a newid hinsawdd
Enghraifft o'r canlynolstrwythur Edit this on Wikidata
Rhan oamrywioldeb yr hinsawdd, hawliau dynol Edit this on Wikidata

Mae dadansoddiad hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd yn canolbwyntio ar y canlyniadau a ragwelir i fodau dynol sy'n gysylltiedig â ffenomenau amgylcheddol byd-eang gan gynnwys codiad yn lefel y môr, anialwch yn ehangu, cynnydd mewn tymheredd, digwyddiadau tywydd eithafol, a newidiadau mewn dyodiad, ynghyd â mesurau addasu (adaption) a lliniaru (mitigation) a gymerir gan lywodraethau mewn ymateb i'r ffenomenau hynny a allai gynnwys hawliau dynol neu amddiffyniadau cyfreithiol cysylltiedig. Mae llawer o ymagweddau cyfreithiol tuag at newid yn yr hinsawdd yn defnyddio'r hawl i amgylchedd iach, hawliau cysylltiedig eraill neu ddulliau cyfraith amgylcheddol newydd, megis hawliau natur, i eiriol dros gamau newydd gan lywodraethau a a chyrff preifat, trwy eiriolaeth cyfiawnder hinsawdd ac ymgyfreitha hinsawdd.

Hanes golygu

Yn 2005, fe wnaeth actifydd Inuit, Sheila Watt-Cloutier, ffeilio deiseb i'r Comisiwn Rhyng-Americanaidd ar Hawliau Dynol yn ceisio rhyddhad "rhag torri hawliau dynol sy'n deillio o effeithiau cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd a achosir gan weithredoedd a hepgoriadau (acts and omissions) yr Unol Daleithiau." [1] Gwrthodwyd y ddeiseb, ond gwahoddodd a chlywodd y Comisiwn dystiolaeth ar y berthynas rhwng hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd gan gynrychiolwyr yr Inuit yn 2007.[2]

Yr un flwyddyn, nododd Datganiad Datganiad Malé ar Newid Hinsawdd Byd-eang o ran y Ddynoliaeth "yn benodol (ac am y tro cyntaf mewn cytundeb rhyngwladol) bod gan 'newid yn yr hinsawdd oblygiadau clir ac uniongyrchol ar gyfer mwynhad llawn o hawliau dynol' a galwodd ar y System hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig i fynd i'r afael â'r mater ar frys."[3][4]

Y flwyddyn ganlynol, mabwysiadodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (HRC) Benderfyniad 7/23 yn unfrydol, gan gydnabod bod "newid hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a phellgyrhaeddol i bobl a chymunedau ledled y byd ac mae ganddo oblygiadau ar gyfer mwynhad llawn o hawliau dynol, "gan nodi Siarter y Cenhedloedd Unedig, y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol.[5] Ail-gadarnhaodd ac ehangodd y Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig y datganiadau hyn gyda phenderfyniadau 10/4 ar 25 Mawrth 2009[6] a 18/22 ar 30 Medi 2011.

Yn 2009, rhyddhaodd Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol (OHCHR) astudiaeth ddadansoddol yn nodi hawliau penodol a grwpiau pobl sy'n debygol o gael eu heffeithio'n andwyol gan aflonyddwch dyn ar yr hinsawdd.[7] Tynnodd yr adroddiad ar gyflwyniadau gan tua 30 o genhedloedd yn ogystal â deg Asiantaeth y Cenhedloedd Unedig a dwsinau o sefydliadau eraill.[8] Nododd yr adroddiad y bobl sydd wedi'u dadleoli, peryglon gwrthdaro oherwydd newid hinsawdd a hawliau y bobl frodorol, menywod a phlant fel pryderon mawr.[9]

Yn 2010, atgynhyrchodd Cynhadledd y Partïon i’r UNFCCC iaith y Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig gan nodi’r berthynas rhwng hawliau dynol a newid hinsawdd yn ei hadroddiad ar Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2010 yn Cancun, Mecsico.[10] Pwysleisiodd yr adroddiad ar ganlyniad y Gynhadledd y dylai "Partïon, ym mhob gweithred sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, barchu hawliau dynol yn llawn."[11]

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd mwy o gydnabyddiaeth o'r cysylltiad rhwng hawliau dynol a'r amgylchedd, ac eto mae yna lawer o gwestiynau o hyd ynglŷn â'r berthynas rhyngddynt. O ganlyniad, yn 2012 sefydlodd y Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fandad ar rwymedigaethau hawliau dynol yn ymwneud â mwynhau amgylchedd diogel, glân, iach a chynaliadwy.[12] Nododd adroddiad rhagarweiniol gan yr Arbenigwr Annibynnol penodedig, John H. Knox, ymhellach fod angen rhoi blaenoriaeth i ddarparu mwy o eglurder cysyniadol i gymhwyso hawliau dynol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd.[13]

Yn 2014, cyhoeddodd pob un o’r 78 o Ddeiliaid Mandad Gweithdrefnau Arbennig y Cenhedloedd Unedig ddatganiad ar y cyd ar Ddiwrnod Hawliau Dynol yn galw ar wladwriaethau i ymgorffori eu rhwymedigaethau presennol o dan y fframwaith hawliau dynol mewn trafodaethau ar newid hinsawdd.[14] Effaith hyn fyddai dod â hawliau'r rhai y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt yn flaenllaw ym mhob ymateb.

Ym mis Mawrth 2015, erbyn hyn mae Rapporteur Arbennig ar hawliau dynol a'r amgylchedd, estyniad o fandad y cyn-Arbenigwr Annibynnol ar rwymedigaethau hawliau dynol sy'n ymwneud â mwynhau hawl i amgylchedd diogel, glân, iach a chynaliadwy .[15] Yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2015 ym Mharis, hysbysodd y Rapporteur Arbennig y dylent sicrhau bod eu rhwymedigaethau hawliau dynol gwmpasu'r persbectif priodol tuag at newid hinsawdd wrth drafod cytundebau yn y dyfodol.[16]

Cytundeb Paris, fel y'i mabwysiadwyd ar 12 Rhagfyr 2015 yng Nghynhadledd y Partïon, yw'r arwydd pwysicaf o gynyddu ymwybyddiaeth tuag at y berthynas rhwng newid hinsawdd a hawliau dynol.[17] Cytundeb Paris yw'r cytundeb hinsawdd cyntaf i gydnabod perthnasedd hawliau dynol, gan nodi:[18]

Dylai partïon (wrth weithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd) barchu, hyrwyddo ac ystyried eu priod rwymedigaethau ar hawliau dynol, yr hawl i iechyd, hawliau pobl frodorol, cymunedau lleol, ymfudwyr, plant, pobl ag anableddau a phobl mewn sefyllfaoedd bregus a'r hawl i ddatblygu, yn ogystal â chydraddoldeb rhyw, grymuso menywod a thegwch rhwng cenedlaethau.

Mae newid yn yr hinsawdd yn ysgogi nid yn unig addasiadau ecolegol, ond mae hefyd yn effeithio ar agweddau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, diwylliannol a chyfreithiol cymdeithasau ledled y byd. Mae Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod y gall rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth hawliau dynol gryfhau polisïau rhyngwladol a chenedlaethol ym maes newid hinsawdd.[19] Roedd Datganiad Stockholm 1972 yn sail ar gyfer ymhelaethu ymhellach ar yr hawl ddynol i ansawdd amgylcheddol.[20] Nid yw diogelu'r amgylchedd yn cael ei gynnwys yn gyffredin mewn cytuniadau hawliau dynol. Yn hytrach, mae diogelu'r amgylchedd yn deillio o'r hawliau y mae'r cytuniadau hynny'n eu gwarchod, megis yr hawliau i fywyd, bwyd, dŵr ac iechyd.[21] Wrth symud ymlaen, gallai cyfraith hawliau dynol yng nghyd-destun llunio polisi newid hinsawdd helpu i sefydlu safonau gofynnol o hawliau dynol sylfaenol y gellir eu mabwysiadu mewn mesurau lliniaru ac addasu rhyngwladol a chenedlaethol.

Hawliau cysylltiedig golygu

Mae'r rhan fwyaf o ddatganiadau rhyngwladol ar hawliau dynol a newid hinsawdd wedi pwysleisio effeithiau andwyol posibl newid hinsawdd ar yr hawliau i fywyd, bwyd, iechyd, tai, datblygu a hunanbenderfyniad.[22][23] Mae'r hawliau hyn wedi'u hystyried yng nghonfensiynau craidd cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, er nad yw holl aelodau Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig na phleidiau UNFCCC wedi llofnodi'r confensiynau hyn.

Ar hyn o bryd mae mudo posib a achosir gan yr hinsawdd yn un o'r effeithiau mwyaf dadleuol yn sgil newid hinsawdd. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai newid yn yr hinsawdd greu tua 50 i 200 miliwn o bobl newydd wedi'u dadleoli'n fewnol a ffoaduriaid rhyngwladol erbyn y flwyddyn 2100.[24] Mae "mega-deltas" yn Asia, Affrica, ac ynysoedd bach mewn perygl mawr o lifogydd a stormydd, fel y mae tiroedd eang ar lannau'r Ddyfrdwy ac Ynys Mon hefyd, a all achosi dadleoli'r poblogaethau lleol ar raddfa fawr.[25] Bydd ymfudo a achosir gan newid hinsawdd naill ai'n effeithio neu'n torri normau hawliau dynol rhyngwladol sylfaenol.

Cyfiawnder hinsawdd golygu

Mae trafodaeth sylweddol ynghylch y cysyniad o gyfiawnder newid hinsawdd i'r ymfudwr amgylcheddol neu'r 'ffoadur hinsawdd'. Nod y cysyniad hwn yw llenwi bwlch yn y sectorau cyfreithiol a gwleidyddol ar gyfer y miliynau o bobl na allant dderbyn amddiffyniad cyfreithiol rhyngwladol gan nad yw'r ffynhonnell ymfudo hon wedi'i chynnwys eto mewn cyfraith ranbarthol na rhyngwladol.[26] Ar hyn o bryd nid oes diffiniad sefydledig ar gyfer pwy ellir ei ddiffinio fel ffoadur hinsawdd oherwydd nad yw wedi'i ymgorffori mewn cyfraith ryngwladol eto. Yn 2014 gadawodd Siego Alesana yr ynys fechan Tuvalu oherwydd yr ansicrwydd ynghylch effeithiau andwyol newid hinsawdd.[27] Mae Tuvalu yn ddim ond 4.6m uwch lefel y môr ac mae'n wynebu'r perygl o ddiflanu, o ganlyniad i lefelau'r môr yn codi. Er bod effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cyflwyno ar ran Alesana a'i deulu, roedd yr achos yn dibynnu i raddau helaeth ar seiliau dyngarol. Fodd bynnag, nododd y Tribiwnlys Mewnfudo ac Amddiffyn fod diraddiad amgylcheddol a achosir gan newid yn yr hinsawdd eisoes yn nodwedd o fywyd yn Tuvalu. Er nad oedd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar effeithiau newid hinsawdd, nid yw hynny'n golygu nad oedd ffactorau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd wedi'u hystyried o gwbl.[28]

Mae'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudo wedi cyflwyno diffiniad gweithredol o ymfudwr amgylcheddol:[29]

Mae ymfudwyr amgylcheddol yn bobl neu'n grwpiau o bobl sydd, yn bennaf am resymau newid sydyn neu flaengar yn yr amgylchedd sy'n effeithio'n andwyol ar eu bywydau neu amodau byw, yn gorfod gadael eu cartrefi arferol, neu ddewis gwneud hynny, naill ai dros dro neu'n barhaol, a sy'n symud o fewn eu gwlad neu symud dramor.

Adeiladu heddwch rhyngwladol Mae Rhybudd Rhyngwladol NGO yn enwi 46 o wledydd lle gall effeithiau newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys prinder dŵr, colli tir âr, digwyddiadau tywydd eithafol, tymhorau tyfu byrrach, a rhewlifoedd toddi) ryngweithio â grymoedd economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol i greu "risg uchel. o wrthdaro treisgar." [30]

Pobl frodorol golygu

Mae Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi nodi bod hawliau pobl frodorol yn arbennig o fregus ac yn agored i effeithiau aflonyddgar newid hinsawdd.[31][32] Oherwydd hyn, mae pobl frodorol wedi cael eu bygwth â'u bywoliaeth a'u hunaniaethau diwylliannol ledled y byd: Gogledd America, Ewrop, America Ladin, Affrica, Asia a'r Môr Tawel. Effeithir ar oddeutu 370 miliwn o bobl frodorol.[33]

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Petition to the Inter American Commission on Human Rights Seeking Relief from Violations Resulting from Global Warming Caused by Acts and Omissions of the United States. 7 December 2005. http://www.inuitcircumpolar.com/files/uploads/icc-files/FINALPetitionICC.pdf. Adalwyd 25 April 2012.
  2. Sieg, Richard (2 Mawrth 2007). "At International Commission, Inuit Want to See Change in U.S. Policy on Global Warming". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 25 April 2012.
  3. Limon, Marc (2009). "HUMAN RIGHTS AND CLIMATE CHANGE: CONSTRUCTING A CASE FOR POLITICAL ACTION". Harvard Environmental Law Review 33 (2): 439–476. http://www.law.harvard.edu/students/orgs/elr/vol33_2/Limon.pdf. Adalwyd 25 April 2012.
  4. Malé Declaration on the Human Dimension of Global Climate Change. 14 Tachwedd 2007. http://www.ciel.org/Publications/Male_Declaration_Nov07.pdf.
  5. HRC (28 Mawrth 2008). UNHRC Resolution 7/23, Human rights and climate change. http://ap.ohchr.org/documents/E/HRC/resolutions/A_HRC_RES_7_23.pdf.
  6. HRC (25 Mawrth 2009). UNHRC Resolution 10/4, Human rights and climate change. http://ap.ohchr.org/documents/E/HRC/resolutions/A_HRC_RES_10_4.pdf.
  7. OHCHR (15 Ionawr 2009). Report of the Office of the United Nations High Commissioner for Human Rights on the relationship between climate change and human rights. http://daccess-dds-ny.un.org/doc/UNDOC/GEN/G09/103/44/PDF/G0910344.pdf?OpenElement. Adalwyd 25 April 2012.
  8. OHCHR. "OHCHR study on the relationship between climate change and human rights: Submissions and reference documents received". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-16. Cyrchwyd 25 April 2012.
  9. See Report. http://daccess-dds-ny.un.org/doc/UNDOC/GEN/G09/103/44/PDF/G0910344.pdf?OpenElement. Adalwyd 2012-04-25., n.8, at 15-22.
  10. Conference of the Parties (15 Mawrth 2011). FCCC/CP/2010/7/Add.1, Report of the Conference of the Parties on its sixteenth session, held in Cancun from 29 November to 10 December 2010, Addendum, Part Two: Action taken by the Conference of the Parties at its sixteenth session. http://unfccc.int/resource/docs/2010/cop16/eng/07a01.pdf.
  11. "Id.". Decision 1/CP.16, the Cancun Agreements: Outcome of the Work of the Ad Hoc Working Group on Long-term Cooperative Action Under the Convention. 15 Mawrth 2011. http://unfccc.int/resource/docs/2010/cop16/eng/07a01.pdf.
  12. HRC (19 April 2012). UNHRC Resolution 19/10, Human rights and the environment. https://documents-dds-ny.un.org/doc/RESOLUTION/GEN/G12/131/59/PDF/G1213159.pdf?OpenElement. Adalwyd 2021-04-19.
  13. UNHRC (24 December 2012). Report of the Independent Expert on the issue of human rights obligations relating to the enjoyment of a safe, clean, healthy and sustainable environment. http://www.ohchr.org/Documents/HRBodies/HRCouncil/RegularSession/Session22/A-HRC-22-43_en.pdf.
  14. "OHCHR | Statement of the United Nations Special Procedures Mandate Holders on the occasion of the Human Rights Day Geneva, 10 December 2014". www.ohchr.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-09-05.
  15. HRC (7 April 2015). UNHRC Resolution 28/11, Human rights and the environment. https://documents-dds-ny.un.org/doc/UNDOC/GEN/G15/071/78/PDF/G1507178.pdf?OpenElement. Adalwyd 2021-04-19.
  16. "OHCHR | COP21: "States' human rights obligations encompass climate change" – UN expert". www.ohchr.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-09-05.
  17. UNHRC (1 Chwefror 2016). Report of the Special Rapporteur on the issue of human rights obligations relating to the enjoyment of a safe, clean, healthy and sustainable environment. SSRN 2729611.
  18. UNFCCC (12 December 2015). Adoption of the Paris Agreement. https://unfccc.int/resource/docs/2015/cop21/eng/l09r01.pdf.
  19. HRC (25 Mawrth 2009). UNHRC Resolution 10/4, Human rights and climate change. http://ap.ohchr.org/documents/E/HRC/resolutions/A_HRC_RES_10_4.pdf.
  20. W., Birnie, Patricia (2009). International law and the environment. Boyle, Alan E., Redgwell, Catherine. (arg. 3rd). Oxford: Oxford University Press. ISBN 9780198764229. OCLC 271647969.
  21. 1974-, McInerney-Lankford, Siobhán Alice (2011). Human rights and climate change : a review of the international legal dimensions. Darrow, Mac., Rajamani, Lavanya., World Bank. Washington, D.C.: World Bank. ISBN 9780821387207. OCLC 724352139.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  22. See Malé Declaration, n.4; UNHRC Resolution 18/22, n.7; A/HRC/10/61, n.8; FCCC/CP/2010/7/Add.1, n.10.
  23. "Human rights, climate change and cross-border displacement". Universal Rights Group (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-10.
  24. Docherty, Bonnie; Tyler Giannini (2009). "Confronting a Rising Tide: A Proposal for a Convention on Climage Change Refugees". Harvard Environmental Law Review 33: 349–403. http://www.law.harvard.edu/students/orgs/elr/vol33_2/Docherty%20Giannini.pdf. Adalwyd 25 April 2012.
  25. "Displacement Caused by the Effects of Climate Change: Who Will Be Affected and What Are the Gaps in the Normative Framework for Their Protection? | Brookings Institution". Brookings (yn Saesneg). 2017-02-16. Cyrchwyd 2017-02-16.
  26. Manou, Dimitra; Baldwin, Andrew; Cubie, Dug; Mihr, Anja; Thorp, Teresa (2017-05-12). Climate change, migration and human rights law and policy perspectives. Manou, Dimitra,, Baldwin, Andrew, 1970-, Cubie, Dug,, Mihr, Anja, 1969-, Thorp, Teresa M., 1968-. London. ISBN 9781317222330. OCLC 987699915.
  27. AD (Tuvalu ), 4 Mehefin 2014, http://www.nzlii.org/cgi-bin/sinodisp/nz/cases/NZIPT/2014/501370.html?query=AD%20(Tuvalu), adalwyd 2017-10-15
  28. ""Climate refugees" revisited: a closer look at the Tuvalu decision". Vernon Rive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-04. Cyrchwyd 2017-10-15.
  29. "Definitional Issues". International Organization for Migration (yn Saesneg). 2015-01-29. Cyrchwyd 2017-09-09.
  30. Smith, Dan; Janani Vivekananda (November 2007). "A CLIMATE OF CONFLICT: The links between climate change, peace and war". International Alert. http://www.international-alert.org/sites/default/files/publications/A_climate_of_conflict.pdf. Adalwyd 2021-04-19.
  31. "OHCHR | Climate change and indigenous peoples". www.ohchr.org. Cyrchwyd 2021-01-12.
  32. Hampson, Françoise (13 Gorffennaf 2004). THE HUMAN RIGHTS SITUATION OF INDIGENOUS PEOPLES IN STATES AND TERRITORIES THREATENED WITH EXTINCTION FOR ENVIRONMENTAL REASONS. http://www.ohchr.org/Documents/Issues/IPeoples/WG/crp1.pdf.
  33. Williams, Jay (2012-05-01). "The impact of climate change on indigenous people – the implications for the cultural, spiritual, economic and legal rights of indigenous people". The International Journal of Human Rights 16 (4): 648–688. doi:10.1080/13642987.2011.632135. ISSN 1364-2987.