Bwlch Penbarras
Bwlch Penbarras (sydd hefyd yn cael ei alw yn Bwlch Pen Barras, neu'r Hen Fwlch ) yw mynydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r bwlch, sydd yn 360 metr (1,180 tr) o uchder, rhwng bryniau Moel Famau a Foel Fenlli. Mae ffordd heb ei dosbarthu rhwng Tafarn-y-Gelyn a Llanbedr-Dyffryn-Clwyd yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r bwlch. Mae Llwybr Clawdd Offa, sy'n rhedeg yn fras o'r de i'r gogledd, yn croesi'r ffordd ar ei bwynt uchaf.
Mae'r enw arall, Hen Fwlch, yn cyfeirio at ei leoliad ar y llwybr hanesyddol rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun drwy Lanbedr Dyffryn Clwyd. Fe'i disodlwyd gan dyrpeg yr Wyddgrug i Ddinbych o'r 18fed ganrif ( mae o rwan yn y ffordd yr A494 ), sy'n croesi Bryniau Clwyd sawl milltir i'r de, ym Mwlch-y-Parc. Mae ochr ddwyreiniol Bwlch Penbarras yn esgyniad syth heb fawr o raddiant difrifol; fodd bynnag, mae ochor orllewinol y bwlch wedi'i nodweddu gan ddafnau mawr, ffordd gulach a llethrau serth: mae'r ffordd yn disgyn 260 metr (850 tr) o fewn 1.5 milltir (2.4 km) gyda graddiannau yn agosáu at 25% a thro miniog ar bin gwallt.
Hamdden
golyguMae’r bwlch yn boblogaidd fel pwynt mynediad i gerddwyr sydd am ddringo Moel Famau. Mae yna hefyd ddau faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru: un ar gopa'r bwlch a maes parcio arall un filltir i lawr yr ochr ddwyreiniol i gyfeiriad Tafarn-y-Gelyn. Mae llwybrau mynediad yn dringo drwy'r goedwig o'r ddau faes parcio i gopa Moel Famau.
Mae'r ddringfa serth ar y ffordd orllewinol o Lanbedr-Dyffryn-Clwyd yn golygu bod y bwlch yn boblogaidd gyda beicwyr modur a beicwyr sydd heb modur. Mae cylchgrawn Cycling Weekly wedi rhoi sylw i'r bwlch ac yn ei alw'n 'Killer Climb', ac mae hefyd wedi'i restru yn y Dave Lloyd Mega cyclosportive . Mi wnaeth Nigel Blackwell o'r band Half Man Half Biscuit sôn am y bwlch mewn cyfweliad yn 2012 pan ddywedodd o: “Y gamp fwyaf i mi yw creu sefyllfa i fy hun lle gallaf godi yn y bore a phenderfynu mynd i daclo Bwlch Pen Barras ar y beic." . [1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Risk It For A Biscuit? – Half Man Half Biscuit Interview". www.thevpme.com. Cyrchwyd 12 December 2019.