Byseddlys cypresaidd
Byseddlys cypresaidd Lepidozia cupressina | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Lepidoziaceae |
Genws: | Lepidozia |
Rhywogaeth: | L. cupressina |
Enw deuenwol | |
Lepidozia cupressina |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Byseddlys cypresaidd (enw gwyddonol: Lepidozia cupressina; enw Saesneg: rock fingerwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng ngorllewin Cymru, yr Alban, Iwerddon ac mewn rhai mannau yng Nhernyw a gogledd Lloegr.
Mae hwn yn llysiau'r afu melyn-wyrdd hardd, cadarn, llachar iawn gyda choesynnau canghennog hyd at oddeutu 4 cm o hyd ac 1 mm o led. Mae'r dail yn gorgyffwrdd â'i gilydd fel nad yw'r coesau'n weladwy wrth edrych arnyn nhw oddi uchod. Mae pob deilen tua 1 mm o hyd, gyda 4 neu 5 'bys' arnynt.[1]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd Awst 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.