C'mon Midffîld!

(Ailgyfeiriad o C'mon Midffild)

Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld! Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.

C'mon Midffîld!
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Tachwedd 1988 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1994 Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrAlun Ffred Jones Edit this on Wikidata

Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffîld! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3] Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]

Cymeriadau golygu

Penodau golygu

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD gan Sain rhwng 2005 [1] a 2007.

Cyfres 1 golygu

  • Y Maes Chwarae (DVD1)
  • Seren Ddisglair (DVD1)
  • Lladron y Nos (DVD1)
  • Traed Moch (DVD1)
  • Y Trip (DVD2)
  • Nadolig Bryncoch (DVD 2) new Nadolig Llawen? (video 2) - yr un pennawd?

Cyfres 2 golygu

  • Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
  • Craig o Arian (DVD2)
  • Bryn o Briten (DVD3)
  • Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
  • Gweld Sêr (DVD3)
  • Rhyfal Cartra (DVD3)
  • Match o' Ddy De (DVD4)

Cyfres 3 golygu

  • Yr Italian Job (DVD4)
  • Il Lavoro In Italia (DVD4)
  • Yn Nhŷ Fy Nhad (DVD5)
  • Tibetans v Mowthwalians (DVD5)

Cyfres 4 golygu

  • O Mam Bach (DVD5)
  • Meibion Bryncoch (DVD7)
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd (DVD7)
  • Fe Gei Di Fynd I'r Bôl (DVD7)
  • 'Eira Mân, Eira Mawr' (DVD8)
  • Yr Etholedig Rai (DVD8)
  • Cymorth Hawdd Ei Gael (DVD8)
  • Yr Alffa A'r Omega (DVD9)

Cyfres 5 golygu

  • Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
  • Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
  • Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
  • Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
  • Y Cocyn Hitio (DVD10)
  • Dechrau'r Diwedd (DVD10)

Rhaglenni/Ffilmiau Unigol golygu

  • Midffîld - Y Mwfi (DVD6)
  • C'mon Midffîld a Rasbrijam (DVD11)
  • Doli Bryncoch

Cyfeiriadau golygu