C.P.D. STM Sports
Mae C.P.D. STM Sports (Saesneg: STM Sports A.F.C.) yn glwb pêl-droed sydd wedi ei lleoli yn Llaneirwg, maestref yn nwyrain Caerdydd. Ei maes chwarae cartrf yw meysydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni.[2] Maent yn un o'r clybiau i chwarae yn nhymor gyntaf Cymru South sef, ail lefel system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2019-20.
Enw llawn | STM Sports Associaton Football Club |
---|---|
Sefydlwyd | 2007[1] |
Maes | Meysydd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Caerdydd |
Cadeirydd | Geza Hajgato |
Rheolwr | Dale Gardiner (Chwaraewyr/Rheolwr) |
Cynghrair | Cymru South |
2018–19 | Adran 2 Cynghrair Cymru (Y De), 1af o 16 (esgynwyd) |
Gwefan | Hafan y clwb |
Mae'r STM yn sefyll am St Mellons, enw Saesneg ar Llaneirwg, ardal cartref y clwb.[3]
Hanes
golyguCynghreiriau rhanbarthol
golyguChwaraeodd y clwb yn wreiddiol yn Uwch Gynghrair Cyfuniad Caerdydd, cyn symud i Gynghrair Amatur De Cymru ar gyfer tymor 2010–11 lle cawsant eu coroni’n bencampwyr Adran Dau ar eu hymgais gyntaf. Y tymor canlynol yn Adran Un, gorffennodd y clwb yn 7fed, tra y flwyddyn ganlynol fe wnaethant orffen yn 5ed a hefyd ennill Cwpan Hŷn Cymdeithas Pêl-droed De Cymru.
Yn nhymor tymor 2013–14 fe orffennon nhw yn 4ydd, gyda dyrchafiad i Gynghrair Bêl-droed Cymru ar ddiwedd tymor 2014–15, gan orffen fel Pencampwyr. Bu’n rhaid i’r clwb gyflwyno apêl gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau dyrchafiad ac yna trechu Pontlottyn 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngêm ail gyfle ar gyfer dyrchafiad.[4][5] Roedd yr ornest hefyd yn cynnwys sefyllfa anarferol gan i un o chwaraewyr y clwb gael ei arestio yn ystod yr ornest gan swyddogion heddlu am gyhuddiad blaenorol o ymosod a methu ag ateb i'r llys.[6]
Cynghrair Cymru (Y De)
golyguYn y tymor cyntaf Cynghrair Cymru (Y De) yn Adran Tri, gorffennodd y clwb yn y 4ydd safle cyn gwella ar hynny ar gyfer tymor 2016-17, gan orffen yn 2il i Lanilltud Fawr ac ennill dyrchafiad i Adran Dau.[7] Yn eu tymor cyntaf yn Adran Dau gorffennodd y clwb yn 4ydd, cyn cael ei goroni’n bencampwyr Adran Dau yn nhymor 2018–19.[8]. Roedd y tymor yn cynnwys y fuddugoliaeth uchaf erioed o 20–0 yng Nghwpan Cynghrair Cymru y De dros Caerau a welodd pum chwaraewr STM Sports yn sgorio hat-triciau.[9]
Cyrhaeddodd y tîm rownd gynderfynol Tlws CBDC hefyd cyn colli mewn amser ychwanegol i Cefn Albion mewn gêm a gafodd ei difetha gan honiadau o hiliaeth gan gefnogwyr Cefn Albion tuag at ddau o chwaraewr STM Sports.[10] Yn ddiweddarach cyhuddwyd y ddau glwb gan FA Wales mewn perthynas â throseddau posib mewn perthynas â'r ornest.[11]
Pencampwriaeth CBDC
golyguFel hyrwyddwyr Adran Dau, roedd y clwb yn gymwys i gael dyrchafiad i Bencampwriaeth De a Chanol Cymru. Hysbyswyd y clwb gan FA Cymru ym mis Mai 2019 na ddyfarnwyd ardystiad Haen 2 iddynt i fod yn gymwys i chwarae ar y lefel honno, a rhoddwyd yr hawl iddynt apelio.[12] Enillodd y clwb eu hapêl yn ddiweddarach ym mis Mai.[13]
Uchelgais
golyguMewn cyfweliad gyda gwefan Dai Sports yn 2019n dywedodd y Cadeirydd, Geza Hajgato, cyn hyfforddwr gyda Chelsea F.C. a Dinas Caerdydd, sy'n bennaeth pwyllgor sydd â chynlluniau mawr a dywedodd wrth bodlediad JD Sports Welsh Premier League:
“Mewn naw tymor ers ffurfio STM, dim ond unwaith yr ydym wedi colli allan ar ddyrchafiad.
“Mae cyflawni pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru yn nôd, ond mae honno’n ffordd enfawr i ffwrdd i ni.
“Mae wedi bod yn wych ar y cae, ond mae’r llwyddiant hwnnw wedi costio i ni mewn ffyrdd eraill.
“Rydyn ni'n chwarae ar dir rhent, er enghraifft, ac mae gennym ni gynlluniau mawr ar gyfer tir newydd. Mae hynny dair blynedd i ffwrdd, ond mae penseiri wedi gwneud eu peth ac mae'r cyngor ar ein hochr ni.[14]
Cit
golygu- Cartref - Crys gwyn a gwyrdd; siorts gwyrdd; sannau gwyn
- Oddi Cartref - Crys, siorts a sannau gwyrdd i gyd [15]
Staff Hyfforddi
golygu- Dale Gardiner (Chwaraewr/Rheolwr)
- Nana Baah (Rheolwr Cynorthwyol/Hyfforddwr)[16]
Cau'r Clwb
golyguAr 27 Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd na fyddai'r clwb yn chwarae yn nhymor 2020–21, ac y byddai'n cael ei ddiddymu.[17]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Phillips, Terry (6 April 2018). "STM Sports Plan On Going Home To St Mellons". Dai Sports.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-16. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ https://twitter.com/stmsportsafc/status/1162437277768921089
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/sport/football/amateur-football/stm-sports-earn-welsh-league-9473338
- ↑ "STM into Welsh League after play-off drama". Welsh Football - The National Football Magazine of Wales. 21 June 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-07. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ McCarthy, James (21 June 2015). "Footballer arrested for assault during vital match after walking off pitch to change his boots". Daily Mirror.
- ↑ Hemsley, Matt (24 April 2017). "Bircham and Lewis share delight as STM and Major are promoted". Y Clwb Pel-Droed.
- ↑ Jones, Jorden (2 May 2019). "STM Sports promoted to the FAW Championship". Y Clwb Pel-Droed.
- ↑ name='RecordWin'>"The unprecedented Welsh League football match which finished 20-0 as FIVE players score hat-tricks". Wales Online. 30 August 2018.
- ↑ "Police and Welsh football chiefs launch probe into claims of racism at cup semi-final". Wales Online. 11 April 2019.
- ↑ name='BBC48225954'>"Football clubs charged after FAW Trophy racism probe". BBC Sport. 10 May 2019.
- ↑ "FAW Tier 2 First Instance Body Decision - 43 Clubs Successful". Football Association of Wales. 8 May 2019.
- ↑ name='FAWT2appeal'>"FAW Tier 2 appeals body decisions". Football Association of Wales. 22 May 2019.
- ↑ http://www.dai-sport.com/23552-2/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-14. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ Jones, Jordan (6 June 2019). "Nana Baah joins coaching staff of STM Sports". Y Clwb Pel-Droed.
- ↑ Jones, Jordan. "Nathaniel MG Cup finalists STM Sports announce they are to fold". Y Clwb Pel-Droed. Cyrchwyd 27 July 2020.