Cadwgan o Landyfái
Clerigwr o Gymru oedd Cadwgan neu Cadwgan o Landyfái (bu farw 11 Ebrill 1241), y cyfeirir ato hefyd fel Cadwgan o Fangor. Roedd yn Esgob Bangor o 1215 hyd 1236. Ambell dro cyfeirir ato fel Martin, efallai ei enw fel mynach. Fe'i cysylltir â Llandyfai, Sir Benfro.[1]
Cadwgan o Landyfái | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Llandyfái |
Bu farw | 11 Ebrill 1241 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, mynach, esgob Catholig |
Swydd | Esgobaeth Catholig Bangor, esgob esgobaethol |
Bywgraffiad
golyguYn ôl Gerallt Gymro, roedd tad Cadwgan yn offeiriad o Wyddel a'i fam yn Gymraes. Dywedir ei fod yn enwog am ei bregethu grymus yn Gymraeg. Daeth yn abad abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ac wedyn Hendy-gwyn ar Dâf. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint ar 21 Mehefin 1215 yn Staines. Mae'n debyg fod ei benodiad yn esgob oherwydd dylanwad Llywelyn Fawr, oedd yn awyddus i gael Cymro yn hytrach na Norman neu Sais i'r esgobaeth, ac a oedd erbyn hyn yn ddigon grymus i sicrhau hyn.[1]
Yn 1234 cofnodir iddo ddod a llwyth llong o wenith o Iwerddon i fwydo'r tlodion yn ei esgobaeth. Yn 1236 ymddeolodd i Abaty Dore yn Swydd Henffordd i fyw yno fel mynach. Ysgrifennodd waith diwinyddol dan y teitl De modo confitendi.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd, The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., 1911)