Llandyfái

pentref yn Sir Benfro
(Ailgyfeiriad o Llandyfai)

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Llandyfái[1] (Saesneg: Lamphey). Saif ychydig i'r dwyrain o dref Penfro ay y briffordd A4075.

Llandyfái
Plas yr Esgob
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth843 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,125.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6667°N 4.8667°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000437 Edit this on Wikidata
Cod OSSN018004 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Ceir yma weddillion "Plas yr Esgob", oedd yn cael ei ddefnyddio gan esgobion Tyddewi. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a welir yn awr yn waith Henry de Gower, esgob Tyddewi o 1328 hyd 1347.

Eglwys Llandyfái

Mae gan Landyfai orsaf reilffordd, ar gangen Doc Penfro o Reilffordd Gorllewin Cymru, dau westy, tafarn ac ysgol gynradd. Adeiladwyd Neuadd Gymunedol newydd yn 2007.

Yn 2001 roedd 12.9% o boblogaeth y gymuned yn medru Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU