Abaty Hendy-gwyn ar Daf

adeiladwaith pensaernïol rhestredig Gradd II yn Llanboidy

Abaty Sistersiaidd yng nghymuned Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, Cymru, oedd Abaty Hendy-gwyn ar Daf (Saesneg: Whitland Abbey). Saif ar lan Afon Gronw i'r gogledd o dref Hendy-gwyn ar Daf. Yr enw arferol ar yr abaty yn yr Oesoedd Canol oedd Y Tŷ Gwyn ar Daf neu Y Tŷ Gwyn.

Abaty Hendy-gwyn ar Daf
Information Board, Whitland - Detail - geograph.org.uk - 1162948.jpg
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHendy-gwyn Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr33.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8337°N 4.6019°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN207182 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Safle Abaty Hendy-gwyn ar Daf

HanesGolygu

Sefydlwyd yr abaty ar 16 Medi 1140 gan fynachod o Abaty Clairvaux. Yn 1144 oedd ger Trefgarn Fechan ger Hwlffordd. Symudodd i Hendy-gwyn tua 1155, wedi i John o Torrington roi safle iddi. Sefydlwyd nifer o abatai eraill yng Nghymru gan fynachod o Hendy-gwyn. Methiant oedd yr ymgais gyntaf yn Abaty Cwm-hir yn 1143. Yn 1164 sefydlwyd Abaty Ystrad Fflur gan fyneich o Hendy-gwyn, yna sefydlwyd Abaty Ystrad Marchell yn 1170, ac Abaty Cwm-hir eto yn 1176, yn llwyddiannus y tro hwn.

Er mai sefydliad Normanaidd oedd Hendy-gwyn yn wreiddiol, cymerodd Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, yr abaty dan ei adain, a rhoddodd lawer o diroedd iddo. Yn Hendy-gwyn y treuliodd mab Rhys, Maredudd, ei oes fel mynach wedi iddo gael ei ddallu ar orchymyn Harri II, brenin Lloegr tra'n wystlon yn Lloegr. Roedd Cadwgan o Landyfai yn abad yn nechrau'r 13g. Daeth yn sefydliad trwyadl Gymreig a fu'n gefnogol iawn i ymdrechion tywysogion Cymru i gadw annibyniaeth y wlad. Ond taliodd y pris am ei gefnogaeth yn 1257 pan gafodd ei anrheithio gan filwyr Seisnig a lladd llawer o'r brodyr.

Bu'n hoff gyrchfan nifer o feirdd, ac yn eu plith Dafydd Nanmor, a gladdwyd yno tua dechrau'r 1480au.

Diddymwyd y fynachlog yn 1539. Ychydig iawn o weddillion sydd i'w gweld ar y safle bellach.

LlyfryddiaethGolygu

  • F.G. Cowley, The Monastic Order in South Wales, 1066-1349 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977)

Dolen allanolGolygu