Letocetum
Safle o gyfnod y Rhufeiniaid yn Swydd Stafford, gorllewin canolbarth Lloegr, yw Letocetum. Mae ei adfeilion yn gorwedd ym mhentref bychan Wall ac mae yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac English Heritage.
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wall |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6569°N 1.8565°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Yn ddiweddarach cysylltwyd yr enw Letocetum (Lladiniad o'r enw Brythoneg *Leitocaiton "coed llwyd/glas") a dinas Lichfield (Cymraeg Canol: Caer Lwytgoed; gweler yr erthygl ar Lichfield).
Bu Letocetum yn mansio neu arosfa ger groesffordd strategol ar Stryd Watling, y ffordd Rufeinig a redai o Londinium i Ogledd Cymru (rhed yr A5 ar hyd ran o'r un llwybr), a Stryd Icknield (yr A38 heddiw).
Ceir adfeilion baddondai ac adeiladau eraill ac mae yna amgueddfa fechan ar y safle.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Ymddiriedolaeth Genedlaethol: Letocetum Archifwyd 2009-06-01 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) English Heritage