Llyfr Sant Chad

llawysgrif Ladin a gedwir yng nghadeirlan Caerlwytgoed (Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr

Llawysgrif Ladin a gedwir yng nghadeirlan Caerlwytgoed (Saesneg: Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr yw Llyfr Sant Chad (a elwir hefyd yn Llyfr Teilo ac Efengylau Caerlwytgoed). Mae'n cynnwys Efengylau Mathew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r testunau mewn ysgrifen Ynysig ac yn dyddio o hanner cyntaf yr 8g. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull Geltaidd tebyg i'r hyn a welir yn Llyfr Lindisfarne.

Llyfr Sant Chad
Enghraifft o'r canlynolGospel Book, llawysgrif goliwiedig Edit this on Wikidata
IaithHen Gymraeg, Lladin Edit this on Wikidata
Tudalennau236 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 730 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganLlyfr Kells Edit this on Wikidata
LleoliadEglwys Gadeiriol Caerlwytgoed Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlandeilo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o dudalennau Llyfr Sant Chad

Llandeilo Fawr golygu

Tybir i'r llawysgrif ddod i Caerlwytgoed o Landeilo Fawr ar ddiwedd y 10g. Ceir sawl cofnod Hen Gymraeg yn y llawysgrif sy'n ymwneud â mater cyfreithiol. Dywedir mewn un ohonynt i Gelhi fab Arihtuid roi'r llawysgrif "i Dduw a Sant Teilo ar yr allor", ac iddo'i brynu am bris ei geffyl gorau. Ymddengys felly mai "Llyfr Teilo" oedd enw'r llawysgrif yn wreiddiol a'i bod wedi'i llunio yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr 8g. Erbyn diwedd y 10g roedd i'w weld yn eglwys gadeiriol y Santes Fair a Sant Chad yng Nghaerlwytgoed, Swydd Staffordd; yno, hyd heddiw, mae - mewn arddangosfa yn llyfrgell y gadeirlan ers 1982. Ailrwymwyd y lawysgrif ym 1962 gan Roger Powell.

Hen Gymraeg golygu

Y cofnod Cymraeg pwysicaf yw'r hwnnw a elwir yn Gofnod surexit (ar ôl y gair cyntaf yn y lawysgrif: surexit). Ynddo ceir tua 64 o eiriau mewn Hen Gymraeg. Er ei bod yn anodd ei ddyddio'n union mae'n debyg mai hwn yw'r darn hynaf o Gymraeg ysgrifenedig a gadwyd i ni. Mae'r cofnod yn bwysig iawn i'r sawl sy'n astudio paleograffeg a geirfa Hen Gymraeg a chyfraith Gymreig yr Oesoedd Canol.

Darllen pellach golygu

  • Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen, "The Welsh Marginalia in the Lichfield Gospels", Cambridge Medieval Celtic Studies 5 (1983): 37-66, 7 (1984): 91-120