Caffè corretto
Mae Caffè corretto (ynganu [kafˈfɛ kkorˈrɛtto]), yn ddiod coffi Eidalaidd, sy'n cynnwys joch o espresso gydag ychydig bach o ddiod gwirod,[1] grappa fel arfer, ac weithiau sambuca[2] neu frandi.[3] Fe'i gelwir hefyd (y tu allan i'r Eidal) fel "espresso corretto". Fe'i archebir fel "un caffè corretto alla grappa", "... alla sambuca", "... al cognac", neu "corretto di Spadino", yn dibynnu ar y gwirod a ddymunir.
Math | diod, caffeinated alcoholic drink |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Yn cynnwys | espresso |
Gweini
golyguMae'r rhan fwyaf o baristas o'r Eidal yn paratoi caffè corretto gan ychwanegu ychydig ddiferion o'r gwirod a ddymunir i mewn i joch espresso; fodd bynnag, mewn rhai achosion mae'r gwirod yn cael ei weini ochr yn ochr â'r coffi gan ganiatáu i'r cwsmer arllwys y maint y mae'n ei ddymuno. Mae rhai baristas hefyd yn gadael i'w cwsmeriaid rheolaidd wneud eu diod eu hunain gan ddarparu'r joch espresso a'r botel gwirod.
Mae'r gair Eidaleg "corretto" yn cyfateb i'r gair Cymraeg 'cywiro' yn yr ystyr 'wedi'i gywiro' ac yn aml caiff ei yfed fel ffordd o "gywiro" noson hegar neu feddwol y noson gynt, fel "Hair of the dog" hynny yw, i roi rhywun ar ben ffordd[4] Mae'r term, "corretto", bellach yn ymadrodd Eidaleg.[5] Mae hefyd yn cael ei yfed wedi pryd er mwyn helpu gyda treuliad y pryd.
Enwau ac Amrywiadau Tramor
golyguMae Caffè corretto hefyd i'w gael yn eang yn Eritrea, etifeddiaeth o hanes hwladychu Eritrea gan yr Eidal. Mae baristas Asmarino yn arllwys areki a cognac a gynhyrchir yn lleol.
Yn Sbaen, gelwir diod debyg yn carajillo; ym Mhortiwgal fe'i gelwir yn caffi com cheirinho ("coffi gydag arogl"); yn Ffrainc pousse-café neu caffi-calva (coffi a Calvados); ac yn Sweden, Norwy, a Denmarc fel kaffekask, karsk, neu kaffegök..
Rexentìn
golyguMae'r "Rexentin" (neu'r "Raxentin", fel y'i gelwir mewn rhai lleoedd) yn draddodiad o ranbarth Eidalaidd Veneto. Ystyr "Rexentin" yw "i rinsio": ar ôl yfed y caffè corretto mae ychydig bach o goffi yn aros yn y cwpan, sy'n cael ei lanhau gan ddefnyddio'r gwirod a ddefnyddir ar gyfer y diod, a fydd wedyn yn cael ei yfed.
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Simonis, Damien; Garwood, Duncan (2004). Italy. Lonely Planet. t. 72. ISBN 978-1-74104-080-7.
- ↑ Steves, Rick (2006). Rick Steves' Italy 2007. Avalon Travel. t. 40 https://books.google.com/books?id=krCIh7ED1YUC&pg=PA40. ISBN 978-1-56691-816-9.
- ↑ Riely, Elizabeth (2003). The chef's companion: a culinary dictionary. John Wiley and Sons. t. 49. ISBN 978-0-471-39842-4.
- ↑ 'Coffee Traditions: Caffè Corretto'
- ↑ "definition of corretto| English-Italian Definition Dictionary | Reverso". Dictionary.reverso.net. Cyrchwyd 2012-02-27.