Mae Coffi Gwyddelig (Gwyddeleg : caife Gaelach ) yn goctel sy'n cynnwys coffi poeth, wisgi Gwyddelig a siwgr gyda haenen o hufen ar ei ben. Mae'r coffi yn cael ei yfed drwy'r hufen. Yn wreiddiol defnyddiwyd hufen go iawn; bellach mae defnyddio hufen chwisg yn gyffredin.[1]

Coffi Gwyddelig

Tarddiad

golygu

Mae amrywiadau gwahanol o goctels coffi wedi bodoli ers dros ganrif cyn creu'r Coffi Gwyddelig clasurol cyfoes. O ganol y 19eg ganrif, cafodd Pharisäer a Fiaker eu gweini yn nhai coffi Fienna; roedd y ddau yn goctels coffi wedi'u gweini mewn gwydr, gyda hufen chwisg. Roedd Pharisäer hefyd yn gyffredin yng ngogledd yr Almaen a Denmarc yn ystod yr un cyfnod. Tua 1900, roedd y ddewislen coctel coffi yn y caffis Fienna hefyd yn cynnwys Kaisermelange, Maria Theresia, Biedermeier-Kaffee a llond llaw o amrywiadau eraill ar y thema. Yn Ffrainc y 19g, cafodd cymysgedd o goffi a gwirodydd ei alw'n gloria

"Un trait de son caractère était de payer généreusement quinze francs par mois pour le gloria qu'il prenait au dessert." (Balzac, Le Père Goriot, 1834) ("Un nodwedd o'i gymeriad oedd talu pymtheg franc hael y mis am y gloria a gymerodd i bwdin."
"Il aimait le gros cidre, les gigots saignants, les glorias longuement battus." (Flaubert, Madame Bovary, 1857.) ("Roedd hi'n caru seidr mawr, coesau gwaedlyd, a gloria wedi ei chwisgo'n hir.")

Mae sawl lle yn honni bod yn gartref i'r rysáit fodern am Goffi Gwyddelig yn y 1950au. Mae un fersiwn yn priodoli'r rysáit i Joe Sheridan, prif gogydd ym mwyty a siop goffi gorsaf awyrennau cwch Foynes, Swydd Limerick. Yr hanes yw ei fod wedi ychwanegu wisgi i goffi rhai teithwyr oer ym 1942 neu 1943 [2][3]

Roedd Stanton Delaplane, awdur teithio i bapur newyddion y San Francisco Chronicle, yn honni ei fod wedi cyflwyno Coffi Gwyddelig i'r Unol Daleithiau wedi ei yfed ym Maes Awyr Shannon. Roedd yn honni ei fod wedi helpu'r Buena Vista Cafe yn San Francisco i'w weini ar 10 Tachwedd, 1952. Ymfudodd Sheridan i o swydd Limerick i weithio yn y Caffi Buena Vista yn ddiweddarach.

Paratoad

golygu

Mae wisgi Gwyddelig ac o leiaf un llwy de o siwgr yn cael eu hychwanegu i goffi du poeth (ond nid berw) a'i droi nes bod y siwgr wedi toddi'n llwyr. Mae hufen trwchus yn cael ei dywallt yn ofalus dros gefn llwy sy'n cael ei dal uwchben arwyneb y coffi ac yn cael ei godi ychydig yn raddol hyd fod haen o hufen yn arnofio ar ben y coffi.[4]

Amrywiadau

golygu

Yn 1988, cyhoeddodd Awdurdod Safonau Cenedlaethol Iwerddon Safon IS 417: Coffi Gwyddelig.

Er mai wisgi, coffi a hufen yw'r cynhwysion sylfaenol ym mhob Coffi Gwyddelig, mae amrywiadau wrth baratoi. Mae'r dewis o goffi a'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer bwrw ei ffrwyth yn wahanol iawn. Mae'r defnydd o beiriannau espresso neu beiriannau bwrw coffi awtomatig bellach yn gyffredinol. Mae'r coffi naill ai'n caffe americano (espresso wedi ei wanhau gyda dŵr poeth) neu ryw fath o goffi hidlo, a wneir yn aml gan ddefnyddio capsiwl coffi. Mae'r hufen a ddefnyddir mewn rhai llefydd i wneud yr hyn sy'n cael ei werthu fel "Coffi Gwyddelig" weithiai'n cael ei chwistrellu o gan. Mae rhai yn ysgwyd hufen ffres yn ysgafn i gael haen lyfn ar ben y coffi.

Yn Sbaen, weithiau caiff Coffi Gwyddelig (café irlandés) ei weini â haen isaf o wisgi, haen goffi ar wahân, a haen o hufen ar ei ben; gwerthir dyfeisiadau arbennig i'w wneud.

Mae rhai bariau yn Ne-ddwyrain Asia'n gwasanaethu coctel o goffi rhew gyda whisgi, weithiau heb hufen, dan yr enw "Coffi Gwyddelig".

Mae llawer o ddiodydd o goffi poeth gyda gwirod neu wirodlyn a hufen yn arnofio ar ei ben y gydag enwi sydd wedi selio ar yr enw Coffi Gwyddelig er nad yw'r enwau wedi'u safoni. Er enghraifft mae coffi a brandi yn cael ei alw'n goffi Ffrengig mae coffi a rym yn goffi Jamaica a choffi a wisgi o'r Alban yn goffi Gaeleg ac ati.

Gellir ystyried coffi sy'n cynnwys Hufen Gwyddelig (megis Baileys) yn amrywiad o Goffi Gwyddelig, ond mae'n golygu defnyddio'r Hufen Gwyddelig fel "cyn-gymysgydd" i'w defnyddio yn lle'r wisgi, hufen a siwgr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The one and only Irish Coffee recipe". Jameson Irish Whiskey. Cyrchwyd 3 Chwefror 2019.
  2. Our Irish Coffee Heritage, Foynes Flying Boat Museum, archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-01-22, https://web.archive.org/web/20110122040624/http://flyingboatmuseum.com/irishcoffee.html.
  3. "Irish Coffee Festival". 15 February 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2003-02-15. Cyrchwyd 2019-02-03.
  4. "How to Make the Best Irish Coffee". Irish Whiskey Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 3 Chwefror 2019.