Sambuca
Mae'r sambuca yn ddiod wirodyn melys a chryf Eidalaidd gwirod o anis seren (Illicium verum), a grëwyd yn Civitavecchia, yn ardal Rhufain ym 1851. Cyfeirir at ei amrywiaeth fwyaf cyffredin yn aml fel sambuca gwyn i'w wahaniaethu oddi ar amrywiaethau eraill sydd mewn lliw glas dwfn (sambuca du) neu goch llachar (sambuca coch).[1] Fel gwirodydd eraill â blas anis, ceir yr 'effaith ouzo' weithiau wrth ei gyfuno â dŵr. Mae'n cael ei botelu ar o leiaf 38% o alcohol yn ôl cyfaint.[1]
Enghraifft o'r canlynol | anise drink |
---|---|
Math | anise drink |
Deunydd | Sambucus |
Gwlad | yr Eidal |
Yn cynnwys | ethanol, drinking water |
Enw brodorol | Sambuca |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etymoleg
golyguDaw Sambuca o'r enw Eidaleg ar y planhigyn eirin ysgaw mae'r gwirod wedi ei wneud ohono. Mae etymoleg sambuca (Lladin: sambūcus neu sābūcus, a ardystiwyd eisoes gan Pliny yr Hynaf)[2] yn ansicr,[3] ond mae'n debyg o darddiad nad yw'n Indo-Ewropeaidd.[4] Yn ôl y cwmni Eidalaidd, Molinari, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu sambuca er 1945, oherwydd byddai’r term hwn wedi cael ei ddefnyddio gan Luigi Manzi, un o ragflaenwyr gwirod anis, a fyddai wedi ei enwi felly ar gyfer y tebygrwydd ffonig gyda’r geiriau sambuchelli a acquaioli, yn y drefn honno "anis" a "dŵr" yn nhafodiaith Ischia (ynys oddi ar arfordir Napoli).
Hanes
golyguMae'n debyg bod gwreiddiau'r rysáit wreiddiol ar gyfer sambuca yn nhraddodiad llysieuaeth Carthusaidd, a oedd unwaith yn adnabyddus am ei diodydd alcoholig a'i baratoadau meddyginiaethol. Fel y soniwyd uchod, dyfyniad ysgaw gwyn yw un o'r cynhwysion, ond nid y prif un, gellir ychwanegu gwylys hefyd.
Cafodd Sambuca ei farchnata ar ddiwedd yr 19g yn Civitavecchia gan Luigi Manzi fel y Sambuca Manzi,[5] sy'n dal i gael ei gynhyrchu heddiw. Yna fe’i lansiwyd yn rhyngwladol gan Angelo Molinari o 1945, ar ôl diwedd y Rhyfel, dan yr enw Sambuca Extra Molinari. Mafalda Molinari oedd pennaeth y cwmni.
Yna trosglwyddodd y rheolwyr i Antonio Molinari. Yn ddiweddarach, daeth ŵyr y sylfaenydd, Mario ac Angelo, yn reolwyr gyfarwyddwyr (ymunodd y trydydd wyres, Inge, â'r bwrdd cyfarwyddwyr).[6]
Paratoi
golyguMae Sambuca ar gael trwy ddistylliad hadau anis seren, a blasau ffrwythau neu berlysiau eraill ac ychwanegu alcohol a siwgr (350 g/l).
Mae'n boblogaidd i yfed sambuco gyda ffeuen goffi ynddi. Enw'r math yma o sambuco yw, "sambuca con la mosca", sy'n golygu "sambuca gyda'r pryf". Mae'r gweini traddodiadol gyda thri ffa coffi, pob un yn cynrychioli iechyd, hapusrwydd a ffyniant.[7] Gellir tanio’r ddiod i dostio’r ffa coffi ac yna'n, amlwg, yfed yn union wedi i'r fflam ddiffodd.[8]
Blasu a brandiau
golyguMae Sambuca yn cael ei yfed fel aperitif, fel gwirod, gyda chiwbiau iâ, mewn coffi. Hefyd fel nodwyd, fel flambé gyda thri ffa coffi cyfan ( con la mosca, "gyda'r pryf") neu flambé yn uniongyrchol yn y geg, yn ogystal ag mewn coctcêl. Sambuca, a grappa yw'r gwirod a ychwanegir fel arfer i'r ddiod caffè corretto.
Y gwahanol frandiau o Sambuca yw: Amore, Averna, Borghetti, Borsci, Franciacorta, Isolabella, Lupini, Luxardo, Manzi (y cyntaf ym 1851), Massari, Molinari, Ramazzotti, Romana, Sarandrea, SIMAL, Toschi, Villa Colonna, a Vinci .
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Most Famous Italian Liquors:". February 4, 2020.
- ↑ Ernout (1979). Klincksieck (gol.). Dictionnaire étimologique de la langue latine – Histoire de mots (yn Ffrangeg). Parigi. Unknown parameter
|name=
ignored (help) - ↑ Devoto, Giacomo (1979). Avviamento all'etimologia italiana (yn Eidaleg). Milano: Mondadori.
- ↑ =Battisti, Carlo (1950–57). Dizionario etimologico italiano (yn Eidaleg). Firenze: Barbera.
- ↑ A. J. Rathbun (2011). Ginger bliss and the violet fizz : a cocktail lover's guide to mixing drinks using new and classic liqueurs (yn Saesneg). Boston: Harvard Common Press. ISBN 1558326650. Unknown parameter
|consulté le=
ignored (|access-date=
suggested) (help) - ↑ Corriere della Sera. L'Economia (yn Eidaleg). 2014.
- ↑ Wine & Spirit. William Reed. 2008. https://books.google.com/books?id=JDgsAQAAMAAJ&q=sambuca+con+mosca+holy+trinity. Adalwyd 2013-12-23.
- ↑ 1001 Foods To Die For. Andrews McMeel Publishing. Nov 1, 2007. t. 935. ISBN 978-0740770432. Cyrchwyd 2013-12-23.