Caffè macchiato

coffi espresso gyda llwyaid (neu weithiau fwy) o laeth ewyn twym

Mae Caffè macchiato (ynganiad Eidaleg: [kafˈfɛ mmakˈkjaːto] orgraff y Gymraeg: caffe maciato), ar lafar arddelir macchiato gan hepgor "caffè" neu "coffi" a weithiau gelwir yn espresso macchiato,[1][2] yn ddiod goffi espresso gydag ychydig bach o laeth, fel arfer yn ewynnog. Yn Eidaleg, mae macchiato yn golygu "lliw" neu "smotiog" felly y cyfieithiad llythrennol o caffè macchiato yn Gymraeg byddai "coffi brith" neu "coffi brech." Mae'n goffi cryf. Caiff ei ddrysu gyda cortado yn aml gan yfwyr a gweinwyr yng Nghymru.

Caffè macchiato
Mathdiod coffi Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Yn cynnwysespresso, llaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 
Caffè macchiato yn Hotel Moskva, Belgrâd. Gweinir yn amlw â dŵr er mwyn colli'r geg wedi yfed y coffi cryf
 
Cyfansoddiad coffi macchiato yn Rwsieg: Молочная Пена - ewyn llaeth; Эспрессо - espresso

Mae tarddiad yr enw "macchiato" yn deillio o baristas sydd angen dangos i'r gweinyddwyr sy'n gwasanaethu y gwahaniaeth rhwng espresso ac espresso gydag ychydig bach o laeth ynddo; roedd yr olaf wedi'i "farcio". Adlewyrchir y syniad yn yr enw Portiwgaleg am y ddiod: caffi pingado, sy'n golygu coffi gyda diferyn.[3]

Paratoi

golygu

Gweler hefyd: caffè latte Mae gan y caffè macchiato y gymhareb uchaf o espresso i laeth o unrhyw ddiod a wneir gyda'r cynhwysion hynny. Y bwriad yw bod y llaeth yn cymedroli, yn hytrach na gorlethu, blas y coffi wrth ychwanegu ychydig o felyster. Yn nodweddiadol, paratoir y ddiod trwy arllwys ychydig bach o laeth wedi'i stemio yn uniongyrchol i un joch o espresso.[4] Mae un rysáit yn galw am 5–10 g (1–2 llwy de) o laeth wedi'i gynhesu i 60-66 ° C (140-150 ° F).[5]

Amrywiaethau

golygu

Ceir amrywiaethau o macchiato wrth ei weini ac yn diriogaethol:

  • Macchiato freddo - macchiato gyda llaeth oer
  • Macchiato caldo - macchiato gyda llaeth twym
  • Macchiato gwylyb (wet macchiato) - lle bydd mwy o laeth ewynnog neu bod tua hanner espresso a hanner llaeth.[6]
  • Latte macchiato (sef, yn Gymraeg 'llaeth brith') - yn cynnwys llaeth gyda dim ond ychydig o espresso ynddo (bob amser yn llai nag mewn latte).[7] Fodd bynnag, mewn rhai ryseitiau (sy'n wahanol o le i le), nid yw latte macchiato yn wahanol iawn i goffi gyda llaeth (caffé latte), sydd fel arfer yn cynnwys traean o espresso a dau o laeth wedi'i stemio.
  • Manchado - mewn lleoedd fel Andalusia, arfordir deheuol Sbaen, mae'n arferol gofyn i'r gweinydd am "un manchado" a thrwy hyn deellir bod y cwsmer eisiau macchiato latte (Sbaeneg: leche manchada). Fodd bynnag, mae'n arferol bod yr ystyron yn newid wrth adael y rhanbarth.

Termau a defnydd yng Nghymru

golygu

Yng Nghymru a gweddill Gwledydd Prydain, gwelir bod y defnydd o goffi macchiato, cortado a coffi piccolo yn gall bod yn enw generig ar unrhyw fath o baned espresso gydag ychydig o laeth. Weithiau, caiff jwg fach o laeth ewynnog twym ei weini gyda'r espresso er mwyn rhoi'r rhyddid i'r yfwr arllwys faint fynno o laeth i'r espresso yn ôl chwaeth ei hun. Gellir dweud bod y ffurfiau yma yn enghreifftiau o macchiato gwlyb (wet macchiato) gyda cymhareb o oddeutu 50% espresso a 50% llaeth ewynnog twym. Mea hyn yn rhan o esbylygiad 'Trydydd Don' gweini diodydd espresso yn fyd-eang.[8]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. ""Milk Frothing Guide", CoffeeGeek, 13 June 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 July 2020. Cyrchwyd 15 July 2018.
  2. "Espresso Macchiato", Starbucks Coffee Company, 13 June 2012
  3. "How to order coffee in Portugal".[dolen farw]
  4. Davids, Kenneth (1997). Espresso: The Ultimate Coffee. Cole Group. ISBN 1564265579.
  5. Moldvaer, Anette (2014). Coffee Obsession. Dorling Kindersley Limited. tt. 150–151.
  6. https://www.youtube.com/watch?v=B9TGBX4w_k4
  7. https://www.youtube.com/watch?v=AwB5u_mGyJI
  8. https://www.youtube.com/watch?v=B9TGBX4w_k4