Mae'r cortado neu'n llawn, Café cortado, yn derm Sbaeneg am ddiod coffi ar sail espresso gyda swm bach o laeth fel arfer yn boeth i gael gwared â chwerwder y coffi.[1][2] Mae'r llaeth mewn cortado wedi ei ageru ond ddim yn ewynnog nac wedi ei "melfedu" mewn mewn sawl diod espresso Eidalaidd.[3] Y gair cortado yw rhangymeriad gorffennol y ferf "cortar" y ferf Sbaeneg "i dorri", yn yr ystyr "gwanedig", a gall gyfeirio'n amrywiol at naill ai diodydd coffi neu espresso ledled gwledydd Sbaeneg a Phortiwgaleg.

Cortado
Mathhot beverage, coffi gyda llaeth poeth, coffee drink Edit this on Wikidata
Yn cynnwysespresso, llaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
cortado du gyda jwg o laeth twym
cortado gwyn gyda llaeth o'r jwg a theisen frau, Bwyty Medina, Aberystwyth

Mewn rhai llefydd yn Sbaen caiff ei alw'n cortado con leche i'w wahaniaethu o'r cortado con agua (cortado â dŵr). Mae'r cortado (gyda llaeth) yn cynnwys espresso syml gyda mwy o ewyn nag a geir mewn Caffè macchiato sydd yn debyg ac yn wreiddiol o'r Eidal.

Paratoi a gwasanaeth golygu

 
Diagram o ddiodydd espresso yn Nyffryn Silicon

Gwneir cortado gyda joch o espresso ac yna ychydig bach o laeth wedi'i stemio ag ewyn llaeth neu, yn syml, y llaeth yn boeth heb ewyn, (fel sy'n addas i'r cwsmer neu arfer y caffe). Gweinir y cortado yn aml gyda llwy de o goffi mocca gydag siwgr, fel arfer o'r amrywiaeth blanquilla.[1][2] Mae'r llaeth mewn cortado wedi ei ageru ond ddim yn ewynnog nac wedi ei "melfedu" mewn mewn sawl diod espresso Eidalaidd.[3]

Mae'r cortado rhyngwladol, fel y'i gelwir, yn cael ei weini mewn cwpan fach o goffi mocca, gydag joch (neu lai, i weddu i'r cleient) o Caffè lungo, a fydd yn cael ei weini â soser a llwy de o mocca, yn ogystal â amlen o siwgr neu felysydd. Bydd y cwsmer yn cael cynnig jar gyda llaeth poeth neu oer y bydd y cwsmer yn ei ychwanegu at y coffi os yw am gael llai o chwerwder ynddo. 3

Enwau ac amrywiadau eraill golygu

Mae'r cortado yn boblogaiff yn Sbaen a Portiwgal a ceir amrywiaethau enwau ar yr un ddiod ar draws y tiroedd Hispanoffôn:

  • Gwledydd Catalaneg - fe'i gelwir yn tallat o trencat
  • Gwlad y Basg - fe'i gelwir yn ebaki, sef y gair Basgeg am "torri", mae'n calque o'r Sbaeneg "cortado"
  • Yr Eidal - defnyddir y term Caffè macchiato i ddisgrifio diod tebyg ond sydd fel rheol ond yn cynnwys llwyaid o laeth twym fel "brech" ar y coffi (ystyr 'macchiato' yw "brech"). Mae'r coffi yma yn boblogaidd yn fyd-eang ac yn aml yn cael ei ddefnyddio yn ddiwahan i'r cortado, yn enwedig gan bod chwaeth tramor yn aml yn gofyn am fwy o laeth na dim ond smotyn brech macchiato traddodiadol.[3]
  • Colombia - gelwir yn pintado neu perico
  • Ciwba a Puerto Rico - arddelir y term cortadito
  • Venezuela - fe'i gelwir yn marrón ("brown") i'w wahaniaethu oddi ar espresso a elwir yn café negro ("coffi du") neu'n syml, negrito ("du")
  • Ceir hefyd amrywiadau eraill sef; cortado condensada (cortado gyda llaeth cyddwysedig) a cortado leche y leche ("llaeth a llaeth" h.y. gyda llaeth cyddwysedig a hufen).

Gibraltar golygu

 
"Gibraltar", wedi'i weini yn eich gwydr Libbey nodweddiadol yn San Francisco

Tarddodd yr enw gibraltar yn San Francisco, California, lle cychwynnodd rhostwyr - y Blue Bottle Coffee Company gyntaf, yna Ritual Coffee Roasters ac eraill - y duedd o dorri trwy weini'r ddiod yn llestri gwydr Cwmni Gwydr Libbey o'r un enw.[2][4]

Er bod "cortado" yn derm ehangach ar gyfer llawer o ddiodydd wedi'u torri, mae Gibraltar wedi'i ddiffinio'n benodol yn ei gyfrannau gan gyfyngiadau maint ei gwpan: mae gwydr 'Gibraltar' Libbey yn cynnwys 4.5 oz, y mae 2 oz ohono wedi'i lenwi ag espresso dwbl. safonol ac mae'r gweddill wedi'i lenwi â microfoam wedi'i integreiddio'n dda. Fe'i datblygwyd fel diod proffil sydd ar gael yn rhwydd i'w fwyta ar unwaith, ac yn nodweddiadol gellir ei adnabod o'r cortado fel un sydd â gwead cyfoethocach, melfedaidd a thymheredd oerach, cynhesach.[5]

Lágrima golygu

Mae'r lágrima yn goffi bychan gyda'r cyfrannau'n cael eu gwrthdroi. Mae'n cael ei baratoi gyda pocillo wedi'i lenwi â llaeth poeth lle mae ychydig bach o goffi yn cael ei dywallt (lágrima yw "deigryn" yn Gymraeg).[6][7] Mae'n boblogaidd yn yr Ariannin ymhlith pobl sydd angen lleihau'r asidedd a gynhyrchir gan goffi.

Piccolo golygu

Yn Awstralia, a bellach sawl lle ym Mhrydain, fe'i gelwir yn latte piccolo, neu'n syml piccolo (sef "bychan" yn Eidaleg).[8] Dyma un joch o Caffè ristretto mewn gwydr macchiato sy'n cael ei lenwi â llaeth wedi'i stemio yn yr un modd â latte.

Diod fwy, sy'n boblogaidd ym Mhortiwgal, yw'r galão, sy'n defnyddio cymarebau 1:3, ond mae'n debyg i'r cortado a'r macchiato.

Gellir defnyddio'r term café cortado mewn gwirionedd yn gyfnewidiol â'r macchiato Eidalaidd neu'n debyg i'r noisette Ffrengig.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Nguyen, Tien (February 10, 2011), "Drink This Now: Cognoscenti Coffee's On-the-Menu Cortado", LA Weekly, https://www.laweekly.com/drink-this-now-cognoscenti-coffees-on-the-menu-cortado, adalwyd July 29, 2012
  2. 2.0 2.1 2.2 Strand, Oliver (March 4, 2010), "A Cortado Is Not a Minivan", T: The New York Times Style Magazine, http://tmagazine.blogs.nytimes.com/2010/03/04/ristretto-a-cortado-is-not-a-minivan/
  3. 3.0 3.1 Shilcutt, Katharine (August 8, 2013), "What's The Difference Between a Flat White and Cortado?", Houstonia, https://www.houstoniamag.com/articles/2013/8/28/whats-the-difference-between-a-flat-white-and-cortado-august-2013
  4. Daniel Young (March 2009), Gibraltar, San Francisco's Cult Coffee, Comes to London, archifwyd o y gwreiddiol. Error: If you specify |archiveurl=, you must also specify |archivedate=, https://web.archive.org/web/20160120060642/http://youngandfoodish.com/coffee/gibraltar-san-franciscos-cult-coffee-comes-to-london/
  5. Peleg, Oren (June 9, 2017), "So, What's The Difference Between A Flat White, A Cortado And A Cappuccino?", LAist, https://laist.com/2017/06/09/coffee_breakdown.php, adalwyd 2021-11-19
  6. "Ecco le Differenze tra Caffè Cortado e Caffè Macchiato". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-19. Cyrchwyd 2021-11-19. Unknown parameter |fetch= ignored (help)
  7. "Caffè cortado: dall'Argentina al resto del mondo". Unknown parameter |fetch= ignored (help)
  8. "What is a Piccolo Latte?", Cafe Culture, August 15, 2011, http://www.cafeculture.com/general-interest/what-is-a-piccolo-latte, adalwyd 2021-11-19

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: