Caian
Sant o'r 5ed neu'r 6g oedd Caian. Yn ôl un llawysgrif (Iolo MSS tud 117)[1] ei dad oedd Caw, sant ac un o frenhinoedd yr Hen Ogledd a ddihangodd i Ynys Môn, ble rhoddodd Maelgwn Gwynedd dir iddo yng ngogledd-ddwyrain yr ynys: ardal o'r enw Twrcelyn.[2][3] Os mai Cai oedd ei dad yna un o'i chwiorydd oedd Cwyllog, a sefydlodd eglwys Sant Cwyllog, Llangwyllog yn 6g.[4][5] Ei ddydd gŵyl yw 25 Medi.
Caian | |
---|---|
Ganwyd | Twrcelyn |
Man preswyl | Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Ond yn ôl llawysgrifau eraill, gan gynnwys Peniarth 75 ac 178, roedd Caian yn byw yn y 5g ac yn fab i Frychan Brycheiniog, un o frenhinoedd De Cymru.[3][6]
Mae'n bosib iddo roi ei enw i Langaian ger Tregaian ym Môn (neu 'Tregaean'; 'Tregaearn' yn ôl yr Eglwys yng Nghymru), oddeutu 2.5 milltir (4.0 km) i'r gogledd o Langefni (Cyfeirnod grid: SH45127970).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ archive.org; The Lives of the British Saints : the Saints of Wales and Cornwall and such Irish Saints as have dedications in Britain gan Baring-Gould, S. (Sabine), 1834-1924; adalwyd Chwefror 2016
- ↑ Baring-Gould, pp. 92–94.
- ↑ 3.0 3.1 Baring-Gould, p. 51.
- ↑ Baring-Gould, tud. 279.
- ↑ Lewis, Samuel (1849). "Llangwillog (Llan-Gwillog)". A Topographical Dictionary of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-09. Cyrchwyd 16 Chwefror 2011.
- ↑ Williams, Robert (1852). Enwogion Cymru: A biographical dictionary of eminent Welshmen, from the earliest times to the present, and including every name connected with the ancient history of Wales. W. Rees. t. 61.