Llangwyllog

pentref yn Ynys Môn, Cymru

Pentref bychan gwledig a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanddyfnan, Ynys Môn, yw Llangwyllog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng nghanol yr ynys 3 milltir i'r gogledd o dref Llangefni a 2 filltir o Lyn Cefni. Cofnodir poblogaeth o 277 yn 1821, ond erbyn 1971 dim ond 75 o bobl oedd yn byw yno.

Llangwyllog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2824°N 4.3453°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH437788 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r eglwys yn weddol hen gyda rhannau yn dyddio o'r 15g efallai. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y Santes Cwyllog (Cywyllog) yn y 6g ar dir a roddwyd iddi gan y brenin Maelgwn Gwynedd.[3]

Eglwys Llangwyllog

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Menai. Bu brwydr yn y cyffiniau yn y flwyddyn 1134 rhwng byddin Owain Gwynedd, brenin Teyrnas Gwynedd, a llu o Northmyn a Manawyr a geisiodd oresgyn yr ynys. Enillodd gwŷr Gwynedd y dydd.

Rhoddodd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth Eglwys Gwyllog a'i degwm i Briordy Penmon.[4]

Roedd gan Lein Amlwch (Rheilffordd Canolbarth Môn) orsaf yn Llangwyllog nes i'r lein gau yn 1993. Mae'n dŷ preifat heddiw.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  4. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 272