Calfaria, Aberdâr

capel y Bedyddwyr yn Aberdâr

Capel Bedyddwyr Calfaria, Aberdâr, oedd un o eglwysi mwyaf y Bedyddwyr yn y Cymoedd ac yr hynaf yn nyffryn Aberdâr. Bu gan y capel addurniadau mewnol, gan gynnwys nenfwd astellog gyda rhosyn dwfn wedi ei dandorri; roedd gan y balconi canllaw haearn bwrw wedi ei ddylunio gyda chynllyn cywrain ar siâp dail.[1] Nodweddion a oedd yn gyffredin mewn capeli Cymraeg y cyfnod. Cafodd organ ei osod ym 1903 ar gost o £850.[1] cafodd ei chanu am y tro olaf yn 2012 gan Robert Nicholls, yn ystod darllediad gan BBC Radio Cymru ychydig cyn y cau'r capel.

Calfaria, Aberdâr
Calfaria, Aberdâr yn 2014
LleoliadMonk Street, Aberdâr
GwladCymru
CristnogaethBedyddwyr
Hanes
Sefydlwyd1811
Pensaerniaeth
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II
Dynodiad1 Hydref 1991
Pensaer/iThomas Joseph
PensaerniaethCapel
Math o bensaerniaeth19 canrif
Cwbwlhawyd1852 (yn lle adeilad hŷn)
Cost ei chodi£1,400
Caewyd2012
Manylion
Cynulleidfa840

Hanes cynnar golygu

Cynhaliwyd cyfarfodydd cynharaf y Bedyddwyr yn yr ardal mewn adeiladau amaethyddol neu yn Ystafell Hir tafarn y Farmers Arms Aberdâr.[2] Ym 1811, cafwyd darn bach o dir ar brydles gan Griffith Davies Ynysybwl i adeiladu capel arni. Ym 1812 agorodd capel Carmel, neu Gapel Penypound ar lafar gwlad. Y gweinidog cyntaf oedd William Lewis.[1] Bu'r eglwys yn ei chael yn anodd yn y dyddiau cynnar oherwydd methiant gwaith Haearn Aberdâr ym 1815, a daeth ofalaeth Lewis i ben wedi dim ond dwy flynedd.

Gofalaeth Thomas Price golygu

Dechreuodd Thomas Price ei weinidogaeth ar gapel Carmel Penypound ym 1845. Cynyddodd yr aelodaeth yn ystod cyfnod cynnar Price a daeth yr adeilad yn rhy fach i'r gynulleidfa. Cafodd, Carmel ei drosglwyddo i achos Saesneg ac adeiladwyd capel newydd, Calfaria gerllaw. Cafodd y capel newydd ei gynllunio gan Thomas Joseph, peiriannydd pwll glo  o Hirwaun. Cost adeiladu'r capel oedd £1,400. Roedd ynddi eisteddleoedd i 840. Cafodd yr adeilad ei ymestyn ym 1859 ac adeiladwyd ysgoldy a neuadd drws nesaf i'r capel ym 1871.[1] Cafodd y gwasanaeth cyntaf ei gynnal  ar 8 Chwefror, 1852. Erbyn hyn, roedd Price wedi dod yn ffigwr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Aberdâr a Chymru, yn bennaf o ganlyniad i'w beirniadaeth danllyd yn erbyn Brad y Llyfrau Gleision a'r dystiolaeth a roddwyd i'r comisiynwyr a gyhoeddwyd y llyfrau gan y ficer Aberdâr, y Parch John Griffith.

Ar un adeg yn ystod gweinidogaeth Price fu gan Galfaria dros fil o aelodau, ond cafodd llawer o gannoedd ohonynt eu trosglwyddo i gapeli cangen a sefydlwyd ar anogaeth Price.[3] Ym 1855 cafodd capel Heolyfelin ei ffurfio fel cangen o Gapel Bedyddwyr Hirwaun. Ym 1856 cafodd 91 o aelodau Calfaria eu trosglwyddo i ffurfio eglwys Saesneg Carmel, Aberdâr. Agorwyd Bethel, Abernant, ym 1857. Ym 1849 cafodd 121 o aelodau eu trosglwyddo i ffurf capel Gwawr, Aberaman. Yn 1855, cafodd 89 eu rhyddhau i sefydlu achos yn Aberpennar, ac ym 1862 cafodd 163 eu rhyddhau i gryfhau Bethel, Abernant; yn yr un flwyddyn cafodd 131 eu rhyddhau i sefydlu achos Ynyslwyd.  Ym 1865 trosglwyddwyd 49 aelod i ffurfio capel Y Gadlys. Sef cyfanswm o 927 yn cael eu rhyddhau o Galfaria i ffurfio eglwysi mewn gwahanol rannau o'r cwm. Ond ceisiodd Price i sicrhau undod teulu'r Bedyddwyr yn y cwm trwy gynnal gweithgareddau megis gwasanaethau unedig i fedyddio aelodau newydd yn afon Cynon ac eisteddfodau blynyddol .[4] 

 
Y Parchedig Dr Thomas Price

Cadwodd Calfaria ei goruchafiaeth ymhlith eglwysi Bedyddwyr y cwm er bod bri Price wedi ei danseilio braidd gan ei fethiant  i gefnogi'r Parch Henry Richard yn Etholiad Cyffredinol 1868 roedd yn cefnogi ymgeisyddiaeth Richard Fothergill cafodd Richard a Fothergill ill dau eu hethol. Ym 1869 bu Price yn ymweld â'r Unol Daleithiau am gyfnod o chwe mis gyda'i ferch Emily. Roedd ei angladd ym 1888 ymysg un o'r mwyaf a welwyd yn y cwm erioed.[5]

Gofalaeth James Griffiths golygu

Wedi marwolaeth Price dderbyniodd James Griffiths, gweinidog Calfaria, Llanelli galwad unfrydol i ddod i'w olynu .[6] Cafodd ei sefydlu yn weinidog mewn gwasanaethau arbennig a gynhaliwyd ar Ddydd Nadolig 1888.[7]

Ym 1898 cynhaliodd Undeb Bedyddwyr Cymru ei gynhadledd flynyddol yng Nghalfaria. Ym 1903 cafodd organ newydd ei brynu ar gost o £850.[8]

Ym 1912 ysgrifennodd Griffiths lyfr i ddathlu canmlwyddiant yr achos. Roedd nifer yr aelodau yn 537 ym 1899 gyda gostyngiad bach i 420 erbyn 1916 a 396 erbyn 1925.[1]

Ym 1923, cafodd Griffiths ei ethol yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.[8]

Yr Ugeinfed Ganrif golygu

Ym 1925 roedd rhif yr aelodaeth yn 395. Daeth gofalaeth James Griffiths i ben ym 1930. Fe'i holynwyd ef ym 1932 gan D. Herbert Davies, a fu'n gwasanaethu hyd 1947, pan dderbyniodd alwad  i Benuel, Caerfyrddin. Roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 168 erbyn 1963.[9]

Fel cynifer o gapeli'r cymoedd bu dirywiad yn y nifer oedd yn gallu'r Gymraeg a'r niferoedd cyffredinol oedd yn mynychu llefydd o addoliad achosi dirywiad difrifol yn nifer yr aelodau. Erbyn 2003 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 19 gyda phresenoldeb ar gyfartaledd o chwech yng ngwasanaeth y noswaith.[1] Wedi llawer o flynyddoedd o ddirywiad yn faint ei aelodaeth cafodd Calfaria ei gau yn 2012. Fe ymunodd yr aelodau â chapel Bethesda Abercwmboi.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Jones 2004, tt. 95-6.
  2. "Old Aberdare. Local History of the Baptist Denomination". Aberdare Leader. 1 Tachwedd 1913. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2013.
  3. Jones 1964, tt. 153-4.
  4. Jones 1964, t. 153.
  5. "Funeral of the Late Rev. Dr Price". Aberdare Times. 10 March 1888. Cyrchwyd 11 November 2013.
  6. "Aberdare". South Wales Daily News. 5 October 1889. t. 7. Cyrchwyd 11 January 2016.
  7. "Sefydlu Gweinidog Newydd yng Nghalfaria. Aberdar". Seren Cymru. 10 Ionawr 1890. t. 1. Cyrchwyd 11 Ionawr 2016.
  8. 8.0 8.1 Davies 1968, t. 365.
  9. Rees. Chapels in the Valley. t. 77.


Ffynonellau golygu