Agor y brif ddewislen

Thomas Price (Calfaria, Aberdâr)

gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Bywyd cynnarGolygu

Ganwyd Price yn Maesycwper, tyddyn yn Llanhamlach, Sir Frycheiniog (Powys bellach), yn fab i Siôn Prys a Mary ei wraig. Roedd Siôn yn was ffarm ac yna'n feili ar Ystâd Cwrt Manest.

Ni chafodd fawr ddim addysg ffurfiol yn ystod ei blentyndod dim ond ychydig o addysg elfennol mewn ysgol hen ferch ym mhentref Pencelli[2]

Gyrfa gynnarGolygu

 
Yr Afon Wysg ger Aberhonddu

Dechreuodd Price weithio yn 13 mlwydd oed fel gwas bach ar fferm ym Mhontestyll ger Llansbyddyd ac yna fel macwy i deulu Clifton, Ystâd Tŷ Mawr, Llanfrynach[3]. Yn ystod ei gyfnod yn y Tŷ Mawr dysgwyd iddo sut i ddarllen ac ysgrifennu a siarad Saesneg.

Trwy arian roedd wedi cynilo wrth weithio i deulu Clifton bu arian digonol gan Price i dalu am gyfnod o brentisiaeth gyda Thomas Watkins, paentiwr, gwydrwr a phlymiwr yn Aberhonddu.

Cyn cychwyn ar ei brentisiaeth nid oedd Price wedi dangos lawer o ddiddordeb mewn crefydd. Cafodd ei fedyddio mewn Eglwys Anglicanaidd a fu yn fynych ysgol Sul Methodistaidd yn achlysurol. Yn ystod ei brentisiaeth mynychodd seremoni bedyddio ym Maesyberllan. Cafodd tröedigaeth wrth wrando ar y bregeth yn ystod y seremoni ac yn fuan wedyn ymunodd a chapel Bedyddwyr Porthydwr, Aberhonddu a chafodd ei fedyddio yn yr Afon Wysg ger y dref.

Wedi i'w gyfnod fel prentis dod i ben ym 1838 cerddodd i Lundain a dechreuodd gweithio fel peintiwr tai i gwmni adeiladu Peto a Gazelle[4]. Tu allan i'w oriau gwaith bu Price yn mynychu dosbarthiadau yn y Mechanic's Institute, Plymouth Road lle dysgodd am ramadeg, araethyddiaeth, darlunio, hanes a diwinyddiaeth.

Ymuno a'r weinidogaethGolygu

Ymunodd a Chapel Cymraeg y Bedyddwyr yn Moorefields ac yn fuan wedi ymaelodi dechreuodd pregethu. Symudodd ei aelodaeth o'r capel Cymraeg i gapel Saesneg Eagle Street gan barhau i bregethu, bellach yn y ddwy iaith. Ym 1842 gadawodd ei waith fel paentiwr ac aeth yn fyfyriwr i Athrofa'r Bedyddwyr ym Mhont-y-pŵl gan wario 3 mlynedd a hanner yn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth.

Wedi darfod ar ei gwrs coleg galwyd Price i fod yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Carmel Penypound, Aberdâr ar ddiwedd 1845 a chael ei ordeinio yno ar 1 Ionwr 1846. Arhosodd yn Aberdâr am weddill ei weinidogaeth.

Gweinidog CalfariaGolygu

 
Calfaria, Aberdâr yn 2014

Cyrhaeddodd Price Aberdâr ar adeg pan oedd y dref yn cael ei drawsnewid gan ddatblygiad diwydiannol, ac yn benodol twf y fasnach glo. O herwydd twf yn y boblogaeth daeth yn amlwg bod capel Carmel yn rhy fychan ac aeth Price ati i drefnu capel newydd, Calfaria, a agorwyd ym mis Chwefror 1852. Ym 1856, trosglwyddwyd 91 aelod o Galfaria i ffurfio Eglwys Bedyddwyr Saesneg yn yr hen adeilad, Carmel[5].

Bu Price yn gyfrifol am ehangu achos y Bedyddwyr ar hyd Cwm Dâr. Yn ystod ganol y ganrif, roedd Price yn allweddol wrth ffurfio nifer o achosion Bedyddwyr Cymraeg ychwanegol. Ym 1855, ffurfiwyd Eglwys Bedyddwyr Heolyfelin fel cangen o Eglwys Bedyddwyr Hirwaun. Agorwyd Bethel, Abernant ym 1857. Ym 1849 trosglwyddwyd 121 o aelodau i ffurfio Gwawr, Aberaman ; ym 1855, rhyddhawyd 89 i ddechrau achos yn Aberpennar, ac ym 1862, rhyddhawyd 163 i gryfhau Bethel, Abernant; yn yr un flwyddyn rhyddhawyd 131 i ffurfio eglwys yn Ynyslwyd; yn 1865, trosglwyddwyd 49 i ffurfio Eglwys Gadlys. At ei gilydd, amcangyfrifir bod 927 o aelodau wedi'u rhyddhau o Galfaria i ffurfio eglwysi mewn gwahanol rannau o'r ardal. Wrth i'r gwahanol gapeli gael eu sefydlu, sicrhaodd Price fod y cysylltiad rhyngddynt a'r fam eglwys yng Nghalfaria yn parhau. O ganlyniad cafodd dylanwad mawr dros wahanol gynulleidfaoedd y Bedyddwyr yn y cwm ac fel aelod o'r corff anghydffurfiol ehangach yng nghylch Aberdâr.

Ar 16 Mawrth 1847, priododd Anne Gilbert, gwraig weddw a merch ieuengaf Thomas David o Abernant-y-groes, Cwmbach. Cawsant fab, a fu farw yn fabanod, a merch, Emily. Bu farw Anne Price ar 1 Medi 1849.

Erbyn canol y 1850au, roedd Price wedi dod yn adnabyddus fel pregethwr a darlithydd, ac fe'i hetholwyd i nifer o swyddi pwysig; ym 1865 bu'n cadeirydd Undeb Bedyddwyr Cymru.

Anghydfod Capel GwawrGolygu

Un o'r capeli Bedyddwyr newydd bu Price yn gyfrifol am eu hagor oedd Capel Gwawr, Aberaman. Galwyd Dewi Elfed (David Bevan Jones 1807 – 1863) i fod yn weinidog ar y capel. Erbyn cyrraedd Aberaman roedd Dewi Elfed wedi dod o dan ddylanwad Mormoniaeth. Ar 27 Ebrill 1851 cafodd Dewi ei fedyddio yn aelod o'r Mormoniaid yn yr Afon Cynon a cheisiodd troi capel y Wawr yn gapel Mormonaidd. Aeth y Bedyddwyr i gyfraith i gael yr adeilad yn ôl. Ym mis Tachwedd 1851, arweiniodd Price orymdaith o Fedyddwyr i Aberaman i adennill yr adeilad. Ar ôl iddynt gyrraedd Gwawr, daeth yn amlwg bod Dewi Elfed wedi cloi ei hun y tu mewn i'r capel, ynghyd ag un o'i gefnogwyr. Dywedodd swyddog llys nad oedd ganddo'r awdurdod i gael mynediad trwy orfodi'r drws. Ond fe lwyddodd Price i gael mynediad i'r adeilad ynghyd ag un o'i diaconiaid. Bu Price yn ymlid Dewi Elfed o amgylch feinciau ac orielau'r capel mewn modd “gwyllt a chyffroes” hyd ei ddal a'i droi allan o'r capel.

 
Y Parch. Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdâr

Dylanwad gwleidyddol a chymdeithasolGolygu

Roedd ei briodas wedi rhoi incwm iddo y tu hwnt i'r hyn oedd gan y mwyafrif o weinidogion anghydffurfiol ei gyfnod. Ar farwolaeth gynnar ei wraig ym 1847, etifeddodd Price ei ystâd. Trwy ei sefyllfa gymdeithasol, yn ogystal â'i weithgareddau gwleidyddol, fe wnaeth Price ddod i gyswllt agos â rhai o brif dynion busnes Aberdâr a'r cyffiniau.

GolygyddGolygu

 
Seren Cymru 1863

Fel ysgrifennwr, cyhoeddodd lawer o lyfrau, adroddiadau a phamffledi. Defnyddiodd ei arian i sefydlu a Golygu nifer bapurau newydd

  • Y Gwron (1855-60)
  • Y Gweithiwr (1859-60)
  • Seren Cymru (1860-76)

Bu'n ysgrifennydd cyllid (1853 - 1859), ac yn olygydd Y Medelwr Ieuanc a'r Gwyliedydd. O'r cyhoeddiadau hyn, y mwyaf arwyddocaol oedd Seren Cymru, a oedd bod yn gyfnodolyn enwadol y Bedyddwyr, ond fe'i troid gan Price i fod yn bapur newydd lleol a chenedlaethol o arwyddocâd a oedd â dylanwad gwleidyddol bwysig ledled Cymru.

Brad y Llyfrau GleisionGolygu

Daeth Price i amlygrwydd adeg cyhoeddi'r Adroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru, 1847, sy'n cael ei adnabod gan amlaf fel Brad y Llyfrau Gleision. Roedd trigolion Aberdâr wedi eu cynddeiriogi gan y dystiolaeth a gyflwynwyd gan ficer newydd y plwyf, y Parch John Griffith. Roedd Griffith wedi gwneud honiadau am gymeriad diraddiedig menywod Aberdâr, yn honni bod anniweirdeb rhywiol menywod y dref yn gonfensiwn a goddefwyd. Roedd yn condemnio meddwdod ac annarbodaeth y glowyr, a'r emosiwn gormodol oedd yn gysylltiedig ag arferion crefyddol yr Anghydffurfwyr.[6]

Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Siloa, yr Annibynwyr, Aberdâr gyda dau fil o bobl yn ei fynychu i brotestio yn erbyn enllib y Llyfrau Gleision. Rhoddodd Price araith yn y cyfarfod a fu'n moddion i sefydlu ei hun fel siaradwr cyhoeddus a allai roi mynegiant i ddyheadau cymuned anghydffurfiol sylweddol Aberdâr. Er cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod i gyfiawnhau ei sylwadau penderfynodd Griffith i gadw draw. Daeth y ddadl wedyn yn bersonol iawn gyda Price a Griffith yn mynegi dau safbwynt crefyddol a gwleidyddol gwahanol iawn.

Derbyniodd Price feirniadaeth y Comisiynwyr bod yr anghydffurfwyr wedi methu mynd i'r afael â diffygion addysgol. Yn fuan wedyn daeth yn ysgrifennydd cyntaf Pwyllgor Ysgol Brydeinig Aberdâr a sefydlodd yr Ysgol Brydeinig gyntaf yng nghwm Aberdâr ym 1848, sef Ysgol y Parc, neu Ysgol y Comin ar lafar gwlad. Ysgolion anenwadol oedd Ysgolion Prydeinig, i bob pwrpas ysgolion anghydffurfiol, a oedd yn cynnig ysgolion amgen i Ysgolion Cenedlaethol, Eglwys Loegr.

Llywodraeth leolGolygu

 
Richard Fothergill

Bu'r ymateb i'r Llyfrau Gleision a'r ymgyrch ddilynol i sefydlu Ysgol Brydeinig yn Aberdâr oblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol arwyddocaol. Buont yn fodd i greu cynghrair rhwng gweinidogion anghydffurfiol a'r dosbarth-canol o fasnachwyr a dynion proffesiynol oedd yn dechrau dod i'r amlwg yng Nghymru. Yn wahanol i'r meistri haearn ac arweinwyr y diwydianau mawrion Cymru gynhenid nid mewnfudwyr Seisnig oedd y dosbarth canol newydd.[7] I price, roedd yn man cychwyn ar yrfa mewn llywodraeth leol. Ym 1853 llwyddodd i ddisodli John Griffith, ficer Aberdâr,  fel aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful. Roedd hon yn garreg filltir nodedig, sef y tro cyntaf i weinidog anghydffurfiol cael ei ethol i'r fath corff lleol yn Aberdâr.[8] Wedi hyn bu cynnydd yn nifer o weinidogion anghydffurfiol ar gyrff cyhoeddus. Daeth presenoldeb y gweinidogion ar gyrff cyhoeddus yn rhan o wleidyddiaeth leol Cwm Aberdâr, gan hynny bu etholiad Price ym 1853 yn fan cychwyn pwysig. Gwasanaethodd Price fel gwarcheidwad am ddim ond dwy flynedd cyn dychwelyd at y Bwrdd yn gynnar yn yr 1870au.[8]

Ym 1853 bu Price yn cymryd rhan mewn ymchwiliad i iechyd cyhoeddus yn Aberdâr.[9] Ym 1854, daeth yn un o'r aelodau cyntaf o Fwrdd Iechyd Lleol Aberdâr.[10] Fel aelod o'r Bwrdd daeth Price i gysylltiad agos â Richard Fothergill. Ym 1857- 1858 bu Price yn cefnogi Fothergill wedi iddo ymneilltuo o fywyd cyhoeddus yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol yn ystod etholiad.[11]

Ailgydiodd Price yn ei aelodaeth o'r Bwrdd Iechyd y 1866 pan ddaeth i frig y pôl, a nodwyd yn y wasg leol bod "y rhan fwyaf o bobl yn llawenhau yn fawr iawn i weld y Parch. Dr. Price unwaith eto yn cymryd rhan weithredol ym materion y plwyf".[12]

Cymdeithasau cyfeillgar, undebaeth lafur a chysylltiadau diwydiannolGolygu

Bu Price yn cymryd rhan amlwg yn hyrwyddo gwaith y cymdeithasau cyfeillgar, yn enwedig y rhai Urdd Annibynnol yr Oddfellows, ac Urdd yr Iforiaid. Bu'n dal swyddi anrhydeddus yn y ddau sefydliad. Yn ddios bu'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at y bri Price ymysg dosbarth gweithiol Aberdâr erbyn y 1860au.[13]

Bu Price hefyd yn ymgyrchydd amlwg. Ym 1851, fe chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgais lwyddiannus i atal Cwmni Haearn Aberdâr  a oedd yn eiddo i Richard Fothergill rhag defnyddio'r system trycio yn ei waith yn Abernant .[14] (Roedd trycio yn golygu talu gweithwyr efo arian a bathwyd gan gwmni, nad oedd modd ei wario ond yn siopau oedd yn eiddo i'r cwmni). Cynhaliodd Price gyfarfod cyhoeddus yn Aberdâr, gyda'r bwriad o ffurfio Cymdeithas Wrth Trycio. Nid oedd yr ymgyrch yn erbyn  trycio yn derbyn cymorth llawn gan y dosbarth gweithiol. Bu ymgais Price i ailadrodd ei lwyddiant yn Aberdâr ymysg gweithwyr Fothergill yn Nhrefforest yn fethiant. Mae rhywfaint o amwysedd ynghylch diddymu'r system trycio'n llwyr yn Aberdâr gan fod siop y cwmni yn parhau i weithredu hyd 1868 pan oedd Fothergill, yn derbyn cefnogaeth brwdfrydig gan Price fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol.

Roedd radicaliaeth wleidyddol Price yn syrthio'n brin o gefnogi undebaeth lafur. Yn ystod nifer o anghydfodau diwydiannol yng Nghwm Aberdâr yn ystod y 1850au a'r 1860au bu Price yn argymell rhoi'r gorau i'r streic a dychwelyd i'r gwaith. Bu ei agwedd i'w weld yn amlwg yn ystod Streic lofaol Aberdâr 1857- 1858 a alwyd mewn gwrthwynebiad i dorri 20% o gyflog y glowyr ar draws llawer o faes glo'r de.[15] Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberdâr yn ystod yr anghydfod, bu Price yn annog y dynion i ddychwelyd i'r gwaith.[16] Bu cefnogaeth Price i farn o Austen Henry Bruce yn ystod yr anghydfod yn cael ei godi gan ei wrthwynebwyr yn ystod  Etholiad Cyffredinol 1868.[15]

Gwleidyddiaeth seneddolGolygu

Dechreuodd Price i chware rhan mewn etholiadau seneddol yn  is-etholiad Bwrdeistrefi Merthyr 1852 a alwyd yn dilyn marwolaeth Syr John Josiah Guest.[17] Yn etholiad 1857 bu'n ymgyrchu i ail ethol C. R. M. Talbot a Henry Hussey Vivian i gael eu hail-ethol dros Sir Forgannwg.[18]

Dechreuodd Price i ennill amlygrwydd y tu hwnt i'w ardal leol yn y 1860au cynnar pan ddaeth yn gysylltiedig â'r Gymdeithas Ymryddhau, a oedd yn ceisio datgysylltu Eglwys Loegr. [19]

Is etholiad Aberhonddu 1866 Golygu

Yn gynnar yn 1866 yn is-etholiad yn codi yn  etholaeth Aberhonddu, yn dilyn marwolaeth Col. John Watkins a oedd wedi dal y sedd yn ysbeidiol ers 1832.[20] Roedd gan Price cysylltiadau ag Aberhonddu o'i ieuenctid. Crybwyllwyd enw Price fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol mewn cyfarfod  yn ei ymgeisyddiaeth oedd y cyntaf i grybwyll ym mis Rhagfyr mewn cyfarfod Cyfrinfa Gwron o'r Urdd Alfredian yn Aberdâr.[21] Roedd Aberhonddu  yn un o'r etholaethau lleiaf yng Nghymru, gyda thua 200 o etholwyr, a'u hanner yn anghydffurfwyr.[22] Estynnwyd gwahoddiad i Price sefyll fel ymgeisydd gan rai o anghydffurfwyr Aberhonddu. Derbyniodd y gwahoddiad a chyhoeddodd anerchiad etholiadol.[23]

Cymerodd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus ar 24 Ionawr 1866 i gefnogi ei ymgeisyddiaeth. Roedd y cyfarfod yn un llwyddiannus ac mor boblogaidd bod nifer yn methu cael mynediad i'r neuadd i'w clywed. [24] [22] Yn y pen draw tynnodd allan o'r ras ar y sail bod Iarll Aberhonddu  wedi cyhoeddi cyfeiriad etholiadol mwy Rhyddfrydol.[22]

Ym mhen 6 mis cafodd Iarll Aberhonddu ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad. Roedd Price yn siomedig bod ei gynghreiriaid anghydffurfiol yn y dref wedi cefnogi ymgeisyddiaeth brawd yng Nghyfraith y cyn aelod yr Arglwydd Alfred Spencer Churchill yn hytrach nag ymgeisydd mwy radical megis Henry Richard neu E. M. Richards. O ganlyniad i'w profiadau yn Aberhonddu, penderfynodd Price i ganolbwyntio ar ymgyrch dros ddiwygio'r Senedd ac ehangu'r etholfraint.[25]

Etholiad 1868Golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 1868, daeth Bwrdeistrefi Merthyr yn etholaeth dau aelod, a bu Price yn chwarae rôl flaenllaw yn y broses o ddewis yr ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer yr ail sedd. Bu'n cefnogi achos ei hen gyfaill, Richard Fothergill, fel ymgeisydd.[26] Pan wnaeth ymgeisydd possib arall, Benjamin Thomas Williams galw cyfarfod yn Aberdâr i hyrwyddo ei ymgais i dderbyn yr enwebiad penderfynodd Price i ddefnyddio'r achlysur i ddatgan ei gefnogaeth i Fothergill.[27]

MarwolaethGolygu

Bu ymddygiad Price yn Etholiad Cyffredinol 1868 a'i fethiant i gefnogi Henry Richard yn ei wneud  yn amhoblogaidd gan rai, ond barhaodd i fod yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus cylch Aberdâr. Bu'n rhaid iddo ro'r gorau i'w gwaith am ychydig ym 1886 oherwydd salwch. Er iddo ail afael yn ei weinidogaeth ni fu'n holliach eto a bu farw yn ei gartref, Rose cottage, Aberdâr yn 67 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent capel Calfaria. Roedd ei angladd ymysg un o'r mwyaf a welwyd yn y cwm erioed[28] gyda dros 130 o weinidogion yn bresenol.[29]

Ym 1891 cyhoeddwyd bywgraffiad i Thomas Price gan y Parch Benjamin Evans:

CyfeiriadauGolygu

  1. Y Bywgraffiadur PRICE, THOMAS ( 1820 - 1888 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr adalwyd 26/05/2018
  2. Evans, Benjamin Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price Aberdâr : J. Howell & Cwmni, 1891 adalwyd 26/05/2018
  3. Historic Houses Ty Mawr LLANFRYNACH, BRECON, LD3 7BZ adalwyd 26/05/2018
  4. The Baptist Quarterly G. Henton Davies A Welsh Man of God tud 362 (pdf tud 3) adalwyd 26/05/2018
  5. Cynon Culture Dr Thomas Price adalwyd 27/05/2018
  6. LLGC Y Llyfrau Gleision Cyf II adalwyd 26/05/2018
  7. Jones 1964, tt. 156-8.
  8. 8.0 8.1 Jones 1964, tt. 159-61.
  9. Rammell 1853, t. 6.
  10. "Aberdare Board of Health". Cardiff and Merthyr Guardian. 22 Medi 1854. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3090874/ART17.
  11. "Prosecutions under the Local Board of Health Act". Monmouthshire Merlin. 31 Hydref 1857. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3397545/ART51.
  12. "Board of Health Election". Aberdare Times. 1 Medi 1866. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3021911/ART24.
  13. Jones 1964, tt. 162-3.
  14. Jones 1964, tt. 168-70.
  15. 15.0 15.1 Jones 1964, tt. 166-8.
  16. "The Colliers Strike at Aberdare (editorial)". Merthyr Telegraph. 12 Rhagfyr 1857. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3071982/ART3.
  17. Jones 1965, tt. 252-3.
  18. Jones 1965, tt. 255-6.
  19. Jones 1965, tt. 257-9.
  20. "Editorial". Welshman. 6 Hydref 1865. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/4353246/ART15.
  21. "Presentation". Merthyr Telegraph. 9 Rhagfyr 1865. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3074047/ART21.
  22. 22.0 22.1 22.2 Jones 1965, tt. 260-1.
  23. Price, Thomas (5 Ionawr 1866). "To the Independent Electors of the Borough of Brecon". Seren Cymru. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3196651/ART49.
  24. "Brecon Election". Brecon Reporter. 28 Ionawr 1866. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3680127/ART59.
  25. Jones 1965, tt. 261-2.
  26. Jones 1965, tt. 263-4.
  27. "Local and District News". Cardiff Times. 29 Mehefin 1867. http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3384548/ART92.
  28. "FUNERALOF THE LATE REV DR PRICE - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1888-03-10. Cyrchwyd 2018-05-27.
  29. "Y GALARWYR - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1888-03-15. Cyrchwyd 2018-05-27.