Canol De Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)

Roedd Canol De Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu canol deheubarth Cymru, gan gynnwys dinas Caerdydd.

Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.

Cafodd yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad senedd Ewrop 1994 allan o'r rhan helaethaf o etholaeth Ewrop De Cymru ac etholaeth seneddol Cwm Cynon, Daeth y sedd yn rhan o etholaeth Cymru gyfan ym 1999.

Roedd yr etholaeth yn cynnwys etholaethau seneddol Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Cwm Cynon, Pontypridd, Y Rhondda, Bro Morgannwg.

Aelodau etholedig

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1994 Wayne David Llafur

Canlyniad Etholiad 1994

golygu

[1]

Etholiad Senedd Ewrop, 1994: Etholaeth canol De Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Wayne David 115,396 61.4
Ceidwadwyr Mrs L A Verity 29,340 15.6
Plaid Cymru G O Llywelyn 18,471 10
Democratiaid Rhyddfrydol John Dixon 18,471 9.8
Gwyrdd C J von Ruhland 4.002 2.1
Plaid Gomiwnyddol Prydain Robert Griffiths 1,106 0.7
Deddf Naturiol G Dugday 889 0.6 0.7
Mwyafrif 86,056 45.8
Y nifer a bleidleisiodd 477,182 39.4
Llafur yn cadw Gogwydd
  1. http://www.election.demon.co.uk/epwelsh.html adalwyd 1 Rhag 1913