Mudiad gyda'r nod o sefydlu cyff arall o frenhinllin y Bourboniaid, sef Carlos María Isidro de Borbón, "Don Carlos", Cownt Molina (1788–1855) a'i ddisgynyddion, ar orsedd Sbaen oedd Carliaeth (Sbaeneg: carlismo, Catalaneg: carlisme, Basgeg: karlismo, Galiseg: carlismo) a ffynnai yn y 19g, yn gysylltiedig ag athrawiaeth geidwadol tradicionalismo. Ymgododd ymhlith tueddiad gwrth-ryddfrydol yr apostólico yn y glerigiaeth, ac ym 1827 ffurfiwyd lledfilwyr y Gwirfoddolwyr Brenhinol.[1] Yn y 1830au, ymlynodd y garfan hon â Don Carlos, brawd iau'r Brenin Fernando VII, gan gefnogi ei hawl i etifeddu'r orsedd o flaen merch Fernando. Wedi marwolaeth Fernando VII ym 1833, ac esgyniad ei ferch Isabella II i'r orsedd, cychwynnodd Rhyfel Cyntaf y Carliaid. Daeth hwnnw i ben ym 1840 gyda buddugoliaeth y Christinos, cefnogwyr Isabella. Cafwyd dau wrthdaro arall ar raddfa lai, Ail Ryfel y Carliaid neu Ryfel y Matiners (1846–49) a'r Trydydd Rhyfel (1872–76). Câi'r mudiad ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth yr adain dde yn Sbaen, ac ymgyfunodd gweddillion y Carliaid â'r Ffalanche ym 1937.

Carliaeth
Baner Garlaidd o Drydydd Rhyfel y Carliaid, y faner drilliw gyda'r geiriau dios, patria, rey (Duw, gwlad, brenin).
Enghraifft o'r canlynolideoleg wleidyddol, mudiad gwleidyddol, sefydliad arfog Edit this on Wikidata
MathTraditionalism Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1830 Edit this on Wikidata
GwladwriaethYmerodraeth Sbaen, Sbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Wrth i wrthwynebiad i ryddfrydiaeth gynyddu yn y deyrnas yn y 1830au, cefnogodd y Gwirfoddolwyr Brenhinol hawl Don Carlos—felly'r enw "Carliaid"—i olynu ei frawd hŷn i'r orsedd, oni bai y byddai Fernando yn cael mab, yn unol â'r hen gyfraith Salig o flaenoriaethu gwrywod yn yr olyniaeth frenhinol, y drefn yn Sbaen ers gorchymyn Felipe V ym 1713. Byddai hynny'n groes i'r Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd gan Fernando ym 1830 a gadarnhaodd benderfyniad ei ragflaenydd, Siarl IV, ym 1789 i ddirymu'r gyfraith Salig ac felly cynnwys merched yn olyniaeth coron Sbaen. Dim ond dwy ferch, Isabella (ganed 1830) a Luisa Fernanda (ganed 1832), a gafodd Fernando a'i wraig María Cristina cyn iddo farw ym 1833.

Datblygodd Carliaeth yn fudiad gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, gan arddel tra-cheidwadaeth, amddiffyn yr Eglwys Gatholig, ac ymreolaeth ranbarthol.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Carlism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2023.