Roedd Carlo Sabajno, (1874-1838) yn arweinydd operâu o'r Eidal.[1]

Carlo Sabajno
Ganwyd1874 Edit this on Wikidata
Rosasco Edit this on Wikidata
Bu farw1938 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ganwyd Sabjano yn Rosasco, yr Eidal yn aelod o deulu o dirfeddianwyr. Bu'n gwasanaethu fel arweinydd cynorthwyol i Toscanini yn ystod ei gyfnod fel prif arweinydd y Teatro Regio Turin.

Ym 1904, cafodd Sabjano ei benodi gan Fred Gaisberg i'r swydd o arweinydd tŷ Eidaleg y Gramophone Company. Swydd a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb am bob agwedd ar gynhyrchu, megis dewis repertoire dewis artistiaid, yn ogystal â bod yn arweinydd yn y stiwdio. Wedi ei benodi ymroddodd Sabjano yn llwyr i'r diwydiant recordio newydd gan droi ei gefn ar y neuaddau cyngerdd a'r tai opera. Yn y swydd bu'n gyfrifol am rai o'r recordiadau cynharaf o operâu cyfan, nifer ohonynt gyda cherddorfa La Scala, Milan a'r cantorion amlwg bu'n perfformio yno.

Ei record gyntaf oedd un o opera Verdi Ernani ym 1904 a'i olaf oedd recordiad o Otello, hefyd gan Verdi ym 1932. Ymysg ei recordiadau nodedig eraill oedd dau recordiad o'r Rigoletto ym 1917 ac eto ym 1927, ei recordiad o opera Donizetti Don Pasquale gyda Tito Schipa ac o Aida gyda'r tenor Aureliano Pertile. Roedd nifer o'i recordiadau yn cynnwys cyfraniadau gan gantorion mawr ei ddydd megis Beniamino Gigli.

Yn ogystal ag operâu llawn arweiniodd recordiadau o ariâu unigol, dyfyniadau byr o operâu a darnau cerddorfaol gan gynnwys Liebestod o Tristan und Isolde, yr arweiniad i Edmea gan Catalani agorawd Le Roi de Lahore, Massenet, yr Ymdeithgan Priodas o Freuddwyd Nos Ŵyl Ifan Mendelssohn ac agorawd i Die Zauberflöte Mozart.

Ymddeolodd o'i waith gyda'r Gramophone Company ym 1932 a bu farw ym Milan ym 1938.

Disgyddiaeth golygu

1907

  • 1907 Leoncavallo: Pagliacci – Antonio Paoli, Giuseppina Huguet, Ernesto Badini; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1907 Verdi: Aida - Teresa Chelotti, Orazio Cosentino, Vittoria Colombati, Giovanni Novelli, Alfredo Brondi; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan

1915 - 1919

1920 - 1930

  • 1920 Bizet: Carmen - Fanny Anitúa, Luigi Bolis, Ines Maria Ferraris, Cesare Formichi; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1920 Gounoud: Faust – Giuliano Romagnoli, Fernando Autori, Gemma Bosini, Adolfo Pacini, Gilda Timitz; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1921 Puccini: Madama Butterfly – Ottavia Giordano, Santo Santonocito, Ginevra Amato, Adolfo Pacini; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1927-1928 Verdi: Rigoletto – Luigi Piazza, Lina Pagliughi, Tino Folgar; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1928 Puccini: La bohème – Rosina Torri, Aristodemo Giorgini, Ernesto Badini, Thea Vitulli; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan;
  • 1928 Verdi: AidaDusolina Giannini, Aureliano Pertile, Irene Minghini-Cattaneo, Giovanni Inghilleri, Luigi Manfrini; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1929 Verdi: Requiem - Maria Luisa Fanelli, Irene Minghini-Cattaneo, Franco Lo Giudice, Ezio Pinza; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1929 Leoncavallo: Pagliacci – Alessandro Valente, Adelaide Saraceni, Apollo Granforte; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1929-30 Mascagni: Cavalleria rusticana – Delia Sanzio, Giovanni Breviario, Piero Biasini; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1929-30 Puccini: Madama ButterflyMargaret Burke Sheridan, Lionello Cecil, Ida Mannarini, Vittorio Weinberg; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1929-30 Puccini: ToscaCarmen Melis, Piero Pauli, Apollo Granforte; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan

1930 - 1932

  • 1930 Verdi: Il trovatore: – Aureliano Pertile, Maria Carena, Irene Minghini-Cattaneo, Apollo Granforte; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1930-31 Verdi: La traviata – Anna Rosza, Alessandro Ziliani, Luigi Borgonovo; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1931 Bizet: Carmen – Gabriela Besanzoni, Piero Pauli, Maria Carbone, Ernesto Besanzoni; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1931-32 Verdi: Otello – Nicola Fusati, Maria Carbone, Apollo Granforte; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan
  • 1932 Donizetti: Don Pasquale – Ernesto Badini, Tito Schipa, Adelaide Saraceni, Afro Poli; Cerddorfa a Chorws La Scala, Milan

Detholiad o'i waith golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The house conductor: Carlo Sabajno adalwyd 30 Hydref 2018

Dolenni allanol golygu

Fideo YouTube o Carlo Sabajno yn arwain Madama Butterfly