Andrea Chénier (opera)
Mae Andrea Chénier yn opera mewn pedair act gan Umberto Giordano gyda libreto yn yr Eidaleg gan Luigi Illica. Mae wedi ei seilio yn fras, ar fywyd y bardd Ffrengig André de Chénier (1762-1794) a gafodd ei ddienyddio yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Mae'r cymeriad Carlo Gérard wedi'i seilio'n rhannol ar Jean-Lambert Tallien, ffigwr blaenllaw yn y Chwyldro. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf ar 28 Mawrth 1896 yn La Scala, Milan.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1896 |
Dechrau/Sefydlu | 1896 |
Genre | Verismo, verismo, opera |
Cymeriadau | Andrea Chénier, Carlo Gérard, Maddalena di Coigny, La comtesse di Coigny, Roucher, Schmidt, Pietro Fléville, The Abbé, Mathieu, The Incredible, Madelon, Bersi, Dumas, Fouquier-Tinville |
Yn cynnwys | La mamma morta |
Libretydd | Luigi Illica |
Lleoliad y perff. 1af | La Scala |
Dyddiad y perff. 1af | 28 Mawrth 1896 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Coigny, Paris |
Hyd | 2 awr |
Cyfansoddwr | Umberto Giordano |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perfformiadau
golyguPerfformiwyd y gwaith am y to cyntaf yn y Teatro alla Scala, Milan, ar 28 Mawrth 1896 gydag Evelina Carrera, Giuseppe Borgatti (a gymerodd lle Alfonso Garulli ar y funud olaf) a Mario Sammarco yn rhannau rolau blaenllaw'r soprano, y tenor a'r bariton. Yr Arweinydd oedd Rodolfo Ferrari.
Mae perfformiadau cyntaf nodedig eraill yn cynnwys y rhai yn Ninas Efrog Newydd yn yr Academy of Music ar 13 Tachwedd 1896; yn Hamburg ar 3 Chwefror 1897 o dan faton Gustav Mahler; ac yn y Camden Theatre yn Llundain ar 16 Ebrill 1903 (yn cael ei ganu yn Saesneg).
Ar wahân i Borgatti, roedd perfformwyr enwog o rôl Chénier yn y cyfnod rhwng perfformiad cyntaf yr opera a dechrau'r Ail Ryfel Byd yn cynnwys Francesco Tamagno (a astudiodd y gwaith gyda Giordano), Bernardo de Muro, Giovanni Zenatello, Giovanni Martinelli, Aureliano Pertile, Francesco Merli, Beniamino Gigli , Giacomo Lauri-Volpi ac Antonio Cortis. Rhoddodd Enrico Caruso hefyd ychydig o berfformiadau fel Chénier yn Llundain ym 1907. Mae pob un o'r tenoriaid hyn ac eithrio Borgatti wedi gwneud recordiadau 78-rpm o un neu fwy o unawdau'r rôl.
Wedi'r rhyfel, Franco Corelli, Richard Tucker a Mario Del Monaco oedd dehonglwyr enwocaf y rôl deitl yn ystod y 1950au a'r 1960au, a daeth Plácido Domingo yn ddehonglydd mwyaf blaenllaw ymhlith y genhedlaeth nesaf o denoriaid, er bod cyfoeswr Domingo, Luciano Pavarotti, hefyd yn canu a recordio'r gwaith. Aeth y tenor Wagneraidd Ben Heppner i’r afael â’r rôl yn Ninas Efrog Newydd mewn adfywiad gan yr Opera Metropolitan yn 2007.[2]
Ym 1982 bu Opera Cenedlaethol Cymru'n perfformio Andrea Chénier, gyda'r gantores Gymreig Elizabeth Vaughan yn chware rhan Maddalena, ei pherfformiad olaf gyda'r cwmni.[3]
Canodd y tenor Gymreig Arthur Davies y brif ran mewn perfformiadau gan Opera Cincinnati ym 1995.
Mae'r opera yn rhan o arlwy 2024 y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden gyda Jonas Kaufmann yn chwarae'r brif ran a'r Cymro Aled Hall yn chwarae rhan yr Abbé.[4]
Cymeriadau
golygucymeriad[5] | llais | cast premiere, 28 Mawrth 1896 (Arweinydd: Rodolfo Ferrari) |
---|---|---|
Andrea Chénier, bardd | tenor | Giuseppe Borgatti |
Carlo Gérard, gwas | bariton | Mario Sammarco |
Maddalena di Coigny | soprano | Avelina Carrera |
Bersi, ei morwyn | mezzo-soprano | Maddalena Ticci |
La comtesse di Coigny | mezzo-soprano | Della Rogers |
Pietro Fléville, nofelydd | bas | Gaetano Roveri |
Mathieu, a sans-culotte | buffo neu fariton | Michele Wigley |
Yr Abbé, bardd | tenor | Enrico Giordano |
Incroyable, ysbiwr | tenor | Enrico Giordano |
Roucher, cyfaill Chénier | bas neu fariton | Gaetano Roveri |
Schmidt, carcharor yng Ngharchar St. Lazare | bas neu fariton | Raffaele Terzi |
Madelon, hen wraig | mezzo-soprano | Della Rogers |
Fouquier-Tinville, Yr Erlynydd Cyhoeddus | bas neu fariton | Ettore Brancaleone |
Dumas, llywydd y Tribiwnlys Chwyldroadol | bas | Raffaele Terzi |
Major-domo | bas | Raffaele Terzi |
boneddigion, boneddigesau, cerddorion, gweision, milwyr – Corws |
Trosolwg
golyguAmser:
- Act I ychydig cyn y Chwyldro Ffrengig
- Actau II-IV, 1794
Lleoliad:
- Paris
Yn ystafell ddawns yr Iarlles de Coigny, mae rhai o uchelwyr Paris yn cael eu dathliadau olaf cyn i aflonyddwch y Chwyldro Ffrengig ddechrau treiglo. Mae gweision yn symud y dodrefn i baratoi ar gyfer y parti mawr gyda'r nos. Yn eu plith mae Gérard. Yn ei aria agoriadol mae'n mynegi ei gariad anobeithiol at Madeleine, merch ei feistres; mae'n cydymdeimlo â'i dad oedrannus am orfod gweithio mor galed; ac y mae yn rhagfynegi y bydd ei ddosbarth un diwrnod yn codi ac yn difetha'r tŷ hwn, y mae yn ei gasáu. Yna mae'r Iarlles de Coigny yn dod i mewn gyda'i merch olygus, Madeleine. Mae'n trafod ffrogiau gyda'i morwyn, Bersi, ac mae’r Iarlles yn gwneud yn siŵr fod popeth yn barod ar gyfer y parti. Mae'r gwesteion yn cyrraedd. Mae llawer o sôn gwamal am wleidyddiaeth, a cheir canu gan ddiddanwyr proffesiynol.
Ymysg y gwesteion mae'r bardd Andrea Chénier. Mae Madeleine yn gofyn iddo adrodd rhai o'i benillion. Ar y dechrau mae'n gwrthod. Yna, gan ddechrau gyda chanmoliaeth gywrain i'r foneddiges, mae'n gorffen ei gerdd gyda phrotest yn erbyn y ffordd y mae'r dosbarthiadau isaf yn cael eu trin yn Ffrainc. Mae'n dweud nad oes modd i ddynes o'r dosbarth uchel fel Madeleine deall cariad mewn gwirionedd. Mae pawb yn y parti aristocrataidd mewn sioc, ac, i guddio'r embaras, mae'r Iarlles yn gorchymyn i'r cerddorion ddechrau'r ddawns gavotte. Ond prin fod y dawnsio wedi dechrau pan ddaw corws o dlodion i mewn i'r ystafell dan arweiniad Gérard, sy'n protestio yn erbyn ei gyflogwyr a'u dosbarth yn egnïol. Mae Gérard a'r tlodion yn cael eu hel allan, ac mae Chénier yn eu dilyn. Yna, pan fydd heddwch a phriodoldeb yn cael eu hadfer unwaith eto, mae'r dawnsio a'r dathlu yn ail gychwyn. Mae'n amlwg nad yw'r aristocratiaid wedi gweld yr ysgrifen ar y mur.
ACT II
golyguMae sawl blwyddyn wedi mynd heibio: mae'r Bastille wedi'i gymryd, ac mae'r chwyldroadwyr yn rheoli. Un o'i arweinwyr yw Gérard, y cyn gwas. Mae’r bardd, Andrea Chénier, hefyd wedi chware rhan yn y chwildro, ond bellach mae o dan amheuaeth o fod yn wrth chwyldroadol. O ran aristocratiaid Coigny, mae eu château wedi'i losgi i lawr, a dim ond Madeleine sydd wedi goroesi.
Mae'r act wedi ei leoli y tu allan i gaffi ym Mharis. Mae Bersi, cyn morwyn Madeleine, sydd bellach yn chwyldroadwraig, yn siarad âg Incroyable. Mae'r Incroyable yn ysbïwr i Gérard, mae'n gwybod bod Bersi yn dal i fod ar delerau agos â gwraig aristocrataidd (sef Madeleine,) ac yn gofyn a oes arni ofn cael ei chondemnio am eu cysylltiad. Mae Bersi yn datgan ei falchder o fod yn rhan o'r chwyldroadol trwy ganu aria wfftiol.
Mae Roucher, ffrind da i Chénier, yn ei gyfarfod yn y caffi. Mae wedi dod â phasbort i'r bardd fel y gall ffoi o'r wlad, ond mae Chénier yn gwrthod. Mae wedi bod yn derbyn llythyrau dirgel a dienw oddi wrth foneddiges, ac fel gwir fardd rhamantaidd, mae wedi syrthio mewn cariad â hi. Yna mae tyrfa yn mynd heibio yn cael ei arwain gan Gérard . Mae Gérard yn parhau i fod mewn cariad â Madeleine, mae'n ei disgrifio i'r Incroyable, ac mae'r ysbïwr yn addo dod o hyd iddi'r noson honno. Mae'n mynd, gyda Bersi, ond ychydig yn ddiweddarach mae'n sylwi ar y fenyw ifanc honno'n siarad â Chénier. Mae Bersi’n dweud wrtho fod gwraig ddirgel y llythyrau ar fin ei gyfarfod, ac mae'r ysbïwr yn dal i lechu pan ddaw Madeleine i mewn. Mae deuawd yn cychwyn ar gyfer tenor a soprano, ac ar ei huchafbwynt mae Chénier a Madeleine yn cadarnhau eu cariad. Yn y cyfamser mae'r Incroyable wedi rhedeg i ffwrdd i nôl ei feistr, Gérard. Wrth i'r Chénier a Gérard wynebu ei gilydd, mae Roucher yn llwyddo i dwyn Madeleine i ffwrdd i ddiogelwch. Mae Gérard a Chénier yn tynnu cleddyfau, ond nid yw'r cyn gwas yn gystal cleddyfwr a'r cyn aristocrat, ac mae'r arweinydd chwyldroadol yn cwympo, wedi'i anafu ychydig. Yn gorwedd ar lawr, mae Gérard yn cofio eu cyfeillgarwch cynharach ac yn sibrwd wrth Chénier bod ei enw ar y rhestr y condemnied. Wrth i dyrfa ymgynnull, mae Chénier yn llwyddo i ddianc.
ACT III
golyguMae'r olygfda'n cael ei chynnal yn y Tribiwnlys Chwyldroadol ym Mharis, lle cafodd cymaint o ddynion a merched eu barnu yn didrugaredd. Mae cordiau drwgargoelus yr agoriad yn awgrymu natur creulon y gweithrediadau.
Ar ddechrau'r sesiwn, mae Mathieu (cyn weinydd) yn mynnu mwy o arian at yr achos gan y dorf. Mae'n cael dim byd. Gérard, y cyn was, sy'n ceisio nesaf, a chyda erfyniad angerddol dros Ffrainc, mae'n cael cyfraniadau o aur a thlysau. Mae hen wraig ddall hyd yn oed yn cynnig ei hŵyr pymtheg oed i'r achos. Roedd ei dad wedi ei ladd yn ymosod ar y Bastille, meddai; ei frawd hynaf yn Valmy. Ac yn awr mae ei chynheiliad olaf yn cael ei dderbyn yn ddiolchgar gan y chwyldro. Ar hynny mae'r dorf yn canu'r Carmagnoley gân ddawns chwyldroadol a berfformiwyd mor aml o flaen y gilotîn.
Yna, wrth i’r dorf wasgaru, daw'r Incroyable, yr ysbïw, i fewn. Mae'n adrodd i'w gyflogwr, Gérard, fod Chénier wedi'i arestio ac y bydd Madeleine yn sicr o'i ddilyn yno ar unwaith, ac mae'n annog Gérard i ysgrifennu gwadiad o Chénier. Mae'n dechrau ysgrifennu'r gwadiad dan ganu (Nemico della patria?—"Gelyn gwlad ein tadau?"). Mae'n teimlo'n euog o fradychu gwladgarwr a chyn gyfaill yn y fath modd. Mae'n rhyfeddu at sut y mae o wedi troi o fod yn wladgarwr i lofrudd; mae'n cydnabod yn chwerw mai cariad at Madeleine a'i harweiniodd i hyn. Er gwaethaf ei deimladau mae'n ysgrifennu'r ddogfen angheuol ac yn ei rhoi i'r Incroyable.
Pan mae Madeleine yn cyrraedd, mae Gérard yn dweud wrthi sut y mae wedi ei denu yno ac yn dweud wrthi am ei ymroddiad a'i deimladau o gariad tuag ati. Mae Madeleine yn ceisio dianc, a phan mae Gérard yn rhwystro ei llwybr, mae hi'n sgrechian. Ond yn sydyn mae hi'n dawel eto. Mewn aria deimladwy (La mamma morta—Fy mam marw) mae hi'n sôn am farwolaeth ofnadwy ei mam trwy dân pan losgwyd ei thŷ gan y dorf, ac yn cynnig ei chorff teg ei hun i dalu am fywyd Chénier. Mae Gérard yn cael ei ennill drosodd. Dywed yn awr y bydd yn ceisio achub Chénier; ond y mae yn rhy ddiweddar. Mae'n derbyn neges bod Chénier yn y llys yn barod ac ar fin cael ei roi ar brawf. Mae'r llys yn eistedd yn; mae nifer o achosion garcharorion yn cael eu trin yn gyflym gan y llys; ac o'r diwedd dygir yn erbyn Chénier wadiad Gérard. Yn ofer mae Gérard yn ceisio ei achub. Mae’n protestio nad yw ei wadiad ei hun yn ddim byd ond celwydd, ond mae’r llys a’r dorf yn credu ei fod wedi cael ei lwgrwobrwyo. Caniateir i Chénier (yn wahanol i'r lleill) amddiffyn ei hun, ac mae'n canu'r aria (Sì, fui soldato—"Do, mi fûm yn filwr) yn llawn dewrder a gwladgarwch. Mae Gérard yn ymosod ar anghyfiawnder y llys, ond yn ofer. Mae'r rheithgor yn mynd allan, ac yn ystod yr arhosiad byr mae Chénier yn cael ei galonogi o weld Madeleine. Y rheithfarn, wrth gwrs, yw'r un y mae'r dorf a'r llys am ei chlywed—Euog, a'r ddedfryd yw Marwolaeth. Wrth i Madeleine weiddi enw Chénier yn anobeithiol, mae'r bardd yn cael ei arwain i gell i ddisgwyl ei ddienyddiad.
ACT IV
golyguMae'r olygfa olaf yn digwydd yng nghwrt Carchar St. Lazare ym Mharis. Ychydig cyn gwawr y dydd y mae i gael ei ddienyddio, eistedda Chénier yn ysgrifennu wrth fwrdd. Mae ei ffrind Roucher yn ymweld ag ef, ac ar ôl i'r carcharor adael, mae'n darllen i Roucher yr hyn y mae wedi bod yn ei ysgrifennu. Mae'n set hardd o benillion - ffarwel i fywyd bardd (Come un bel dì di maggio—Fel diwrnod hyfryd ym mis Mai).
Mae'n rhaid i Roucher adael, ac wrth i Chénier gael ei arwain yn ôl i'w gell, daw ei hen ffrind a'i wrthwynebydd Gérard i mewn yng nghwmni Madeleine. Mae Madeleine yn llwgrwobrwyo ceidwad y carchar i adael iddi gymryd lle dynes dan euogfarn o’r enw Idia Legray er mwyn iddi fod gyda Chénier hyd y diwedd. O dan deimlad, mae Gérard yn ymadael i geisio apelio at Robespierre, y dyn mwyaf pwerus yn Ffrainc ar y pryd, heb lwyddiant. Mae Madeleine a Chénier yn canu deuawd rhamantaidd am edrych ymlaen at fod yn unedig mewn marwolaeth. Ar ddiwedd y ddeuawd daw ceidwad y carchar i mewn; gelwir allan enwau Andrea Chénier ac Idia Legray, mae'r cariadon yn cerdded law yn llaw tuag at y gilotîn.
Gweler hefyd
golyguAndrea Chénier ffilm o 1955 sy'n seiliedig ar yr opera
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Simon, Henry William (1989). 100 Great Operas and their Stories. Efrog Newydd: Doubleday. tt. 41-46. ISBN 0-385-05448-3.
- ↑ New York Times Rebel Poet Loses His Heart (and Head)
- ↑ "Sêr Cymru ar y Llwyfan a'r Sgrin". Opera Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2024-04-04.
- ↑ "ANDREA CHÉNIER 30 MAY–11 JUNE 2024". www.roh.org.uk. Cyrchwyd 2024-04-04.
- ↑ Holden, Amanda, gol. (2001). The new Penguin opera guide. Llundain: Penguin. t. 302. ISBN 978-0-14-029312-8.
- ↑ Teatro alla Sacalla, Andrea Chénier-The libretto in brief adalwyd 4 Ebrill 2024