Caroline Lucas
Gwleidydd o Loegr yw Caroline Patricia Lucas (ganwyd 9 Rhagfyr 1960) ac Aelod Seneddol y Blaid Werdd dros etholaeth seneddol Brighton Pavilion ers etholiad 2010. Hi oedd AS cynta'r Blaid Werdd yn Lloegr.
Caroline Lucas | |
---|---|
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
Yn ei swydd 5 Medi 2008 – 5 Medi 2012 | |
Dirprwy | Adrian Ramsay |
Rhagflaenwyd gan | Neb |
Dilynwyd gan | Natalie Bennett |
Prif Lefarydd y Blaid Werdd | |
Yn ei swydd 30 Tachwedd 2007 – 5 Medi 2008 | |
Rhagflaenwyd gan | Siân Berry |
Dilynwyd gan | Neb |
Yn ei swydd 2003 – 24 Tachwedd 2006 | |
Rhagflaenwyd gan | Margaret Wright |
Dilynwyd gan | Siân Berry |
Aelod Seneddol dros Brighton Pavilion | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | David Lepper |
Mwyafrif | 1,252 (2.4%) |
Aelod Senedd Ewrop dros De-ddwyrain Lloegr | |
Yn ei swydd 14 Mehefin 1999 – 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Creu'r etholaeth |
Dilynwyd gan | Keith Taylor |
Manylion personol | |
Ganwyd | Malvern, Lloegr | 9 Rhagfyr 1960
Plaid wleidyddol | Plaid Werdd y DU (1986–1990) Plaid Werdd Cymru a Lloegr (1990–presennol) |
Priod | Richard Savage |
Alma mater | Prifysgol Caerwysg Prifysgol Kansas |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Cyn ei hethol yn Aelod seneddol, bu'n Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros De-Ddwyrain Lloegr rhwng 1999 a 2010.[1][2] ac Arweinydd y Blaid Werdd rhwng 2008 a 2012; wedi hynny ildiodd ei sedd er mwyn rhoi mwy o amser i'w gwaith fel AS yn San Steffan.
Mae'n nodedig am ei hymgyrchu brwd ac fel awdur llyfrau ar faterion gwyrdd: economeg, globaleiddio, masnach a lles anifeiliaid. Dros y blynyddoedd mae Caroline wedi gweithio gyda nifer o NCOs (mudiadau di-lywodraeth) a phwyllgorau creu polisiau gan gynnwys yr RSPCA, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac Oxfam.
Magwraeth
golyguGanwyd Lucas yn Malvern yn Swydd Gaerwrangon, i deulu dosbarth canol, Ceidwadol;[3]; gwaith ei thad oedd rhedeg busnes gwres canol bychan.[4]
Yn Malvern Girls' College (yna Malvern St James yn 2006), y cafodd ei haddysg; ysgol breifat, annibynnol. Aeth yn fyfyrwraig i Brifysgol Caerwysg ble y cafodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 1983.[3][5] Tra yn y brifysgol bu ar sawl protest i Gomin Greenham a chanolfan awyrlu RAF Molesworth, a bu'n weithgar gyda CND.
Enillodd ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Kansas rhwng 1983 a 1984 cyn cwbwlhau Diploma mewn Newyddiaduraeth yn 1987 a Doethuriaeth (PhD) ym Mhrifysgol Caerwysg yn 1989 pan gwbwlhaodd draethawd ymchwil o'r enw Writing for Women: a study of woman as reader in Elizabethan romance.[6]
Priododd Richard Savage yng Ngorffennaf 1991 yn Rhydychen ac mae ganddynt ddau fab.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Harris, John (8 Chwefror 2010). "Could Brighton Pavilion elect Britain's first Green MP?". The Guardian. London. Cyrchwyd 28 Ebrill 2010.
- ↑ Greens Pick MEP Lucas to Run for MP, Brighton Argus, 18 Gorffennaf 2007
- ↑ 3.0 3.1 "Caroline Lucas: the Green in beige who could be Nick Clegg's nemesis". The Daily Telegraph. London. 3 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-26. Cyrchwyd 2015-04-25.
- ↑ "Green Shift". Thirdwaymagazine.co.uk. 4 February 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-24. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
- ↑ Assinder, Nick (1 April 2005). "Interview: Caroline Lucas". BBC News.
- ↑ Dr. Caroline Lucas ASE Archifwyd 2008-01-08 yn y Peiriant Wayback, yn Senedd Ewrop.