Carwy
Carum carvi | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Umbelliferae |
Genws: | Carum |
Rhywogaeth: | C. tinctorius |
Enw deuenwol | |
Carum carvi Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol dyflwydd yw Carwy sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Umbelliferae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Carum carvi a'r enw Saesneg yw Caraway neu meridian fennel.[1][2] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Carwe,[3] Carwas, Cardwy, Carddwy.[4] Caiff ei ddefnyddio'n aml fe sesnin wrth goginio.
Mae'n debyg o ran ei phryd a'i gwedd i'r foronen, gyda dail danheddog, pluog wedi'u rhannu'n fân a gallant dyfu ar fonion 20–30 cm o uchder. Ceir blodau bychan gwyn neu binc. Mae'r ffrwythau (a elwir yn anghywir yn 'hadau' yr un siap â'r lloer, tua 2 mm o hyd), yn cael eu defnyddio yn y gegin i roi blas ar fwyd.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anise Seed Substitute: Caraway Seed Archifwyd 2015-09-15 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ "Caraway". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Carwes". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.