Castell Aberhonddu

Castell yn nhref Aberhonddu, Powys yw Castell Aberhonddu. Fe'i codwyd gan yr arglwydd Normanaidd Bernard de Neufmarché yn 1093, a chafwyd sawl cyrch ac ymosodiad arno gan y Cymry yn y 13eg a'r 15g. Cafwyd sawl perchennog dros y canrifoedd. Wedi i Harri VIII, brenin Lloegr ddienyddio Buckingham yr olaf, gadawyd i'r castell ddirywio g gadawyd ef i adfeilio tan ddechrau'r 19g pan adferwyd yr adeilad yn westy.

Castell Aberhonddu
Mathadfeilion castell, castell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9486°N 3.3938°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR022 Edit this on Wikidata

Bu Bernard de Neufmarché, brawd Gwilym y Gorchfygwr yn llwyddiannus yn ei ymdrech i orsegyn Brycheiniog.[1] wedi iddo ladd Rhys ap Tewdwr oddeutu Pasg 1093.[2][3] Drwy hyn ac ymgyrchoedd eraill cryfhaodd y Normaniaid eu gafael ar Dde Cymru.[1][3] Fel gwobr am ei ymdrech, fe wnaed Bernard yn Arglwydd. Pan gychwynodd ar y gwaith adeiladu yn 1093, mae'n bosib mai hwn oedd y castell carreg cyntaf yng Nghymru.[2][4] Cludwyd y cerrig yma o dref Rhufeinig Caerfaddon.[2] Codwyd y castell yn y fforch rhwng dwy afon: Afon Wysg ac Afon Honddu.

Gweler hefyd

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Parry, Edward. "History of the Brecon Castle" (PDF). breconcastlehotel.co.uk. Cyrchwyd 24 October 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 Alan Philips (4 November 2014). Castles of Wales. Amberley Publishing Limited. t. 28. ISBN 978-1-4456-4406-6.
  3. 3.0 3.1 Terry Breverton (30 October 2012). Wales: A Historical Companion. Amberley Publishing Limited. t. 52. ISBN 978-1-4456-0990-4.
  4. "Brecon Castle". britainexpress.com. Cyrchwyd 24 October 2015.