Castell Ewlo
Castell canoloesol a godwyd gan frenhinoedd Gwynedd yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Castell Ewlo. Saif ar fryncyn isel mewn coedwig ger pentref presennol Ewlo. Dyma safle mwyaf beiddgar unrhyw un o gestyll tywysogion Gwynedd, bron ar y ffin â Lloegr a dan drwyn garsiwn Caer.
Math | castell, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ewlo |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 64.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.199961°N 3.067223°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL002 |
Mae hanes cynnar y castell yn ansicr. Ymddengys fod Owain Gwynedd wedi codi castell mwnt a beili ar y safle tua'r flwyddyn 1146, er mwyn amddiffyn y mynediad ar hyd yr arfordir o Gaer i'r Berfeddwlad ac afon Conwy; llwybr arferol pawb a geisiai oresgyn Gwynedd o'r cyfeiriad yma.
Yn 1157 ymladdwyd brwydr yma rhwng y Saeson a meibion Owain Gwynedd. Y Cymry a orfu.
Mae'n bosibl fod Llywelyn ab Iorwerth wedi codi castell newydd yno i gymryd lle'r hen gastell pren tua 1220, ond does dim sicrwydd am hynny. Mae'r gorthwr o siâp apsidaidd yn debyg iawn i'r un a godwyd tua'r un amser yng Nghastell y Bere ym Meirionnydd.[1][2]
Codwyd castell o gerrig yn 1257 gan Llywelyn ap Gruffudd, gyda llenfur i amgau ward o flaen y gorthwr gyda thŵr crwn yn y gornel orllewinol. Roedd y llenfur yn amgae ffynnon hefyd. Roedd dau borth i'r castell ar ei newydd wedd, un i'r ward trwy'r llenfur a'r llall dros bont ar y ffos i ward mewnol y gorthwr.
Ar ôl Rhyfel 1af Annibyniaeth Cymru 1276-77 cododd y Saeson gastell newydd yn y Fflint a chollodd Castell Ewlo ei werth milwrol fel amddiffynfa mwyaf allanol Gwynedd, bron ar y ffin â Lloegr. Ymddengys fod rhan o'r castell wedi cael ei ddifetha'n fwriadol gan y Cymry cyn ei adael. Ni chafodd ei adfer ar ôl hynny ond erys adfeilion sylweddol ar y safle heddiw.
Mae'r castell yng ngofal Cadw. Gellir ei gyrraedd o lwybr o'r B5125, ger Ewlo.
Llyfryddiaeth
golygu- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Cymru (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)