Castell Fflemish

bryngaer yng Ngheredigion

Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Tregaron, Ceredigion, Cymru, yw Castell Fflemish[1] (hefyd Castell Flemish mewn rhai ffynonellau)

Castell Fflemish
Mathcaer lefal, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion, Tregaron Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2505°N 3.97281°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN65396319 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD021 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Codwyd y fryngaer hon ar gopa bryn ger Tregaron. Ceir dau glawdd gyda bwlch mawr rhyngddynt sy'n amddiffyn pen y bryn. Credir fod y gaer yn perthyn i Oes yr Haearn, yn ôl pob tebyg, ond heb gloddio ni allem fod yn sicr nad yw'n perthyn i'r Oesoedd Canol Cynnar chwaith.[1]

Cefndir golygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD021.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynnwr gael mantais filwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfaoedd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynt eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Llundain, 1978), tt.172-3
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.