Castell Hwlffordd
Adeilad rhestredig Gradd I wedi'i leoli yng nghanol ac uwchlaw tref Hwlffordd yw Castell Hwlffordd. Mae mewn sefyllfa amddiffynnol cryf iawn, gan ei fod ar godiad tir, ac yn perthyn i glwstwr o gestyll sy'n cynnwys Castell Cas-wis sydd chwe milltir i'r gogledd-ddwyrain a Chastell Penfro, deuddeg milltir i'r de. Fe'i codwyd ym 1120 gan y Normaniaid ond mae' llawer o'r hyn a welir heddiw'n perthyn i 1290.[1]
Math | castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Hwlffordd |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 22.9 metr |
Cyfesurynnau | 51.802375°N 4.970341°W, 51.802692°N 4.970217°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE366 |
Hanes
golyguCyn codi'r castell roedd yma fryngaer o'r Oes Haearn.[2] Credir i'r Daniaid sefydlu yma am gyfnod cyn ymosodiaid y Normaniaid yn yr 11g.[2] Yn 1108 y Ffleminiaid oedd yma, a gyflogwyd gan y Normaniaid i amddiffyn eu tiroedd, gan gynnwys gynnal Castell Penfro ar eu rhan.[2]
Adeiladau o gyfnod y Normaniaid yw'r rhan fwyaf o'r hyn a welir heddiw yn ôl rhai, wedi'u codi'n bennaf gan y Sais Gilbert de Clare, Iarll Penfro yn 1120.[3][4] Ceir dipyn o angytuno am hyn, fodd bynnag; mae Archifdy Penfro'n mynnu mai Tancred y Fflemyn gododd y castell carreg gwreiddiol; tref Fflemeg felly, ac nid Normanaidd oedd hi. Credant fod y castell yn nwylo teulu Tancred tan 1210.[2]
Un o'r rhai cyntaf i ymosod ar y castell oedd Gruffydd ap Rhys, Tywysog Deheubarth, rhwng 1135 - 1136. Ond erbyn 1173 safodd y Sais Harri II yma ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Ymwelydd arall a'r dref oedd Gerallt Gymro a hynny yn 1188, pan ddaeth gyda'i gyfaill yr Archesgob Baldwin.[2][3]
Yn 1210 cymerodd John, brenin Lloegr y castell oddi wrth deulu'r Tancred ac yn 1213 dyrchafodd William Marshal, Iarll Penfro i gynnal a dal y castell ar ei ran - am swm enfawr o arian. Cychwynodd ei adnewyddu ac erbyn 1220 doedd fawr o'r hen gastell ar ôl, a'r castell newydd yn gryfach a chadarnach o'r herwydd.
Yn Ionawr 2008 cynhaliwyd archwiliad archaeolegol yn y castell.[5]
Oriel
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Haverfordwest Castle". CastleUK.net. Cyrchwyd 4 Mawrth 2010.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Llewellyn, David. "History of Haverfordwest". Pembrokeshire Record Office, BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-17. Cyrchwyd 4 Mawrth 2010.
- ↑ 3.0 3.1 Thomas, Jeffrey L. "Haverfordwest Castle". Castlewales.com. Cyrchwyd 4 Mawrth 2010.
- ↑ "Haverfordwest Castle". Ecastles.co.uk. Cyrchwyd 4 Mawrth 2010.
- ↑ "The Castle". Haverfordwest Town Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-13. Cyrchwyd 4 Mawrth 2010.