Castell Olwen
Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, yw Castell Olwen. Fe'i lleolir uwchben Afon Dulas.
Math | caer lefal, castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr Pont Steffan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1233°N 4.0755°W |
Cod OS | SN58024923 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD161 |
Disgrifiad
golyguMae'n dyddio o tua'r ail neu'r 3g cyn Crist; mae dwy gaer arall ger llaw o'r un cyfnod sef Castell Allt Goch a Castell Goetre.[1]
Ar y ddaear mae olion amddiffynfa gylch ganoloesol.[2] Mae clawdd llydan sy'n troi yn gwynebu i'r gorllewin a'r gogledd; mae dwy ran tu mewn gyda'r hanner gogleddol yn ffurfio hanner cylch a'r hanner deheuol yn hirgrwn.[3]
Mae'n gofadail rhestredig sydd wedi wedi ei restru fel bryngaer.[2] Mae gwefan Arfordir a Cefn Gwlad Ceredigion yn codi'r cwestiwn "a fu yna gysylltiad rhyngddi â chwedl Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion, tybed?"[1] ond ni ellir profi erbyn heddiw fod yr amddiffynfa wedi'i henwi ar ôl Olwen, ferch Ysbaddaden Bencawr.
Cefndir
golyguCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD161.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Llanbedr Pont Steffan (Allt Goch). Arfordir a Cefn Gwlad Ceredigion.
- ↑ 2.0 2.1 Castell Olwen, Lampeter. The Gatehouse.
- ↑ Thomas Lloyd, Julian Orbach, Robert Scourfield (2006). Carmarthenshire and Ceredigion. Yale University Press. ISBN 9780300101799. URL
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.