Ideoleg wladwriaethol Ciwba yw Castroaeth (Sbaeneg: castrismo neu fidelismo) sydd yn seiliedig ar syniadaeth a pholisïau Fidel Castro (1926–2016), arweinydd Ciwba o 1959 i 2008. Ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth ydyw a fu'n ddylanwadol yn America Ladin yn ystod y Rhyfel Oer.

Cafwyd y datganiad cyhoeddus cyntaf o wleidyddiaeth Fidel Castro yn ei araith "La historia me absolverá" (1953), a fabwysiadwyd yn faniffesto Mudiad 26 Gorffennaf yn ystod Chwyldro Ciwba (1953–59), gwrthryfel adain-chwith a gwrth-drefedigaethol yn erbyn yr unben Fulgencio Batista. Mae'r araith yn pwysleisio cenedlaetholdeb, democratiaeth, a chyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys diwygio tir. Fodd bynnag, nid yw'r araith yn cyfeirio'n uniongyrchol at sosialaeth.[1] Dan ddylanwad ei gyd-chwyldroadwyr, yn enwedig Che Guevara, daeth Castro yn fwyfwy gyfarwydd â syniadaeth Karl Marx, Friedrich Engels, a Vladimir Lenin.[2] Cwympodd llywodraeth Batista ar 1 Ionawr 1959, a daeth Castro ei hun i rym yn Chwefror 1959. Nid oedd Castro yn gomiwnydd i gychwyn, ond mewn araith ym 1961 datganodd ei hun yn Farcsydd–Leninydd.[3] Ceir dadl rhwng ysgolheigion a meddylwyr yr adain chwith ynglŷn â phryd yn union trodd Castro yn Farcsydd, a rhai yn honni iddo ond cofleidio'r ideoleg honno er mwyn ennill cefnogaeth yr Undeb Sofietaidd yn erbyn Unol Daleithiau America ym 1961.[1]

Testun pwysig arall yn natblygiad Castroaeth yw Ail Ddatganiad La Habana, a gyhoeddwyd yn Chwefror 1962 yn sgil diarddel Ciwba o Sefydliad Gwladwriaethau'r Amerig, sydd yn galw ar wledydd, pleidiau, a mudiadau blaengar i ymuno â'r chwyldro yn erbyn trefedigaethrwydd a ffiwdaliaeth.[1] Yn debyg i nifer o wledydd comiwnyddol eraill y tu allan i'r Bloc Dwyreiniol, megis Gweriniaeth Pobl Tsieina a Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, byddai'r drefn yng Nghiwba yn pwysleisio amodau unigryw y wlad ei hun er mwyn gwireddu'r chwyldro.[2] Datblygodd felly arweinyddiaeth, propaganda, a dulliau llywodraethu Castro mewn ymateb i hanes gwleidyddol ac economaidd Ciwba, wedi ei lunio yn ôl camau materolaidd-hanesyddol: ymelwa ar lafur, datblygiad yr ymwybyddiaeth chwyldroadol dorfol, argyfwng imperialaeth, a brwydr y lluoedd rhyddid. Yn groes i ddelfrydau Marcsiaeth uniongred, nid oedd angen creu plaid flaen y gad ac nid y proletariat oedd yr unig ddosbarth a gâi ymuno â'r chwyldro. Ystyriwyd bod yr holl bobl, gan gynnwys gwerinwyr, myfyrwyr, a Christnogion, yn gallu bod yn rhan o'r chwyldro.[1] Ym 1965 aildrefnwyd Mudiad 26 Gorffennaf ar ffurf Plaid Gomiwnyddol Ciwba, ac yn ôl Cyfansoddiad Ciwba (1976)—a seiliwyd ar Gyfansoddiad yr Undeb Sofietaidd (1936)—gwladwriaeth Farcsaidd yw'r wlad.[2]

Câi Castroaeth ddylanwad cryf ar y Chwith Newydd yn y 1960au a'r 1970au. Yng Nghiwba, byddai llywodraeth y Blaid Gomiwnyddol yn rhoi gwedd ffurfiol ar y chwyldro, gan greu cymysgedd anesmwyth o fiwrocratiaeth, gormes wleidyddol, cydffurfiad diwylliannol, lles cymdeithasol, byddino'r bobl, cefnogaeth i chwyldroadau eraill (megis Rhyfel Cartref Angola), hyrwyddo undod yn America Ladin, ac arweinyddiaeth garismataidd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Geraldine Lievesley, "Castroism" yn The Concise Oxford Dictionary of Politics, 3ydd argraffiad, golygwyd gan Iain McLean ac Alisatir McMillan (Rhydychen: Oxford University Press, 2009).
  2. 2.0 2.1 2.2 Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism, ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), tt. 69–70.
  3. Roger Scruton, The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought, 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 81.