Agor y brif ddewislen

Charles Ashton

llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru

Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig hunanddysgedig oedd Charles Ashton (4 Medi 184813 Hydref 1899). Roedd yn frodor o Sir Drefaldwyn (gogledd Powys heddiw), a aned yn Llawr-y-glyn.

Charles Ashton
Charles Ashton.jpg
Ganwyd 4 Medi 1848 Edit this on Wikidata
Llawr-y-glyn Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Hydref 1899 Edit this on Wikidata (51 oed)
Galwedigaeth llyfryddiaethwr, llenor, Hanesydd, heddwas Edit this on Wikidata
Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Gweler hefyd Charles Ashton (actor).

Cynnwys

CefndirGolygu

Roedd Ashton yn blentyn gordderch, yn fab i Elizabeth Ashton, cafodd ei fagu ar aelwyd ei daid, Charles Asheton, saer maen, Ty'nysarn, Llawr y Glyn[1]

GyrfaGolygu

Ym more ei oes gweithiodd fel mwynwr yng ngwaith plwm Dylife ac yna ar y rheilffordd, cyn mynd yn heddwas.

Ym 1869 ymunodd a Heddlu Meirionnydd gan wasanaethu am gyfnod o chwarter canrif. Gwasanaethodd ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Dolgellau, fe'i codwyd i reng sarsiant yn Nolgellau a bu sôn am ei godi i swydd arolygydd, ond ychydig ddyddiau cyn ei gyfweliad am swydd yr arolygydd cafwyd ef yn feddw ar ddyletswydd, ac yn hytrach na'i ddyrchafu cafodd ei israddio i swydd cwnstabl, gan wasanaethu fel cwnstabl Dinas Mawddwy hyd ei ymddeol[2]. Yno daeth yn gyfaill i'r ysgolhaig Daniel Silvan Evans, ficer y plwyf ar y pryd.

Cyfraniad LlenyddolGolygu

Ysgrifennodd Charles Ashton erthyglau i sawl cylchgrawn Cymraeg fel Yr Haul. Ymroddodd i astudio hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gymryd diddordeb arbennig yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr a llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd olygiad o waith Iolo Goch (sy'n wallus yn ôl safonau ysgolheictod heddiw ond yn waith arloesol ar y pryd). Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol ar fywyd William Morgan. Ond ei gampwaith fawr, llafur ei oes, yw'r gyfrol swmpus Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650–1850, sy'n llawn manylion am lên a llenorion y cyfnod hwnnw; enillodd y gyfrol wobr iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 1891 ac fe'i cyhoeddwyd gan lys yr Eisteddfod.

PriodasGolygu

Ym 1871 priododd Ashton a Jennet Williams, ni fu iddynt blant. Roedd y briodas yn un anhapus, nid oedd Mrs Ashton yn gefnogol i'r amser a'r arian roedd ei gŵr yn gwario ar ei ymchwil llenyddol ac roedd ef yn ei churo hi, ac wedi mynegi mewn llythyrau ei dymuniad i'w wraig marw er mwyn iddo gael priodi ei feistres.[3]

MarwolaethGolygu

 
Ellyn

Ar 13 Hydref 1899 ymosododd Ashton ar ei wraig gydag ellyn (rasel hen ffasiwn, debyg i gyllell miniog), llwyddodd Mrs Ashton i ffoi at heddgeidwad cyfagos am gynhorthwy. Wedi gweinyddu ar glwyfau Mrs Ashton aeth yr heddgeidwad i chwilio am Charles a'i ganfod yng nghegin ei dŷ wedi marw drwy hunanladdiad trwy ddefnyddio'r ellyn i dorri ei wddf [4]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Mallwyd[5]

Yn ei ewyllys gadawodd y rhan fwyaf o'i ystâd i'w feistres Martha Hughes, athrawes yn ysgol Dinas Mawddwy, a mam plentyn iddo. Aflwyddiannus bu achos llys gan weddw Ashton i wyrdroi'r ewyllys[6].

LlyfryddiaethGolygu

  • Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan (1891)
  • Gweithiau Iolo Goch (Croesoswallt, 1896)
  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650–1850 (Lerpwl, d.d. = 1893)
  • Llyfryddiaeth y 19eg Ganrif (cyhoeddwyd yn 1908, ar ôl ei farwolaeth)[7]

CyfeiriadauGolygu