Charlotte Wolff
Awdur a seicolegydd o'r Almaen oedd Charlotte Wolff (30 Medi 1897 - 12 Medi 1986) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel meddyg ac awdur ffeithiol. Roedd ei gwaith ar rhywoleg, lesbiaeth a deurywioldeb yn ddylanwadol iawn ar weithiau cynnar yn y meysydd hyn.
Charlotte Wolff | |
---|---|
Ganwyd | 30 Medi 1897 Prabuty |
Bu farw | 12 Medi 1986 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, awdur ffeithiol, llenor, seicolegydd, seicotherapydd, awdur |
Fe'i ganed yn Prabuty a bu farw yn Llundain. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin. Nid oedd yn Seionydd nac yn Iddew sy'n credu nac yn ymarfer ei chred, ond gwrthwynebodd drosi i Gristnogaeth yn bennaf oherwydd dylanwad un o'i chyfeillion yn y Crynwyr, a nododd ei bod yn "Iddew rhyngwladol â phasbort Prydeinig".[1][2][3][4]
Ganed Charlotte Wolff yn Prabuty ('Riesenburg' mewn Almaeneg), Gorllewin Prwsia ond Gwlad Pwyl erbyn hyn, i deulu Iddewig dosbarth canol rhyddfrydol. Cafodd ei haddysgu yn Danzig (Gdansk erbyn hyn) ac yn y Viktoria Schule, Realgymnasium (ysgol uwchradd academaidd i ferched) yn Dresden.
Coleg
golyguYn 1920 aeth i Brifysgol Freiburg i astudio llenyddiaeth ac athroniaeth; ar y pryd roedd yn ysgrifennu barddoniaeth, a chyhoeddodd rai ohonynt. Newidiodd ei ffocws academaidd i feddygaeth ac ar ôl astudio ymhellach yn Königsberg (Kaliningrad, Rwsia) a Tübingen, cwblhaodd radd fel meddyg yn Berlin yn 1926.[5] Gan aros yn Berlin, fe wnaeth ei interniaeth yn trin puteiniaid yn Ysbyty Rudolf Virchow, yna yn ogystal ag ymarfer preifatfel meddyg a seicotherapydd preifat, bu'n gweithio mewn clinigau mewn ardaloedd dosbarth gweithiol ac yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn cynllunio teulu.[5][6] Daeth yn ddirprwy gyfarwyddwr ar y gwasanaeth beichiogrwydd ac yn 1932, yn gyfarwyddwr yr Athrofa Therapi Electroffisegol yng nghlinig Neukölln.[5]
Yr Ail Ryfel Byd
golyguFel Iddew, ni allai weithio wedi i'r Natsïaid ddod i rym ac ymfudodd i Ffrainc, lle bu'n byw gyda ffrindiau ym Mharis a chymuned o arlunwyr yn Sanary-sur-Mer. Wedi'i gwahardd rhag ymarfer meddyginiaeth yno, gwnaeth ddadansoddiadau bywyd drwy archwilio'r llaw. Ym 1936 ymfudodd i Loegr, lle bu'n byw am weddill ei hoes, gan ddod yn breswylydd parhaol yn 1937 a chymryd dinasyddiaeth Brydeinig ym 1947. Cynhaliodd ymchwil seicolegol yng Nghlinig Cynghori Plant Iddewig (Jewish Child Guidance Clinic) a Choleg Prifysgol Llundain, gan ymarfer fel seicotherapydd, a dod yn Gymrawd o'r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig ym 1941, ond nid fel meddyg hyd 1952.
Roedd Wolff yn lesbiad agored, mor gynnar â'r cyfnod pan oedd yn fyfyriwr; yn Berlin roedd ganddi bartner "Aryan" a'i gadawodd hi am ei bywyd, mewn ofn o'r Natsïaid. Yn y 1970au, cyfieithwyd nifer o'i llyfrau, a chynheuwyd diddordeb mawr ynddi i chwilio ymhellach i'w gwaith a gwahoddwyd hi i ddychwelyd i'r Almaen i siarad yn gyhoeddus.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Tr. O. M. Cook. Studies in Hand-Reading. Llundain: Chatto & Windus, 1936. OCLC 6539227
- The Human Hand. Llundain: Methuen, 1942. 3rd ed. 1949. OCLC 717390963
- A Psychology of Gesture. Llundain: Methuen, 1945. 2nd ed. 1948 repr. New York: Arno, 1972. ISBN 9780405031472
- The Hand in Psychological Diagnosis. Llundain: Methuen, 1951. OCLC 14651959
- Love Between Women. Llundain: Duckworth, 1971. OCLC 568668143
- Tr. Christel Buschmann. Psychologie der lesbischen Liebe: eine empirische Studie der weiblichen Homosexualität. rororo 8040. Reinbek bei Hamburg: Rowohlt, 1977. ISBN 9783499680403 (Almaeneg) (Translation of Love between Women)
- Bisexuality: A Study. Llundain: Quartet, 1977. Rev. ed. 1979, ISBN 9780704332539
- Magnus Hirschfeld: A Portrait of a Pioneer in Sexology. Llundain/Efrog Newydd: Quartet, 1986. ISBN 9780704325692
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Charlotte Wolff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Wolff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Charlotte Wolff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Wolff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Wolff, Charlotte", Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia, Jewish Women Archive, adalwyd 18 Chwefror 2014.
- ↑ Eva Rieger and Christiane von Lengerke, Charlotte Wolff, Fembio (Almaeneg)