Chemtou

(Ailgyfeiriad o Chimtou)

Mae Chemtou neu Chimtou yn safle archaeolegol yn nhalaith Jendouba yng ngogledd-orllewin Tiwnisia, a fu gynt yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica. Mae olion y Simitthu hynafol (Simitthus yn y cyfnod Rhufeinig) yn gorwedd 20 km i'r gorllewin o ddinas Jendouba, yn agos i'r ffin ag Algeria, ar groesffordd dwy ffordd hynafol pwysig : un ohonynt yn cysylltu Carthago a Hippo Regius (Annaba yn Algeria heddiw), a'r llall yn cysylltu Tabraca (Tabarka heddiw) a Sicca Veneria (El Kef heddiw).

Chemtou
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJendouba Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.4919°N 8.57619°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Tiwnisia hynafol
Y fforwm yn Chemtou: credir fod yr adeilad yn y canol, a gloddiwyd yn ddiweddar, yn deml Numidaidd

Sefydlwyd y ddinas ar ôl i ddyfryn Medjerda gael ei feddiannu gan y Numidiaid. Mae'n debyg ei bod yn bodoli eisoes yn y 5 CC. Tyfodd yn raddol oherwydd ei lleoliad strategol ar groesffordd llwybrau masnach. Yn nes ymlaen, cododd Micipsa (149-118 CC) deml er cof am ei fab Massinissa, brenin Numidia; defnyddiodd gerrig o'r chwarel leol at y gwaith. Adnabyddid y marmor arbennig o chwarel Chemtou fel "marmor Numidiaidd" (Lladin: marmor numisticus) gan y Rhufeiniaid. Mae o ystod o liwiau delicat sy'n amrywio o felyn i liw rhosyn. Cafodd ei ddefnyddio i godi sawl adeilad pwysig yn Chemtou a'r cylch (temlau a filas yn arbennig), ond roedd yn cael ei allforio i leoedd eraill yn ogystal, hyd at gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ar ôl i Rufain oresgyn Carthago rhoddwyd yr enw swyddogol Colonia Iulia Augusta Numidica Simitthu ar y ddinas.

Mae'r cloddio gan archaeolegwyr o Diwnisia a'r Almaen wedi darganfod olion sylweddol o'r cyfnodau Numidaidd a Rhufeinig, ynghyd â llwybr ffordd arbennig yn rhedeg o Chemtou i Tabarka ar yr arfordir oedd yn caniatau allforio'r marmor. Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yn nodweddiadol o ddinasoedd Rhufeinig y cyfnod ac yn cynnwys temlau, baddondai, pont dŵr, amffitheatr, fforwm, tai preifat a thai ar gyfer y gweithwyr yn y chwarel gerllaw lle amcangyfrir fod hyd at fil o ddynion yn gweithio.

Mae amgueddfa arbennig o dda ar y safle, diolch i arian gan yr Almaen, ond prin iawn yw'r ymwelwyr hyd yma gan fod Chemtou mor ddiarffordd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Hédi Slim ac eraill (gol.), L'Antiquité, cyfrol I o Histoire generale de la Tunisie (Sud Éditions, Tiwnis, 2003)


  Safleoedd archaeolegol Tiwnisia  

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane ·
Mactaris · Musti · Oudna · Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica