Mae Musti (neu Mustis) yn safle archaeolegol ger pentref El Krib, i'r de o Téboursouk yng ngogledd Tiwnisia, tua 120 km i'r gorllewin o Diwnis. Mae'n gorwedd mewn ardal a fu'n gartref i sawl dinas a thref yng nghyfnod yr Henfyd ac yn agos i safle hen ddinas Rufeinig Dougga, i'r gogledd. Dyma'r ardal amaethyddol a gyflenwai Rhufain â gwenith am ganrifoedd. Gorweddai yn nhalaith Rufeinig Affrica.

Musti
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSiliana Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.41°N 9.0833°E Edit this on Wikidata
Map
 
Adfeilion Rhufeinig ym Musti.

Roedd Musti yn ddinas Rhufeinig o bwys yn gorwedd ar hyd ffordd Rufeinig a gysylltai Carthago i'r dwyrain a Tébessa (yn Algeria heddiw) i'r gorllewin. Cafodd terfynau'r ddinas eu gosod yn y flwyddyn 238 pan godwyd dwy fwa fuddugoliaeth ar ddau ben y ffordd Rufeinig sy'n rhedeg trwy Musti. Tua diwedd yr 2g, planiodd y cadfridog Rhufeinig Marius goloni o'i filwyr profiadol yno. Yn ddiweddarach rhoddwyd statws dinas lawn iddi (naill ai gan Iŵl Cesar neu Augustus). Ceir tystiolaeth am bresenoldeb dinasyddion Rhufeinig yno - marsiandiwyr yn bennaf - o gyfnod gweriniaeth Rhufain ymlaen, ond mae'n deg tybio fod llawer o'r trigolion yn frodorion Affricanaidd. Fel yn achos sawl dinas Rufeinig arall yn y wlad, trowyd Musti yn gaer gan y Bysantiaid a chwareai ei ran yn yr ymgiprys am rym rhwng Bysantiaid Tiwnisia a'r Fandaliaid.

Heddiw dim ond rhan fach o'r safle sydd wedi'i chloddio, ond mae'n adnabyddus am ei olion archaeolegol a'i arysgrifau : ceir yno fforwm Rufeinig, olion marchnad, nifer o demlau, cronfeydd dŵr dinesig, caer Fysantaidd a sawl tŷ Rhufeinig.

Wrth y fynedfa i'r ddinas ceir cwrt mawr agored wedi ei bafio sy'n arwain at borth diddorol gyda llwybrau hyd ei ochrau a gysgodir gan doeau.

Yn ymyl y porth ceir olion tair teml cysegredig i Ceres, Plwton ac Apollo. Ceir yn ogystal adfeilion eglwys, basilica a bedyddfa yn ymyl y gaer Fysantaidd anferth.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Claude Lepelley (gol.), Rome et l'intégration de l'Empire. 44 av. J.-C. – 260 ap. J.-C., cyfrol 2, 'Approches régionales du Haut-Empire romain' (Presses universitaires de France (Nouvelles Clio), Paris, 1998)

Dolenni allanol

golygu


  Safleoedd archaeolegol Tiwnisia  

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane ·
Mactaris · Musti · Oudna · Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica