Chris Williams (academydd)
Academydd o Gymru oedd yr Athro Chris Williams (9 Mawrth 1963 – 4 Ebrill 2024)[1][2]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith ar olygu dyddiaduron Richard Burton.[3]
Chris Williams | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1963 Griffithstown |
Bu farw | 4 Ebrill 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, hanesydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Christopher Mark Williams yn Griffithstown, Sir Fynwy i Peter a Josephine Williams.[4] Treuliodd dair mlynedd cyntaf ei fywyd yng Nghasnewydd, ond symudodd ei deulu wedyn i Swindon, lle gwnaeth e Lefel O ac A. Treuliodd flwyddyn yn y fyddin cyn mynychu Coleg Balliol, Rhydychen.[5]
Gyrfa
golyguWedi graddio o Rhydychen, astudiodd am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dod yn ddarlithydd yno.[6]
Wedi hynny gweithiodd ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn 2005 daeth yn Athro Hanes Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yn Gomisiynydd Brenhinol gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn Gadeirydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.[7] Yn 2013 dychwelodd i Brifysgol Caerdydd.
Roedd Williams yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cork, Iwerddon, o 2017 i 2024.[8]
Yn 2016 fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.[9]
Ymchwil
golyguCyhoeddwyd ei argraffiad o ddyddiaduron Burton gan Yale University Press.[10] Rhoddwyd y dyddiaduron i Brifysgol Abertawe gan weddw Burton, Sally Burton, yn 2006.[11][12] Ysgrifennodd yn helaeth ar Faes glo De Cymru a hanes Cymru fodern. Yn fwy diweddar ysgrifennodd ar hanes gartwnau a gwawdluniau gwleidyddol yng ngwledydd Prydain o'r 18 ganrif i'r Ail Ryfel Byd.[13]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod â Siobhan hyd eu hysgariad yn 1993 a ganwyd mab iddynt. Ail-briododd i Sara (nee Spalding) yn 2003, a chawsant ddau fab.
Darlithiodd ar fynydda yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Roedd yn gerddwr brwd a dringodd La Breche De Rolland yn y Pyrenees Ffrengig, Ben Nevis, Yr Wyddfa a Pen-y-Fan.
Bu farw o drawiad ar y galon ar 4 Ebrill 2024.[14]
Llyfryddiaeth
golygu- B. L. Coombes (cyfres Writers of Wales) (gyda William D. Jones; 1999)
- With Dust Still in His Throat: A B.L.Coombes Anthology (gyda Bill Jones; 1999)
- Postcolonial Wales (golygydd, gyda Jane Aaron; 2005)
- Robert Owen and his Legacy (golygydd, gyda Noel Thompson; 2011)
- The Richard Burton Diaries (golygydd; 2012)
- The Gwent County History, cyfr. 4 (golygydd, gyda Sian Rhiannon Williams; 2011)
- The Gwent County History, cyfr. 5 (golygydd, gyda Andy Croll; 2013)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dai Smith (15 Ebrill 2024). "Yr Athro Chris Williams FLSW, 1963–2024". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 30 Ebrill 2024.
- ↑ "Yr Athro Chris Williams wedi marw'n 61 oed". Golwg360. 5 Ebrill 2024. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ "The Richard Burton Diaries ed by Chris Williams: review", The Telegraph, 28 October 2012. Accessed 10 November 2013
- ↑ "Chris Williams, Welsh historian best-known for editing Richard Burton's bestselling Diaries – obituary". The Telegraph. 13 May 2024. Cyrchwyd 13 May 2024.
- ↑ "Remembering Professor Chris Williams, Head of UCC College of Arts, Celtic Studies and Social Sciences". University College Cork. Cyrchwyd 11 April 2024.
- ↑ Honourable Society of Cymmrodorion. Accessed 10 November 2013
- ↑ 2012 Welsh Heritage Schools Initiative. Accessed 10 November 2013
- ↑ "Two major appointments for UCC", UCC News Archive, 2017 Press Releases, 11 April 2017. Accessed 9 December 2020
- ↑ "Chris Williams". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
- ↑ Yale University Press. Accessed 10 November 2013
- ↑ Swansea University School of Arts & Humanities Archifwyd 2013-11-10 yn y Peiriant Wayback. Accessed 10 November 2013
- ↑ "The truth behind the great Richard Burton myth?", Wales Online, 13 Oct 2010. Accessed 10 November 2013
- ↑ UCC Research Profile: Chris Williams. Accessed 9 December 2020
- ↑ Morris, Jeremy (2024-05-15). "Chris Williams obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-05-15.