Chwiplys talsyth
Chwiplys talsyth Bazzania tricrenata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
prin iawn
| |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Lepidoziaceae |
Genws: | Bazzania |
Rhywogaeth: | B. tricrenata |
Enw deuenwol | |
Bazzania tricrenata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Chwiplys talsyth (enw gwyddonol: Bazzania tricrenata; enw Saesneg: lesser whipwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ac Iwerddon, ond mae'n fwyaf poblogaidd yng ngogledd-orllewin yr Alban a Cumbria.
Disgrifiad
golyguFel yr awgryma'r enw Cymraeg, mae'r llysieuyn afu hwn yn dalsyth, ac mae gan pob deilen 3-dant. Mae'r coesynnau'n 2 mm o led. Weithiau mae brig y coesynnau'n plygu eu pennau, fel pe baent yn gweddio yn oren eu lliw, neu weithiau'n wyrdd golau. Mae pob deilen yn 1 mm ei hyd a'i lled.
Cynefin
golyguTyf ar lechweddau creigiog wedi'u gorchuddio gan rug ar ucheldir gwledydd Prydain, ac ar glogwyni ac ar adegau fe'i ceir ar greigiau mewn coedwigoedd.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.