Ysgolhaig clasurol Eidalaidd, bardd yn yr ieithoedd Ladin, Groeg, ac Eidaleg, a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Angelo Ambrogini a ysgrifennai dan y ffugenw Poliziano (Lladin: Politianus; 14 Gorffennaf 145424 Medi 1494) a werthfawrogir am ei gyfraniadau at ieitheg a beirniadaeth destunol y clasuron. Bu'n rhan o'r cylch deallusol a feithrinwyd yng Ngweriniaeth Fflorens dan nawdd Lorenzo de' Medici.

Poliziano
Poliziano fel y'i bortreadir yn y ffresgo Apparizione dell'angelo a Zaccaria (1486–90) gan Domenico Ghirlandaio.
GanwydAngelo Ambrogini Edit this on Wikidata
14 Gorffennaf 1454 Edit this on Wikidata
Montepulciano Edit this on Wikidata
Bu farw29 Medi 1494 Edit this on Wikidata
o gwenwyn Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Man preswylFflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRepublic of Siena, Gweriniaeth Fflorens, yr Eidal, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd, academydd, ieithegydd, llenor, dyneiddiwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Angelo Amrogini ar 14 Gorffennaf 1454 ym Montepulciano, tref fynyddig yng nghanolbarth Toscana dan reolaeth Gweriniaeth Fflorens. Llofruddiwyd ei dad ym Mai 1464, pan oedd Angelo yn 9 oed, a gadawyd y teulu mewn tlodi.[1] Symudodd i Fflorens erbyn 1469 i astudio yn y brifysgol a mynychai ddarlithoedd gan nifer o brif ffigurau'r Dadeni yn Fflorens, gan gynnwys Johannes Argyropoulos, Cristoforo Landino, a Marsilio Ficino. Wrth ei efrydiau cafodd feistrolaeth aruthrol ar yr iaith Roeg, a datblygodd ei arddull Lladin nodedig a'i ymrwymiad at neo-Platoniaeth.[2]

Barddoniaeth

golygu

Yn ei arddegau, derbyniodd Poliziano glod am drosi llyfrau II–V yr Iliad gan Homeros yn chwebannau Lladin (1470–75). Yn y cyfnod o 1473 i 1478 fe gynhyrchai lu o benillion yn yr ieithoedd Ladin a Groeg, ar ffurfiau'r epigram, yr alargerdd, a'r bryddest, a ystyrir yn esiamplau gwych o farddoniaeth ddyneiddiol y Dadeni. Ymhlith ei gerddi cynnar mae'r marwnadau In violas ac In Lalagen, y bryddest In puellam suam, a'r gerdd ryfedd Sylvia in scabiem (1475) sydd yn disgrifio symptomau'r clefyd crafu.

Daeth dan nawdd Lorenzo de' Medici, Arglwydd Fflorens, wedi iddo gyflwyno ei drosiad Lladin o ddau lyfr cyntaf yr Iliad, ym 1473, i Lorenzo. Cafodd ei wahodd i fyw ym mhalas y Medici ac yno manteisiodd ar gyfoeth y llyfrgell deuluol. Penodwyd Poliziano ym 1475 yn ysgrifennydd preifat i Lorenzo ac yn diwtor i'w fab hynaf Piero. Cafodd hefyd ei ordeinio'n offeiriad a derbyniodd ddwy fywoliaeth eglwysig oddi ar Lorenzo,[2] gan gynnwys prioriaeth San Paolo ym 1477.[1]

Ei gampwaith yn y cyfnod hwn oedd y gerdd Eidaleg o'r enw Stanze cominciate per la giostra del Magnifico Giuliano de' Medici (1475–78) a gyfansoddwyd ganddo i ddathlu buddugoliaeth Giuliano, brawd Lorenzo, mewn ymwaniad. Dyma waith sydd yn nodi trobwynt mewn barddoniaeth Eidaleg am iddi gyfuno iaith y werin â thechnegau llenyddiaeth glasurol, megis yr arwrgerdd a'r fawlgan Ladin, i gynhyrchu cerdd gywrain ar fesur yr ottava rima, sef penillion o wyth llinell unarddecsill. Fe'i ystyrir yn waith anorffenedig oherwydd marwolaeth ei destun yn ddyn ifanc o ganlyniad i gynllwyn y Pazzi yn erbyn y Medici ar Sul y Pasg 1478. Yn sgil y cyrch hwnnw yn Eglwys Gadeiriol Fflorens a welodd llofruddiaeth Giuliano ac anaf i Lorenzo—hyn oll o flaen llygaid Poliziano—ysgrifennodd adroddiad dramatig o'r helynt yn yr iaith Ladin, Pactianae coniurationis commentarium (1478), ar batrwm hanes Sallustius o ail gynllwyn Lucius Sergius Catilina.[2] Yn y cyfnod hwn, priodolir hefyd i Poliziano gyflawni'r llythyr yn trafod hanes barddoniaeth yn iaith y werin sydd yn cyflwyno'r Raccolta Aragonese, casgliad o gerddi Toscana a anfonwyd gan Lorenzo i Federico d'Aragona tua 1477.[1]

Ym Mai 1479 cafodd Poliziano ei fwrw allan o dŷ'r Medici yn sgil ffrae gydag Clarice Orsini, gwraig Lorenzo. Yn Rhagfyr y flwyddyn honno, yn hytrach na mynd gyda Lorenzo ar genhadaeth ddiplomyddol i Napoli, cychwynnodd Poliziano ar ei deithiau ar draws gogledd yr Eidal, ac ymwelodd â Gweriniaeth Fenis, Verona, a Mantova.[1] Yn Fenis cyfarfu â'r dyneiddiwr Emolao Barbaro.[2] Adeg Carnifal ym 1480, daeth dan nawdd y Cardinal Francesco Gonzaga, aelod o deulu uchaf Ardalyddiaeth Mantova. Ar gyfer achlysur llys y Gonzaga cyfansoddodd Poliziano y gerdd ddramataidd gyntaf yn yr iaith Eidaleg, Orfeo (1480), ar sail chwedl hynafol Orffews ac Eurydice a delfryd ddyneiddiol prydferthwch. Tra ym Mantova, ysgrifennodd Poliziano sawl gwaith at ei hen feistr, Lorenzo de' Medici, yn erfyn arno am ei dderbyn yn ôl i'w wasanaeth, ac o'r diwedd yn Awst 1480 cafodd ganiatâd i ddychwelyd i Weriniaeth Fflorens ac i diwtora Piero unwaith eto. Serch hynny, ni châi ei wahodd yn ôl i balas y Medici ac aeth Poliziano i fyw ar gyrion y ddinas.[1]

Ysgolheictod

golygu

Yn Nhachwedd 1480, ar gais Lorenzo, penodwyd Poliziano yn athro rhethreg a barddoneg ym Mhrifysgol Fflorens. Darlithiodd ar amryw feirdd a rhyddieithwyr, gan gynnwys Quintilian, Statius, ac Ofydd, a'r gwaith Rhetorica ad Herennium a briodolir ar gam i Cicero.[2] Rhoes bedair darlith agoriadol ar fydr, a elwir ar y cyd yn Sylvae: "Manto" (1482) am farddoniaeth Fyrsil, "Rusticus" (1483) am fugeilgerddi Hesiod a Fyrsil, "Ambra" (1485) ar bwnc Homeros, a "Nutricia" (1486) sydd yn trafod y gwahanol fathau o lenyddiaeth Roeg a Lladin.[1] Yn y cyfnod hwn cyfieithodd sawl gwaith gan awduron Groeg i'r Lladin a'r Eidaleg, yn eu plith yr athronydd Stoicaidd Epictetus a'r hanesydd Herodianus,[2] a chyfansoddodd gasgliad o ffraethebion Eidaleg o'r enw Detti piacevoli (1477–79), rhagor o epigramau Groeg, a sawl esiampl o farddoniaeth boblogaidd yn iaith y werin ar ffurfiau'r canzoni a ballo a'r rispetti. Cyflawnodd hefyd ysgrifau yn Lladin yn trafod problemau cyffredin wrth lenydda, megis arddull.[1]

Aeth Poliziano ar genhadaeth ddiplomyddol i'r Pab Innocentius VIII ym 1488, a theithiodd i Bologna, Ferrara, Padova, a Fenis ym 1491 i olrhain llawysgrifau ar gyfer llyfrgell y Medici.[1]

Ym 1489 cyhoeddodd ei gampwaith, y Miscellaneorum centuria prima, casgliad o draethodau am destunau ac awduron yr Henfyd a ystyrir yn gam pwysig yn hanes ieitheg a beirniadaeth destunol y clasuron. Yn y gwaith hwnnw, cyflwynodd Poliziano safonau newydd o ddogfennu a dyfynnu ffynonellau llawysgrifau'r clasuron, system a gâi ddylanwad mawr ar ysgolheictod diweddarach.

Diwedd ei oes

golygu

Newidiodd ei ffortiwn yn sgil marwolaeth Lorenzo de' Medici ym 1492, a roddai derfyn ar sicrwydd ei fywyd ysgolheigaidd, tawel. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn gweithio ar ail gyfrol o'r Miscellanea ac yn ymateb i'r ymosodiadau ar y gyfrol gyntaf, rhai ohonynt a ysgogwyd gan elyniaeth yn erbyn ei berthynas â'r Medici. Yn ystod ei fisoedd olaf, câi ei swyno gan y pregethwr Dominicaidd Girolamo Savonarola, a fyddai'n cipio grym yn Fflorens yn Nhachwedd 1494. Bu farw Poliziano cyn hynny, ar 24 Medi 1494 yn 40 oed, ychydig o wythnosau cyn marwolaeth ei gyfaill Giovanni Pico della Mirandola, un arall o gylchoedd deallusol y Medici.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Poliziano. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 359–60.