Claire Summers

actores

Mae Claire Summers (ganwyd 1974)[1] yn gyflwynydd teledu ar BBC Cymru.

Claire Summers
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd, ond tyfodd i fyny yn y Bontfaen, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Howell's, Llandaf. Enillodd radd BA ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ôl-radd mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.[2]

Gweithiodd Summers i deledu Channel One ym Mryste, gan ohebu, ffilmio, golygu a chyflwyno rhaglenni.  Ymunodd Summers gyda BBC Cymru yn 2000.  Gan mai Summers a Jason Mohammad oedd yr aelodau ieuengaf o dim BBC Wales Today, gofynnwyd iddynt yn aml i ymgymryd ag adroddiadau yn seiliedig ar weithgareddau - megis yn 2005, pryd y bu'n rhaid i Summers arwain un o'r Gwartheg Duon Cymreig o'r enw Ceridwen yn Sioe Frenhinol Cymru.[3][4]  Daeth Summers yn brif gyflwynydd chwaraeon i Wales Today ar yr 8fed o Fedi 2008.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Claire Summers. WalesOnline (22 Hydref 2003). (Saesneg)
  2. "Welsh Stars: Claire Summers". Cyrchwyd 28 Ionawr 2016. (Saesneg)
  3. "BBC - Mid Wales Royal Welsh - Royal Welsh Show TV Coverage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-19. Cyrchwyd 2017-08-02.
  4. BBC NEWS | Wales | Claire and Ceridwen's big day at Royal Welsh