Clwb C3
Clwb Cymdeithasu Cymraeg yw Clwb C3 (C Ciwb).
Gwreiddiau'r Clwb
golyguCyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cafodd Mentrau Iaith y gogledd ddwyrain nawdd gan Fwrdd yr Iaith a CYD i gynnal gweithgareddau cymdeithasol i ddod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd. Ar ôl misoedd o gymdeithasu o Dachwedd 2006 ymlaen, daeth yr arian i ben ddiwedd mis Mawrth. Teimlwyd y dylai'r cynllun barhau, ac ar ôl trafodaethau rhwng tiwtoriaid Prifysgol Bangor a dysgwyr o ddosbarthiadau Llafar a Llên, penderfynwyd sefydlu cymdeithas barhaol i helpu cyn-ddysgwyr a dysgwyr rhugl ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol efo Cymry Cymraeg ac felly dod yn rhan o’r bywyd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.[1] Lansiwyd y Clwb ar ôl cyfarfod ym Maes D ar 1af Awst 2007.
Y syniad gwreiddiol oedd gwahodd pawb oedd yn siarad Cymraeg o lefel Uwch parhad i fyny i ymuno â’r grŵp. Penderfynwyd codi tâl aelodaeth o £2 y flwyddyn er mwyn cyfiawnhau "cofrestru" pawb (i ni gael defnyddio gostyngiad hael Clwyd Theatr Cymru ar bris mynediad dramâu Cymraeg i aelodau dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion).
Gofynnwyd i bob cymdeithas leol groesi i'r clwb er mwyn galluogi aelodau'r clwb i ddod yn rhan o gymdeithas Gymraeg yr Wyddgrug. Ers ei sefydliad, mae aelodau'r clwb wedi mwynhau teithiau cerdded, dramau yn Theatr Cymru – yn aml yn cynnwys sgwrs efo actorion neu gynhyrchydd – nosweithiau tapas, ymarfer côr, dawns gwerin efo Dawnswyr Delyn, nosweithiau cerddorol, nosweithiau blasu win a thaith i wylio ar dîm Bêl-droed Wrecsam yng Ngwmni Dai Davies, cyn golwr Wrecsam a Chymru ymysg digwyddiadau eraill.[2]
Ar ddiwedd mis Ionawr bob blwyddyn mae aelodau'r clwb yn mynd ar wibdaith i Ganolfan y Mileniwm sydd yn gynnwys ymweliad a llefydd eraill, megis yr Amgueddfa Werin Cymru a Stadiwm y Mileniwm.
Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, estynnwyd aelodaeth i bawb o lefel Pellach Parhad ymlaen. Ond roedd hi'n hanfodol bod y nosweithiau i gyd yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng Cymraeg naturiol gan mai pwrpas y clwb yw rhoi mynediad i’r dysgwyr rhugl i’r gymdeithas Gymraeg. Roedd traean o’r 120 aelod yn Gymry o’r crud, traean yn gyn-ddysgwyr rhugl a thraean mewn dosbarth.
Gŵyl Daniel Owen
golyguTarddodd Gŵyl Daniel Owen o C3, arholiad Defnyddio’r Gymraeg Uwch a dosbarth Meistroli Prifysgol Bangor yr Wyddgrug. Darllenodd un aelod o’r dosbarth Enoc Huws fel llyfr arholiad Uwch 2010, ac fe berswadiodd aelod arall i’w gyfieithu i Saesneg er mwyn i’r di-Gymraeg yn yr ardal ddod i adnabod gwaith yr athrylith Daniel Owen. Erbyn Hydref 2010 roedd un ohonynt, John Mainwaring wedi penderfynu creu gŵyl ddwyieithog i ddathlu bywyd a gwaith Daniel Owen, a chynhelir yr ŵyl yn flynyddol ym mis Hydref. Yn ei thro, mae'r ŵyl wedi dod yn rhan o'r digwyddiadau Clwb C3.
Gwobr Ewropeaidd i Ieithoedd, 2010
golyguAeth 5 aelod o C3 i’r seremoni wobrwyo yn Stadiwm Emirates, Arsenal, i sôn am C3 ac i dderbyn gwobr Ewropeaidd gan yr asiantaeth CILT, sydd yn ymwneud â dysgu ieithoedd. Enillodd y clwb y wobr am gefnogi dysgu iaith i oedolion drwy ddefnyddio dulliau / gweithgareddau y tu allan i’r dosbarth.[3]
Mae perthynas wedi datblygu efo ardaloedd Wrecsam a Dinbych; mae aelodau'r clwb wedi mynychu digwyddiadau yn y Saith Seren ers agoriad y ganolfan yn 2012.
Mae gan y Clwb golofn misol ym Mhapur Fama[4] a rhestr ebost, i sicrhau bod gan aelodau gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau i ddod.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Erthygl ym Mhapur Fama, Ebrill 2010
- ↑ Gwefan NELLIP (Network of European Language Labelled Initiatives and Projects)
- ↑ "Gwefan CILT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-01. Cyrchwyd 2013-09-25.
- ↑ Papur Fama Ebrill 2008