Codlys hiciog

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Codlys hiciog
Calypogeia arguta
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Calypogeiaceae
Genws: Calypogeia
Rhywogaeth: C. arguta
Enw deuenwol
Calypogeia arguta

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys hiciog (enw gwyddonol: Calypogeia arguta; enw Saesneg: notched pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain, ar wahan i ddwyrain Lloegr a dwyrain yr Alban. Fe'i ceir ym mhob cwr o Gymru.

Disgrifiad golygu

Fel y rhywogaethau cyffredin eraill o Calypogeia, mae coesynnau'r Codlys hiciog wyrdd goleuach na'r rhan fwyaf o lysiau'r afu eraill. Maent hefyd yn fflat, sy'n elfen nodweddiadol o'r grwp. Ond maent yn feinach na'r rhelyw: 1-2.5 mm o led. Mae pob deilen tua 1.2 mm o hyd a 1 mm o led. Ei nodwedd unigryw yw'r pâr o ddannedd bach ar ben pob deilen.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Codlys hiciog gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.