Coeden deulu
Siart sy'n arddangos perthnasau teulu ar ffurf strwythr coeden yw coeden deulu.
Ffurfiau
golyguGall yr wybodaeth hel achau ei arddangos ar sawl ffurf, megis siart achau neu siart hynafiaid. Caiff coed teulu eu cyflwyno gan amlaf gyda'r genhedlaeth hynaf ar y top, a'r genhedlaeth mwyaf newydd ar y gwaelod. Bydd coeden ar ffurf siart hynafiaid yn debycach i goeden yn ei siap i gymharu â ffurfiau eraill. Mewn rhai siartiau, yn enwedig rhai sydd wedi cael eu cynhyrchu gan feddalwedd hel achau, bydd y siart yn cael ei chyflwyno ar ei hochr, gyda'r unigolyn ar y chwith a'r hynafiaid i'r ddebeing ohonynt. Bydd siart disgynyddion yn dadansoddi holl ddisgynyddion unigolyn, a bydd yn dangos yr unigolyn ar dop y siart, neu weithiau ar y chwith.
Gall coed teulu ddilyn nifer o themâu, megis dangos holl ddisgynyddion unigolyn, neu'r holl hynafiaid a wyddir amdanynt. Neu, gall ddangos holl aelodau teulu sydd â'r un cyfenw (h.y. y linach gwrywaidd fel rheol). Dull arall fyddai creu siart yn dangos perthynas deilydd swydd arbennig, megis Coeden deulu Brenhinoedd yr Almaen, sy'n dibynnu ar briodas llinachyddol i lynu'r teulu a'r swydd.
Hanes
golyguMae'n debyg yr ymddangosodd y ddelwedd o goeden ar gyfer arddangos perthnasau teulu gyda chelfyddyd canoloesol Coeden Jesse, a ddefnyddwyd i ddadansoddi Achyddiaeth Christ yn nhermau proffwydoliaeth Isaiah (Isaiah 11:1). Mae'n debyg maei'r goeden gyntaf i ddangos teulu cyfan yn hyrach nag ond y linach wrywaidd oedd Genealogia deorum gentilium gan Boccaccio, sef llinach o dduwiau sy'n dyddio o 1360.
Siart fan
golyguUn dechneg o arddangos coeden deulu yw siart fan, sef siart siap hanner cylch gyda cylchoedd cydganol. Bydd y prif berson yn ymddangos yn y cylch yng nghanol y siart, gyda'r rhieni yn yr ailch gyclh sydd wedi ei rannu'n ddau. Caiff y trydydd cylch ei rannu'n bedwar ar gyfer y neiniau a'r teidiau, ayb. Mae'r siart fel rheol yn arddangos y cyn-deidiau mamol a'r tadol.[1]
Coeden deulu ar Wicipedia
golyguLlinach Gymreig Barack Hussein Obama. Cyfeiriadaeth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Barack Hussein OBAMA 1961 - Honolulu, Hawaii | Michelle La Vaughn ROBINSON 1964 - Chicago | ||||||||||||||||||||||||||||||
Barack Hussein OBAMA 1936 - 1982 Alego, Cenia | (Stanley) Ann DUNHAM 1942 - 1995 Wichita, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Stanley Armour DUNHAM 1918 - 1992 Wichita, Kansas | Madelyn Lee PAYNE 1922- 1908 Peru, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Rolla Charles PAYNE 1892 - 1968 Olathe, Kansas | Leona MCCURRY 1897 - 1968 Peru, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Charles Thomas PAYNE 1861 - 1940 Missouri | Della WOLFLEY 1863 - 1906 Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
Robert WOLFLEY 1834 - 1895 Ohio | Rachel ABBOTT 1835 - 1911 Licking, Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
George WOLFLEY 1807 - 1879 Dauphin, Pennsylvania | Nancy PERRY 1812 - 1894 Radnor, Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
Robert PERRY 1786 - 1852 Ynys Môn, Cymru | Sarah Ellen HOSKINS 1788 - 1859 Virginia | ||||||||||||||||||||||||||||||
Henry PERRY 1759 - Ynys Môn, Cymru | Margaret - 1831 Ynys Môn, Cymru | Richard HOSKINS 1761 - 1834 Ynys Môn, Cymru | Jane 1762 - 1835 ? | ||||||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Fan Genealogy Chart, Melick Genealogists
Dolenni allanol
golygu- PDF o goeden deulu Tywysogion Gwynedd Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback ar wefan princesofgwynedd.com Archifwyd 2011-12-05 yn y Peiriant Wayback