Mae Hufen Gwyddelig Baileys yn wirodlyn sy'n seiliedig ar wisgi Gwyddelig a hufen.[1] Mae'n cael ei gynhyrchu gan gwmni Diageo yn Nangor Road, Dulyn, Iwerddon ac yn Mallusk, Gogledd Iwerddon sy'n eiddo i gwmni Gilbeys of Ireland, mae'r nod masnach yn eiddo i Diageo. Mae ganddo gynnwys alcohol datganedig o 17% yn ôl cyfaint.

Baileys
Enghraifft o'r canlynolnod masnach, alcohol brand Edit this on Wikidata
MathGwirodlyn, Hufen Gwyddelig Edit this on Wikidata
CrëwrTom Jago Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWisgi, llaeth Edit this on Wikidata
GwneuthurwrDiageo Edit this on Wikidata
DosbarthyddDiageo Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.baileys.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baileys
Math
nod masnach
Sefydlwyd1974
Gwefanhttp://www.baileys.com Edit this on Wikidata

Hanes a tharddiad

golygu

Crëwyd Hufen Gwyddelig Baileys gan Tom Jago o gwmni Gilbeys of Ireland, adran o gwmni Distillers a Vintners International,[2] gan ei fod yn chwilio am rywbeth i'w gyflwyno i'r farchnad ryngwladol. Dechreuodd y broses o ddod o hyd i gynnyrch ym 1971 ac fe'i cyflwynwyd ym 1974 fel yr Hufen Gwyddelig cyntaf i'w gwerthu'n fasnachol. Enwyd y ddiod ar ôl Gwesty Bailey's yn Llundain a chafwyd caniatâd gan berchenogion y gwesty i ddefnyddio'r enw heb yr atalnod.[3]

Cynhyrchu

golygu

Mae gwisgi Gwyddelig a hufen o wahanol ddistyllwyr yn cael eu homogenu i ffurfio emylsiwn gyda chymorth emylsydd sy'n cynnwys olew llysiau wedi'i mireinio. Mae'r broses yn atal gwahanu'r alcohol a'r hufen yn ystod storio.[4] Mae Baileys yn cynnwys rysáit dethol coco perchnogol sy'n rhoi cymeriad a rhinflas siocled i'r ddiod. Ni wyddys faint o gynhwysion eraill sydd ond maent yn cynnwys perlysiau a siwgr.

Daw'r hufen a ddefnyddir yn y ddiod o Glanbia, cwmni llaeth Gwyddelig sydd yn cynhyrchu llaeth powdr a hufen ffres yn ei ffatri yn Swydd Cavana. Dyma'r prif gyflenwr hufen i Baileys ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Ar adegau prysur y flwyddyn, bydd Glanbia hefyd yn cyflenwi hufen o'i ffatri yn Ballyragget Swydd Kilkenny.

Storio a bywyd silff

golygu

Yn ôl y gwneuthurwr, nid oes angen cynnwys cadwolion yn rysáit Bailys gan fod y cynnwys alcohol yn cadw'r hufen yn ffres.

Mae'r gwneuthurwr yn honni bod gan Baileys bywyd silff o 24 mis ac mae'n gwarantu ei flas am ddwy flynedd o'r diwrnod y cafodd ei gynhyrchu, hyd yn oed mewn potel sydd wedi ei hagor cyn belled â'i bod wedi ei gadw mewn oergell i ffwrdd o olau haul uniongyrchol ar dymheredd rhwng 0 a 25 °C (32 a 77 °F).[5]

Gwerthoedd maeth

golygu

Mae Diageo yn darparu gwybodaeth faeth canlynol ar gyfer Baileys.[6] Gwerthoedd fesul 100 ml:

Braster 14 g

Carbohydrad 24 g

Protein 3 g

Ynni 1345 kJ (327 kcal)

Blasau amgen

golygu

Yn 2003, lansiodd Bailey & Co. Baileys Glide, wedi'i anelu at y farchnad alcopop. Rhoddwyd gorau i'w cynhyrchu yn 2006.[7]

Yn 2005, lansiodd Baileys amrywiadau Siocled Mintys a Crème Caramel. Fe'i rhyddhawyd yn wreiddiol ym meysydd awyr y Deyrnas Unedig ac yna fe'i rhyddhawyd ar gyfer marchnadoedd mawr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Awstralia a Chanada yn 2006. Wedi llwyddiant y blasau amgen blaenorol cynhyrchwyd blasau newydd eto yn 2008, sef un blas coffi ac yn 2010 [8] cynhyrchwyd un a blas cnau cyll. Treialodd y cwmni fersiwn premiwm newydd, Baileys Gold, mewn sawl maes awyr Ewropeaidd yn 2009. Cafodd Baileys Gold hefyd ei farchnata'n gryf ar gyfer cwsmeriaid o Japan. Ychwanegiadau diweddaraf i deulu blas Baileys yw Biscotti, a lansiwyd yn 2011, a chynnyrch premiwm Baileys Chocolat Luxe, a gyfunodd siocled Gwlad Belg gyda Baileys, yn 2013. Rhyddhaodd y cwmni amrywiaeth fanila a sinamon yn yr Unol Daleithiau yn 2013 gyda blasau pellach Sbeis Pwmpen, Espresso a Charamel Hallt y flwyddyn ganlynol. Yn 2017, crewyd Baileys Almande sydd yn addas at gwsmeriaid fegan.[9] Yn 2018 daeth Baileys blas Mefus a Hufen i'r farchnad.

Cyfeiriadau

golygu