Andy Schleck
Seiclwr proffesiynol o Lwcsembwrg yw Andy Schleck (ganwyd 10 Mehefin 1985). Mae wedi reidio dros Team Saxo Bank ers 2005, ac yn cystadlu yn nghyfres yr UCI ProTour. Mae'n frawd iau i Fränk Schleck, sydd hefyd ar Team Saxo Bank. Cystadlodd eu tad, Johnny Schleck, yn y Tour de France a'r Vuelta a España rhwng 1965 ac 1974.
Andy Schleck | |
---|---|
Ganwyd | Andy Raymond Schleck 10 Mehefin 1985 Dinas Lwcsembwrg |
Dinasyddiaeth | Lwcsembwrg |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 186 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Tad | Johny Schleck |
Gwefan | http://andyschleckofficial.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tinkoff-Saxo, Trek-Segafredo |
Gwlad chwaraeon | Lwcsembwrg |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Schleck yn ninas Lwcsembwrg, yn fab i Gaby a Johnny Schleck, cyn-seiclwr proffesiynol a oedd wedi cynrychioli timau megis Pelforth a Bic. Roedd tad Johnny, Gustav Schleck, hefyd wedi cystadlu mewn rasys seiclo yn ystod yr 1930au.[1]
Gyrfa amatur
golyguYmunodd Schleck glwb seiclo VC Roubaix yn 2004, gan ddal sylw Cyrille Guimard, cyfarwyddwr chwaraeon a ddaeth yn adnabyddus fel directeur sportif sawl enillydd y Tour de France, gan gynnwys Bernard Hinault, Laurent Fignon, Lucien Van Impe a Greg LeMond. Disgrifiodd Guimard Schleck fel un o'r reidwyr mwyaf dawnus oedd wedi ei weld a cymharodd ef gyda Laurent Fignon.[1][2]
Enillodd Schleck ras gymalau Flèche du Sud yn 2004, pan oedd ond yn 18 oed ac dal yn reidiwr amatur. Roedd tîm cenedlaethol Denmarc hefyd yn cystadlu yn y ras honno, a lledaenodd y newyddion am ei gampau i reolwr Danaidd Team CSC, Bjarne Riis. Holodd Riis frawd Andy, Fränk, a oedd eisoes ar dîm CSC, ynglŷn a'i frawd ac yn fuan wedyn, ar 1 Medi 2004 dechreuodd Andy reidio fel stagiaire (reidiwr dan hyfforddiant) dros Team CSC. Sicrhaodd gytundeb proffesiynol gyda'r tîm gan gystadlu yn ei ras ProTour cyntaf, y Volta a Catalunya, pan oedd yn 19 oed yn 2005.
Gyrfa broffesiynol
golyguEnillodd Andy Bencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser, tra enillodd ei frawd Fränk y Bencampwriaeth Ras Ffordd. Cafodd Schleck ddamwain yn y GP Cholet yn 2006, a cymerodd saib o wyth wythnos cyn dychwelyd i rasio yn y Volta a Catalunya ym mis Mai. Ym mis Gorffennaf, cwpl o ddyddiau wedi i'w frawd ennill cymal Alpe d'Huez y Tour de France, enillodd Andy y prif gymal mynyddig yn y Sachsen Tour, yn ogystal a'r cymal terfynol, gan orffen yn 23ydd yn y dosbarthiad cyffredinol.
Enillodd y dosbarthiad reidiwr ifanc yn Giro d'Italia 2007, ac yn ail tu ôl i Danilo Di Luca yn y dosbarthiad cyffredinol. Gorffennodd yn bedwerydd yn y Giro di Lombardia wedi iddo roi cymorth i'w frawd Fränk, a oedd wedi cael damwain gyda 6 km i fynd.[3]
Parhaodd llwyddiant Schleck yn 2008, pan enillodd dosbarthiad reidiwr ifanc y Tour De France,[4] gan guro Roman Kreuziger, a helpu Team CSC i ennill y dosbarthiad tîm a chefnogi buddugoliaeth Carlos Sastre.
Enillodd ei fuddugoliaeth pwysicaf hyd yn hyn yn Ebrill 2009, gan ennill ras Liege-Bastogne-Liege mewn gwyntoedd cryf, ef oedd enillydd cyntaf y ras i ddod o Lwcsembwrg ers Marcel Ernzer ym 1954.[4] Cwpl o ddyddiau ynghynt roedd wedi dod yn ail yn ras glasurol La Flèche Wallonne.
Gorffennodd Andy yn ail yn Tour de France 2009, tu ôl i Alberto Contador ac o flaen Lance Armstrong. Daeth hefyd yn drydydd yng nghymal 17, enillwyd y cymal hwnnw gan ei frawd Fränk, gyda Alberto Contador yn ail. Cipiodd y fuddugoliaeth yn nosbarthiad reidiwr ifanc y Tour de France am yr ail flwyddyn yn olynol.
Canlyniadau
golygu- 2004
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Lwcsembwrg - Odan 23
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Lwcsembwrg - Odan 23
- 1af Flèche du Sud
- 2005
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Lwcsembwrg
- 2006
- 1af Sachsen Tour
- 1af Stage 3
- 1af Stage 5
- 1af Dosbarthiad y mynyddoedd, Tour of Britain
- 2007
- 8fed Tour de Romandie
- 2il Giro d'Italia
- 4ydd Giro di Lombardia
- 2008
- 4ydd Liege-Bastogne-Liege
- 6ed Overall, Tour de Suisse
- 12fed Overall, Tour de France
- 5ed Ras Ffordd Dynion, Gemau Olympaidd
- 2009
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Lwcsembwrg
- 1af Liege-Bastogne-Liege
- 1af Stage 2, Tour de Luxembourg
- 2il Overall, Tour de France
- 2il La Flèche Wallonne
- 8fed Monte Paschi Eroica
- 10fed Amstel Gold Race
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Giro d'Italia: The rise of another Schleck. cyclingnews.com (2007-06-04).
- ↑ Schleck Brothers Confirmed for Tour of Ireland.
- ↑ 101st Giro di Lombardia - ProTour. Cyclingnews.com (20 Hydref 2007).
- ↑ 4.0 4.1 Schleck impresses with Liege win. BBC.
Dolenni allanol
golygu- Proffil Team Saxo Bank Archifwyd 2009-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar wefan cyclingwebsite.net Archifwyd 2008-10-19 yn y Peiriant Wayback
1975: Francesco Moser | 1976: Enrique Martinez-Heredia | 1977: Dietrich Thurau | 1978: Henk Lubberding | 1979: Jean-Rene Bernaudeau | 1980: Johan Van der Velde | 1981: Peter Winnen | 1982: Phil Anderson | 1983: Laurent Fignon | 1984: Greg LeMond | 1985: Fabio Parra | 1986: Andrew Hampsten | 1987: Raúl Alcalá | 1988: Erik Breukink | 1989: Fabrice Philipot | 1990: Gilles Delion | 1991: Alvaro Enrique Mejia | 1992: Eddy Bouwmans | 1993: Antonio Martín | 1994–1995: Marco Pantani | 1996–1998: Jan Ullrich | 1999: Benoît Salmon | 2000: Francisco Mancebo | 2001: Óscar Sevilla | 2002: Ivan Basso | 2003: Denis Menchov | 2004: Vladimir Karpets | 2005: Yaroslav Popovych | 2006: Damiano Cunego | 2007: Alberto Contador | 2008, 2009, 2010: Andy Schleck | 2011: Pierre Rolland |