Gyrrwr Albanaidd ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd oedd Colin Steele McCrae MBE (5 Awst 196815 Medi 2007), mab Jimmy McRae, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain pum gwaith, a brawd hyn y gyrrwr proffesiynol Alister McRae. Enillodd Bencampwriaeth Rali'r Byd yn 1995, a bu'n ail yn 1996, 1997 a 2001, a thrydydd yn 1998.

Colin McRae
Ganwyd5 Awst 1968 Edit this on Wikidata
Lanark Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Lanark Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lanark Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethco-driver, gyrrwr ceir cyflym, gyrrwr rali Edit this on Wikidata
TadJimmy McRae Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Segrave Trophy Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Helpodd Colin i Subaru ennill Pencampwriaeth y Gwneuthurwyr yn 1995, 1996 a 1997, a Citroën yn 2003. Cafodd MBE gan y frenhines, Elisabeth II, yn 1996.

Bu farw McRae mewn damwain pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear wrth lanio ar dir ei gartref yn Lanark.

Gyrfa golygu

 
Enillodd McRae Bencampwriaeth Rali'r Byd 1995 yn y Subaru Impreza 555 yma.

Dechreuodd ei yrfa rali yn 1986, gan yrru Talbot Sunbeam. Roedd yn aml yn cystadlu yng nghystadlaethau Pencampwriaeth Rali'r Alban, a dechreuodd greu enw iw hun am ei gyflymder a'i steil gyffrous o yrru. Cymharwyd ei steil yrru'n aml gyda Ari Vatanen, y gyrrwr rali o'r Ffindir a oedd McRae wastad wedi ei edmygu. Symudodd ymlaen yn fuan i yrru Vauxhall Nova, ac ynaa Ford Sierra XR 4x4. Ei dro cyntaf i gystadlu ym Mhencapwriaeth Ralio'r Byd oedd yn Rali Sweden 1987 tu ôl i llyw ei Nova, ac unwaith eto yn 1989, gyrrodd Sierra a gorffenodd yn y 15fed safle. Yn ddiweddarach yn 1989, gorffenodd yn y 5ed safle yn Rali Seland Newydd mewn Sierra Cosworth â gyrriad olwyn cefn. Ymunodd â dîm Prodrive Subaru yn 1991 ar gyfer Pencampwriaeth Rali Prydain. Bu'n bencampwr Prydeinig ddwywaith, yn 1991 a 1992, graddio'dd yn fuan i statws works ar gyfer y tîm ffactri.

Enillodd ei Bencampwriaeth Rali's Byd cyntaf yn 1993, yn y Subaru Legacy a adeiladwyd gan Prodrive yn Rali Seland Newydd, cyn helpu Subaru i ennill tair teitl gwneuthurwyr golynol, gan gynnwys Pencampwriaeth y gyrrwr yn 1995, a enillodd ar ôl Rali Prydain Fawr, gan i'w gyd-aelod tîm, a oedd yn bencampwr y Byd ddwywaith, Carlos Sainz yn gorffen yn ail. Yn ddiweddarach bu iddo ennill Ras y Pencampwyr yn 1998.

Yn Awst 2007, datganodd McRae ei fod yn chwilio am dîm ar gyfer cystadlu ym Mhencapwriaeth Rali'r Byd yn 2008, gan ategu os na ddigwyddai hyn y flwyddyn nesaf, ni fyddai'n dychwelyd i gystadlu gan yr oedd ond yn bosib fod allan ohoni ar lefel mor uchel am hyn a hyn. (Saesneg: "if it doesn't happen next year, then I won't (return) because you can only be out of something at that level for so long.")[1]

 
McRae yn gyrru Škoda Fabia yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd cymal arbennig o Rali Prydain 2005.

Buddugoliaethau ym Mhencampwriaethau Rali'r Byd golygu

 #  Cystadleuaeth Tymor Cyd-yrwr Car
1   23ydd Rali Rothmans, Seland Newydd 1993 Derek Ringer Subaru Legacy RS
2   24ydd Rali Rothmans, Seland Newydd 1994 Derek Ringer Subaru Impreza 555
3   50fed Rali 'Network Q' 1994 Derek Ringer Subaru Impreza 555
4   25ed Rali Rothmans, Seland Newydd 1995 Derek Ringer Subaru Impreza 555
5   51fed Rali 'Network Q' 1995 Derek Ringer Subaru Impreza 555
6   43ydd Rali Acropolis, Gwlad Groeg 1996 Derek Ringer Subaru Impreza 555
7   38fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia 1996 Derek Ringer Subaru Impreza 555
8   32ydd 'Rallye Catalunya-Costa Brava' (Rallye de España) 1996 Derek Ringer Subaru Impreza 555
9   45ed Rali Safari Kenya 1997 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
10   41af Tour de Corse - Rallye de France 1997 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
11   39fed Rallye Sanremo - Rallye d'Italia 1997 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
12   10fed Rali API Awstralia 1997 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
13   53ydd Rali 'Network Q' 1997 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
14   31af TAP Rallye de Portugal 1998 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
15   42ain Tour de Corse - Rallye de France 1998 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
16   45ed Rali Acropolis, Gwlad Groeg 1998 Nicky Grist Subaru Impreza WRC
17   47fed Rali Safari Kenya 1999 Nicky Grist Ford Focus WRC
18   32ain TAP Rallye de Portugal 1999 Nicky Grist Ford Focus WRC
19   36ain Rallye Catalunya-Costa Brava (Rallye de España) 2000 Nicky Grist Ford Focus WRC
20   47fed Rali Acropolis, Gwlad Groeg 2000 Nicky Grist Ford Focus WRC
21   21ain Rali Argentina 2001 Nicky Grist Ford Focus WRC
22   29fed Rali Cyprus 2001 Nicky Grist Ford Focus WRC
23   48fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg 2001 Nicky Grist Ford Focus WRC
24   49fed Rali Rali Acropolis, Gwlad Groeg 2002 Nicky Grist Ford Focus WRC
25   50fed Rali 'Inmarsat Safari', Kenya 2002 Nicky Grist Ford Focus WRC

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.autosport.com/news/report.php/id/61320 McRae aiming to return to WRC in '08 Autosport

Dolenni allanol golygu