Poggio Bracciolini
Llenor Eidalaidd yn yr iaith Ladin, ysgolhaig clasurol, ceinlythrennwr, a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Gian Francesco Poggio Bracciolini (11 Chwefror 1380 – 30 Hydref 1459) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif Lladin glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop.
Poggio Bracciolini | |
---|---|
Ganwyd | Giovanni Francesco Poggio Bracciolini 11 Chwefror 1380 Terranuova Bracciolini |
Bu farw | 30 Hydref 1459 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens, Taleithiau'r Babaeth, yr Eidal |
Galwedigaeth | hanesydd, ysgolhaig clasurol, athronydd, cyfieithydd, llenor |
Adnabyddus am | Oratio in laudem legum, Facetiae, Cyropedia, De varietate Fortunae, Historiae Florentini populi, Historia disceptativa convivialis, De avaritia, Dialogus an seni sit uxor ducenda, De infelicitate principum, De vera nobilitate, Libellus contra hypocritas, De miseria humanae conditionis, Letters |
Plant | Iacopo Bracciolini |
Bywyd cynnar
golyguGaned Gian Francesco Poggio Bracciolini ar 11 Chwefror 1380 ym mhentref Terranuova, Gweriniaeth Fflorens, a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. Aeth i ddinas Fflorens a dysgodd yr ieithoedd Lladin a Groeg yn ogystal â gwaith y notari a'r sgrifellwr. Gweithiodd yn Fflorens yn ystod ei ieuenctid yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y teipiau Rhufeinig.
Chwilota a llenydda
golyguYm 1403 symudodd i Rufain a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Pab Boniffas IX (t. 1389–1404). Cyd-deithiodd Bracciolini ar draws Ewrop yn un o'r osgordd babaidd, er enghraifft i Gyngor Eglwysig Konstanz (1414–18), ac ymwelodd â llyfrgelloedd y mynachlogydd a'r eglwysi a fu'n meddu ar gannoedd o lawysgrifau hynafol unigryw. Yn Abaty Cluny ym 1415 daeth o hyd i ddau araith gan Cicero, ac ym 1416 fe ganfu'r testun cyflawn cyntaf o Institutio oratoria gan Quintilian, tri o lyfrau Argonautica a rhan o un arall gan Valerius Flaccus, a sylwebaeth Asconius Pedianus ar areithiau Cicero, i gyd yn llyfrgell Abaty Sant Gall. Aeth ar sawl taith i Fulda a mynachlogydd eraill i chwilio am ragor o lawysgrifau, ac ym 1417 canfuwyd De significatu verborum gan Sextus Pompeius Festus, De rerum natura gan Lucretius, Astronomica gan Manilius, Punica gan Silius Italicus, Res gestae gan Ammianus Marcellinus, a'r llyfr coginio Apicius. Daeth o hyd i ragor o areithiau Cicero yn Langres ac yng Nghwlen.[1] Cyfrannodd darganfyddiadau Bracciolini o weithiau Cicero a Quintilian at ddealltwriaeth ysgolheigion Ewropeaidd yr oes o arddull Lladin, rhethreg glasurol, a chysyniadau o addysg.
Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn Lloegr, ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys De aquaeductibus gan Frontinus a Matheseos libri gan Firmicus Maternus. Ymhlith yr awduron Lladin eraill a ddaeth i'r amlwg yn y Dadeni o ganlyniad i ddarganfyddiadau Bracciolini mae Vitruvius, Petronius, a Plautus. Cyfieithodd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys Cyropaedia gan Xenophon, gweithiau hanes Diodorus Siculus, ac Onos gan Lucianus. Bu hefyd yn dipyn o archaeolegydd am iddo astudio pensaernïaeth yr Henfyd a chasglu arysgrifau a cherfluniaeth glasurol. Gweithiodd i Lys y Pab am hanner can mlynedd, ac erbyn diwedd ei yrfa fe'i cyflogwyd yn swydd yr ysgrifennydd apostolaidd.
O ran ei ysgrifeniadau gwreiddiol, llenor toreithiog ac amrywiol oedd Bracciolini. Enillodd enw fel rhethregwr huawdl am ei areithiau a'i folawdau, a derbyniodd glod hefyd am ei ymdriniaethau â phynciau moes a defod. Cymerir y rheiny yn aml ffurf yr ymgom foesol, sydd yn cyfuno dadleuaeth yr ysgrif â chymeriadaeth ac ymddiddan y dialog, er enghraifft De avaritia (1428–29), De nobilitate (1440), ac Historia tripartita disceptativa convivalis (1450). O bosib ei waith amlycaf ydy De varietate fortunae (1431–48), sydd yn dathlu gogoniant Rhufain hynafol ac yn gresynu at ei chwymp. Mae ambell un, megis De miseria humanae conditionis (1455), yn cyfleu pesimistiaeth deimladwy. Ysgrifennodd ddychanau a ffablau anweddus, a gesglid dan y teitl Facetiae (1438–52), yn gwatwar mynachod, clerigwyr, ac ysgolheigion eraill megis Francesco Filelfo, Guarino da Verona, a Lorenzo Valla, a chyhoeddodd ragor o ysgrifau polemig a sarhaus yn ymosod ar lygredd a rhagrith y glerigiaeth, a'r ymgom Contra hypocritas (1447–48) ar bwnc tebyg. Er i wrthglerigiaeth ac anlladrwydd y straeon a thraethodau hyn gythruddo, cawsant nifer o ddarllenwyr. Nodweddir ei waith gan fynegiant huawdl a bywiog o'r Lladin, a dengys ei feistrolaeth ar briod-ddulliau yr iaith yn ei ohebiaeth helaeth, a ystyrir yn esiamplau gwych o lythyron hyddysg y dyneiddwyr. Yn niwedd ei oes, bu gwrthdaro rhwng arddull hyblyg Bracciolini o Ladin ysgrifenedig a safonau clasurol y dyneiddwyr ieuangach, yn eu plith Lorenzo Valla, ei brif elyn llenyddol. Bu Ciceroniaeth ar ei hanterth erbyn canol y 15g, a dyrchafwyd arddull Quintilian gan ambell ysgolhaig, gan gynnwys Valla. Gwelir eironi yn y ffaith bod efelychwyr Cicero a Quintilian yn tynnu yn gryf ar ddarganfyddiadau Bracciolini o weithiau'r awduron hynny.
Diwedd ei oes
golyguYmddiswyddodd Bracciolini o Lys y Pab ym 1452 a dychwelodd i Fflorens. Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn teithio ar draws Ewrop yng ngwasanaeth y pab, un o feibion balchaf Fflorens ydoedd a fe'i gelwid yn "Poggius Florentinus" gan ei gyfoedion.[2] Wedi marwolaeth Carlo Aretino ym 1453, penodwyd Bracciolini yn Ganghellor Fflorens, a threuliodd ddiwedd ei oes yn llywodraethu'r weriniaeth ac yn ysgrifennu hanes y ddinas, ar ddelw'r hanesydd Rhufeinig Livius ac yn parhau â gwaith ei gyfaill Leonardo Bruni. Bu farw Poggio Bracciolini yn Fflorens ar 30 Hydref 1459 yn 79 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Gian Francesco Poggio Bracciolini. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2020.
- ↑ Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 44–45.