William Thomas (actor)
Actor o Gymro yw William Thomas (ganwyd tua 1947), adwaenid hefyd fel William Huw-Thomas, sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a chyfresi teledu.
William Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1947 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Bywgraffiad
golyguGanwyd a magwyd Thomas yng Nghlydach, Cwm Tawe. Mae Thomas yn briod a'r actores Mair Rowlands ac mae ganddynt ddau fab. Mae'r teulu yn byw ym Mhenarth.[1]
Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Sir Forgannwg cyn ennill lle yn Ysgol Ddrama y Guildhall yn Llundain. Yn 1971 aeth i weithio yn Theatr y Mermaid am naw mis, yn dirprwyo ar gyfer rhannau mewn sawl drama. Tra oedd yno, gweithiodd ar bantomeim gwyddoniaeth i blant, The Molecule Club. Yna aeth i actio mewn theatrau yn Coventry a Leicester lle weithiodd gyda pobl fel Simon Cadell a John Hurt.[2]
Gyrfa
golyguYmddangosodd gyntaf ar deledu yn 1974 a mae wedi perfformio mewn nifer fawr o raglenni Cymraeg a Saesneg ers hynny. Ar deledu Seisnig mae ei rhannau mwy adnabyddus yn cynnwys dwy bennod o Doctor Who, Only Fools and Horses a Midsomer Murders.
Mae'n fwyaf adnabyddus ar deledu Cymraeg fel un o gast craidd y gyfres gomedi o'r 1980au, Torri Gwynt. Roedd ganddo brif rannau yng nghyfresi drama Con Passionate, Y Pris ac Alys.
Yn 2011 ymddangosodd fel y cymeriad Geraint Cooper yn Torchwood: Miracle Day ar ôl chwarae'r cymeriad mewn rhan fach yn y gyfres yn 2008.[3]
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1974 | Antony and Cleopatra | Soldier | |
1981 | Grange Hill | Mr. Morgan | Pennod: #4.18 |
1981 | The Life and Times of David Lloyd George | William George | Pennod: Don't try, Do It - Footnotes of History |
1983-1988 | Torri Gwynt | Cymeriadau amrywiol | |
1984 | Night Beat News | Greg Phillips | |
1984 | The Magnificent Evans | Probert | Pennod: #1.1 - #1.6 |
1984 | The District Nurse | Gryp | Pennod: #2.1, #2.2 |
1987 | Knights of God | Will | Pennod: #1.1 |
1988 | Ballroom | Dick | |
1988 | Doctor Who | Martin | pennod: Remembrance of the Daleks |
1989 | Only Fools and Horses | Barman | Pennod: Yuppy Love |
1989 | After the War | Mr. Llewellyn | Cyfres deledu fer |
1990 | Screen One | Cyril | Pennod: Sticky Wickets |
1991 | We Are Seven | Matthew Thomas | Penodau: #1.2 - #1.6 & #2.2 - #2.7 |
1992 | Forever Green | Michael Powell | Pennod: #3.3 |
1996 | Trip Trap | Dr. Barclay | |
1997 | A Mind to Kill | Pub Guvnor | Pennod: Game Plan |
1998 | Satellite City | Vicar | Pennod: Chronicle of a Death Foretold |
1999 | Rhinoceros | Constable | |
2000 | Longitude | Arthur Mason | |
2000 | Cupid & Cate | Paul | |
2002 | Fun at the Funeral Parlour | Ivor Thomas | |
2002 | A Mind to Kill | John Beckwith | Pennod: The Little House in the Forest |
2003 | Grass | Eric | Penodau: #1.3 - #1.8 |
2005 | Con Passionate | Glyn | |
2004–2005 | Pobol y Cwm | Eric Miller | Penodau: To Tea Ysgol, OB Cafe |
2005 | Marigold | Milkman | |
2005 | Doctor Who | Mr. Cleaver | Pennod: Boom Town |
2006 | Belonging | William James | Penodau: #7.3, #7.4, #7.5 |
2007 | Midsomer Murders | Bryn Williams | Pennod: Death and Dust |
2007 | Gavin & Stacey | Father Chris | Cyfres Un |
2007 | Y Pris | Davey Eddy | Penodau: Y Dechre, Y Fwled Gynta
|
2008 | Belonging | Will | Pennod: #9.8 |
2008; 2011 | Torchwood | Geraint Cooper | Pennod: Something Borrowed, The New World, The Categories of Life |
2009 | Ar Y Tracs | Carwyn | Cymeriad rheolaidd
|
2010 | Gavin & Stacey | Father Chris | Cyfres Tri |
2010 | Alys | William | Cymeriad Rheolaidd |
Ffilm
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1978 | Casey's Shadow | Weight Scales Jockey Room |
1996 | Darklands | Detective Jarvis |
1997 | Twin Town | Bryn Cartwright |
1999 | Catfish in Black Bean Sauce | Douglas |
1999 | Solomon and Gaenor | Idris Rees |
2000 | Edith's Finger | Vicar |
2000 | Blue Kenny | Dennis Simms |
2000 | The Miracle Maker | (llais) |
2000 | House! | Clipboard |
2001 | Overland | Parry Thomas |
2003 | Y Mabinogi | Hefeydd (llais) |
2006 | January 2nd | Tom |
2007 | The Baker | Alun |
2008 | Freebird | Welsh Farmer |
2010 | Mr. Nice | Mr Marks |
2010 | Ar Y Tracs | Carwyn |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Real life husband and wife play TV happy families (en) , WalesOnline, 12 Ionawr 2008. Cyrchwyd ar 13 Chwefror 2016.
- ↑ One Del of a role! (en) , Penarth Times, 5 Mai 2006.
- ↑ "Spotlight profile of William Thomas". Spotlight. Cyrchwyd 26 January 2011.