Les Contes de ma mère l’Oye
Casgliad enwog o chwedlau gwerin traddodiadol a addaswyd gan y llenor Ffrengig Charles Perrault a'i gyhoeddi yn ei ffurf derfynol yn 1697 yw Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités, a adnabyddir hefyd fel Les Contes de ma mère l’Oye - sef "Chwedlau fy Mam yr Ŵydd" - ac weithiau fel Contes de Perrault, sef Chwedlau Perrault). Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur.
Math o gyfrwng | collection of fairy tales, literary cycle, gwaith creadigol |
---|---|
Awdur | Charles Perrault |
Gwlad | Ffrainc, Teyrnas Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1697 |
Dechrau/Sefydlu | 1695 |
Yn cynnwys | La belle au bois dormant, Le Petit Chaperon rouge, Cinderella, Le Maistre Chat |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Ffrainc |
Y casgliad
golyguMae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:
- La Marquise de Salusses ou la Patience de Griselidis (cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1691)
- Les Souhaits ridicules (cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1693), cerdd
- Peau d’Âne (Croen Mul)
- La Belle au bois dormant (cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1696) (Y Dywysoges Hir Ei Chwsg neu "Sleeping Beauty")
- Le Petit Chaperon rouge (Hugan Goch Fach)
- La Barbe bleue (Barf Las)
- Le Maître chat ou le Chat botté (Pws Esgid Uchel)
- Les Fées (sef Y Tylwyth Teg)
- Cendrillon ou la petite pantoufle de verre (Sinderela)
- Riquet à la houppe
- Le Petit Poucet (Bawd Bach)
Y deunydd
golyguMae tarddiad rhai o'r chwedlau hyn yn hynafol ac yn perthyn i'r ystorfa ryngwladol o chwedlau gwerin. Yn achos rhai ohonynt ceir fersiynau ar draws Ewrasia - o Orllewin Ewrop i Tsieina a Siapan yn achos Sinderela, er enghraifft. Mae casgliad Perrault yn bwysig am ei fod yn cynrychioli'r cam cyntaf yn y broses a arweiniodd at droi'r hen chwedlau hyn ac eraill o'r un dosbarth yn ddeunydd "chwedlau Tylwyth Teg" i blant, gan eu hystumio a'u gweddnewid yn y broses (teg dweud nad oedd hynny yn fwriad gan Perrault).
CopÏwyd ac addaswyd chwedlau Perrault gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg moesoli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes Hugan Goch Fach (Little Red Riding Hood) diolch i fersiwn y Brodyr Grimm a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coediwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.
Testunau cyflawn ar Wikisource
golyguCharles Perrault