Cooish

Gŵyl iaith Manaweg, Ynys Manaw

Mae'r Cooish yn ŵyl sy’n hybu iaith a diwylliant Manaweg a gynhelir ar Ynys Manaw bob mis Tachwedd. Mae'r gair 'Cooish' yn air Manaweg sydd â llawer o ystyron. Gall olygu sgwrs, cyfarfod, achos, neu broblem.[1] Gellid ystyried y Cooish fel fersiwn Manaw o'r Eisteddfod. Ceir hefyd gŵyl iaith Fanaweg arall hŷn, Yn Chruinnaght sydd a'i gwreiddiau yn yr 1920au.

Cooish
Dialog dysgu Manaweg ar ffurf cartŵn

Hanes golygu

Sefydlwyd yr ŵyl gan Phil Gawne yn y 1996 dan yr enw Feailley Ghaelgagh (Gŵyl yr Iaith Manaweg), yn dilyn taith ymchwil i asiantaethau datblygu Gaeleg yr Alban yn Inverness ac Ynys Skye.[2] Cafodd Feailley Ghaelgagh ei ail-enwi yn ddiweddarach yn Cooish.[3]

Daeth y Feailley Ghaelgagh yn nodwedd bwysig o fywyd diwylliannol Manaweg drwy gydol y 1990au a'r 2000au a bu'n ŵyl wythnos o hyd yn ystod y cyfnod hwn.[4] Yn ddiweddarach dychwelodd i fod yn ŵyl ddeuddydd, gan aros felly.[5] Trwy ennill cefnogaeth gan fusnesau lleol a llywodraeth Manaw, yn ogystal â hysbysebu’n helaeth, mae’r ŵyl wedi gallu “sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl y wlad yn ymwybodol o’r iaith.”[2]

Ar ôl cyfnod o flynyddoedd anodd,[6] ail-lansiwyd The Cooish yn 2017 yn nhref Peel gan Adrian Cain, Yn Greinneyder:

"Roedd y Cooish yn llwyddiannus iawn yn hyrwyddo a chodi proffil Manaweg," meddai Adrian. "Ond ar ôl sbel ro’n i’n meddwl ein bod ni’n gwneud cymaint o waith yn hybu’r iaith Fanaweg drwy’r flwyddyn nes ei bod hi’n edrych yn ddigon rhyfedd i ddweud bod rhaid gwneud rhywbeth mewn un wythnos arbennig. Felly gadawon ni fe am ychydig."[1]

Yn 2018, lansiwyd Gwobr Londeyr ("llusern") ar gyfer pobl sydd wedi gwneud ymdrechion newydd i hybu defnydd bob dydd o’r iaith Fanaweg.[7] Mae'r wobr yn cydnabod ymdrechion aelodau o'r gymuned sydd wedi cael eu gweld yn defnyddio a chefnogi'r defnydd o'r iaith Fanaweg yn feunyddiol.[8]

Digwyddiadau golygu

Trefnir y Cooish gan Yn Çheshaght Ghailckagh gyda chefnogaeth y Manx Heritage Foundation a Chynghorau Celfyddydau Ynys Manaw ynghyd â busnesau lleol[9][10] a rhwydwaith mudiad eiriolaeth y Fanaweg, Pobble.

Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau a gynhelir yn ystod yr ŵyl yn seiliedig ar y Fanaweg a’r anogaeth i’w defnyddio. Defnyddir boreau coffi a ‘Pop-Up Gaeltaghyn’ (a ysbrydolwyd gan y Pop-up Gaeltacht ar gyfer y Wyddeleg yn Iwerddon) fel cyfle i bobl ymarfer eu Manaweg mewn lleoliad anffurfiol, hamddenol.[11] Mae gweithdai iaith i helpu pobl sydd â diddordeb mewn dysgu neu wella eu Manaweg, yn ogystal â sesiynau gwybodaeth cyffredinol i rieni drafod manteision dwyieithrwydd ac anfon eu plentyn i'r ysgol gynradd Fanaweg, Bunscoill Ghaelgagh neu rhwydwaith grwpiau meithrin a chwarae i blant, Mooinjer veggey (yn llythrennol, "pobl bychan" hynny yw, "tylwyth teg" mewn chwedloniaeth Fanaweg).[12]

Er mai prif bwrpas y Cooish yw hybu'r iaith Fanaweg, ei nod yw dod â gwahanol elfennau o'r byd Gaeleg ynghyd i ddathlu eu treftadaeth gyffredin. Mae artistiaid a cherddorion o wledydd Gaeleg eraill yn perfformio'n aml mewn digwyddiadau Cooish.[4][13][14]

Mae gweithdai cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon ac yn ogystal â pherfformiadau dawns a cherddoriaeth draddodiadol trwy gydol yr ŵyl.[6] Mae sesiynau tafarn gyda'r hwyr a chyngherddau hefyd yn rhan bwysig o'r ŵyl.

Mae'r Cooish hefyd wedi darparu lle i gyhoeddiadau iaith Manaweg newydd gan Yn Çheshaght Ghailckagh gael eu lansio, megis Droghad ny Seihll gan Christopher Lewin a First Thousand Words in Manx.[15][16]

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Cooish Review". Learn Manx. Cyrchwyd 31 July 2020.
  2. 2.0 2.1 Gawne, Phil. "Securing the Future of Manx Gaelic". http://www.poileasaidh.celtscot.ed.ac.uk/gawneseminar.html Retrieved 17 July 2020.
  3. Vrieland, Seán D. (7 September 2013). "What Norfolk Island can learn from Manx". Revived Languages. Cyrchwyd 31 July 2020.
  4. 4.0 4.1 "Cooish Festival: Manx language and culture celebration gets under way". BBC. 7 October 2012. Cyrchwyd 31 July 2020.
  5. "Cooish celebrates the Manx language". IOM Today. 1 November 2019. Cyrchwyd 31 July 2020.[dolen marw]
  6. 6.0 6.1 Caine, Valerie (December 2017). "The Cooish: Manx Language Festival Re-launched". Isle of Man. Cyrchwyd 31 July 2020.
  7. "Cooish award for Manx Radio journalist". Manx Radio. 18 November 2018. Cyrchwyd 31 July 2020.
  8. Wade, Mike (25 Tachwedd 2018). "The Cooish 2018: Helping people to learn to speak Manx". IOM Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.[dolen marw]
  9. The Manx Heritage Foundation: Annual Report and Accounts 2001 - 2002 (Adroddiad). 31 Mai 2002. https://www.culturevannin.im/media/Annual%20Reports/Annual%20Report-2002.pdf. Adalwyd 31 Gorffennaf 2020.
  10. "Cooish Gaelic festival kicks off". BBC (yn Saesneg). 25 November 2006. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.
  11. "Cooish 2019: Claare y Chooish 2019". Learn Manx. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.
  12. Kneale, Alastair (30 Hydref 2019). "Cooish Manx Language Festival 2019". Transceltic (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.
  13. "The Cooish will celebrate Manx language and Gaelic heritage". BBC. 11 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 31 July 2020.
  14. "Cooish - Manx Language Week". Manx Music (yn Saesneg). 1 October 2011. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.
  15. "Cooish: Book Launch of Droghad ny Seihill". Cowag: Blog ayns Gaelg cour studeyrn. 29 November 2010. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.
  16. "First 1000 Words". Learn Manx (yn Saesneg). 16 Hydref 2017. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2020.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Manaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato